Nicola Heywood-Thomas

darlledwr a newyddiadurwr o Gymraes

Darlledwr a newyddiadurwr o Gymraes oedd Nicola Anne Heywood-Thomas (17 Mai 19556 Ebrill 2023), a weithiodd i BBC Radio Wales a HTV, lle treuliodd 18 mlynedd fel cyflwynydd newyddion.[1]

Nicola Heywood-Thomas
Ganwyd17 Mai 1955 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ebrill 2023 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd teledu, cyflwynydd radio, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Ymunodd Heywood-Thomas â BBC Radio Wales yn syth o'r brifysgol, ac yn ddiweddarach cyflwynodd raglen gelfyddydau yr orsaf, Radio Wales Arts Show, am 25 mlynedd. Bu hefyd yn is-olygydd, cyflwynydd a gohebydd i BBC Wales Today, er ei bod yn cael ei chofio'n well am ei chyfnod gyda HTV. Derbyniodd Wobrau BAFTA Cymru.

Gwnaeth ei hymddangosiad radio olaf ym mis Chwefror 2023, ac roedd yn cael cemotherapi ar adeg ei marwolaeth. Bu farw yn 67 oed ar 6 Ebrill 2023. Roedd yn briod a Grahame Lloyd hyd at 2013 ac roedd ganddynt tri plentyn.[2][3][4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "BBC and HTV broadcaster Nicola Heywood-Thomas dies at 67". BBC News. BBC. 7 Ebrill 2023. Cyrchwyd 7 Ebrill 2023.
  2. @UKBritVoice (7 Ebrill 2023). "Thank you both for your condolences. Nicola and I divorced 10 years ago but I have very fond memories. She was a wonderful mother and a superb broadcaster. Our three children, Tom, Becca and Alys, have been magnificent since her ilness was diagnosed. She will be greatly missed" (Trydariad) (yn Saesneg) – drwy Twitter.
  3. Elliott-Gibbs, Sam; Fitzgerald, Todd (7 April 2023). "ITV newsreader and BBC presenter Nicola Heywood-Thomas dies". Manchester Evening News (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Ebrill 2023.
  4. Martin, Roy (7 Ebrill 2023). "Tributes paid to BBC Radio Wales presenter Nicola Heywood-Thomas" (yn Saesneg). Radio Today. Cyrchwyd 7 Ebrill 2023.

Dolenni allanol golygu