Nid Sianel Gyffredin Mohoni!
Llyfr ar hanes Sefydlu S4C gan Elain Price yw Nid Sianel Gyffredin Mohoni! a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg Prifysgol Cymru. Man cyhoeddi: Caerdydd, Cymru.[1]
Awdur | Elain Price |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 12/07/2016 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781783168880 |
Genre | Hanes Cymru |
Dyma'r astudiaeth gyntaf o hanes blynyddoedd cynnar y sianel deledu S4C, un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru. Trwy gyfrwng cofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau, eir ati i gloriannu penderfyniadau a gweithgareddau'r sianel yn ystod y cyfnod prawf rhwng 1981 a 1985.
Mae Dr Elain Price yn Ddarlithydd ym maes Astudiaethau'r Cyfryngau yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe.
Daw'r teitl o slogan marchnata Super Ted: "Nid tedi cyffredin mohono".