Nicandros

Bardd a gramadegydd yn yr iaith Roeg

Bardd a gramadegydd yn yr iaith Roeg oedd Nicandros (hefyd Nicander; Groeg: Νίκανδρος) (fl. ganol yr ail ganrif CC), yn enedigol o ddinas Colophon yn Asia Leiaf.

Nicandros
Ganwyd250 CC Edit this on Wikidata
Colophon Edit this on Wikidata
Bu farw170 CC Edit this on Wikidata
Galwedigaethmeddyg, bardd, hanesydd, epigramwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTheriaca Edit this on Wikidata
Am y bardd Cymraeg Nicander, gweler Morris Williams. Am enghreifftiau eraill o'r enw Nicander gweler Nicander (gwahaniaethu).

Offeiriad etifeddol yng ngwasanaeth y duw Apollo oedd Nicander. Roedd hefyd yn feddyg galluog. Treuliai gyfnodau hir yn ardal Aetolia ac yn ninas Pergamom.

Cyfansoddai nifer o lyfrau, gan gynnwys traethawd hir ar amaeth (erys darnau ohoni ar glawr) a llyfr ar ymrithiadau (metamorphoses) a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell gan y bardd Lladin Ofydd ac eraill.

Mae dwy o'i gerddi ar glawr ond nid oes iddyn nhw lawer o werth llenyddol, sef y Theriaca, ar feddyginiaethau yn erbyn brath nadroedd, a'r Alexipharmaca, ar wenwynau mewn bwyd a diod a sut i'w cwffio.