Nigel Shadbolt
Athro deallusrwydd artiffisial a phennaeth Grŵp Gwyddor y We a'r Rhyngrwydd ym Mhrifysgol Southampton yw Syr Nigel Richard Shadbolt FREng CEng CITP FBCS CPsychol (ganwyd 9 Ebrill 1956)[1]. Ef yw cadeirydd y Sefydliad Data Agored a gyd-sefydlodd gyda Syr Tim Berners-Lee.[2] O fis Awst 2015, bydd e'n cymryd swydd Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen.
Nigel Shadbolt | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ebrill 1956 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwyddonydd cyfrifiadurol, prifathro, academydd |
Cyflogwr |
|
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Fellow of the Royal Academy of Engineering, Fellow of the British Computer Society, Marchog Faglor |
Gwefan | https://www.cs.ox.ac.uk/people/nigel.shadbolt |
Mae Shadbolt yn ymchwilydd rhyngddisgyblaethol, yn arbenigwr polisi, ac yn sylwebydd. Mae wedi astudio ac wedi ymchwilio ym meysydd Seicoleg, Gwyddor Gwybyddol, Niwrowyddoniaeth Cyfriannol, Deallusrwydd Artiffisial, Gwyddoniaeth Cyfrifiadurol, a maes newydd Gwyddor y We. Mae wedi cyfrannu'n sylweddol at bob un o'r disgyblaethau hyn.[3] Craidd y cyfan o'i waith yw ei ddymuniad i ddeall sut mae ymddygiad deallus yn ymgorffori ac yn ymddangos mewn bodau dynol, peiriannau, ac yn fwyaf ddiweddar ar y We.[4]
Addysg
golyguGanwyd Shadbolt yn Llundain. Astudiodd am radd israddedig mewn athroniaeth a seicoleg ym Mhrifysgol Newcaslte.[4] Gafodd ei PhD o Adran Deallusrwydd Artiffisial Prifysgol Caeredin. Canlyniad y gwaith oedd creu fframwaith i ddeall sut mae deialog dynol yn cael ei drefnu.
Ymchwil
golyguMae ymchwil Shadbolt wedi bod ym maes Deallusrwydd Artiffisial ers y 1970au diweddar[5][6] gan weithio ar rychwant o bynciau - o Ddeall Ieithoedd Naturiol a Roboteg[7] draw i Systemau Arbenigwr, Niwrowyddoniaeth Cyfriannol, Cof[8] draw i'r We Semantig[9] a Data Cysylltiedig.[10] Mae hefyd wedi ysgrifennu am oblygiadau ehangach ei ymchwil. Un enghraifft o hyn yw'r llyfr a ysgrifennodd ar y cyd â Kieron O'Hara sy'n archwilio preifatrwydd ac ymddiriedaeth yn yr Oes Ddigidol - The Spy in the Coffee Machine.[11] Mae ei ymchwil mwyaf ddiweddar yn canolbwyntio ar beiriannau cymdeithasol - deall datrys problemau newydd sy'n codi o gyfuno bodau dynol, cyfrifiaduron, a data ar y we. Mae'r prosiect SOCIAM[12] ar beiriannau cymdeithasol yn cael ei gyllido gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianegol[13]
Gyrfa
golyguYm 1983 symudodd Shadbolt i Brifysgol Nottingham ac yno ymunodd â'r Adran Seicoleg. Yn 2000, symudodd i Ysgol Electroneg a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Southampton.
Rhwng 2000 a 2007, bu'n arwain a chyfarwyddo Cydweithredu Ymchwil Rhyngddisgyblaethol Uwchefrydiau Technoleg Gwybodaeth.[14] Gwnaeth y cydweithrediad hwnnw gynhyrchu peth o'r ymchwil We Semantig fwyaf pwysig o'r cyfnod, fel sut gall gwybodaeth amryfal ei gynaeafu a'i integreiddio[15] a sut gall semanteg helpu systemau cyfrifiaduron argymell cynnwys.
Yn 2006 daeth Shadbolt yn Gymrawd Academi Brenhinol Peirianneg (FREng). Mae'n Gymrawd o Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (FBCS), ac ef oedd ei llywydd ym mlwyddyn ei hanner-canmlwyddiant. Yr un flwyddyn, sefydlodd Nigel Shadbolt, Syr Tim Berners-Lee,[16] y Fonesig Wendy Hall, a Daniel Weitzner Fenter Ymchwil Gwyddor y We, er mwyn hyrwyddo disgybliaeth Gwyddor y We [17] ac i fagu cydweithred ymchwil rhwng Prifysgol Southampton a'r Massachusetts Institute of Technology.
Yn 2007 daeth Shadbolt yn ddirprwy pennaeth Ysgol Electroneg a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol Prifysgol Southampton.
Arweiniodd ei ymchwil Gwe Semantig i ffurfio Garlik,[18] gan gynnig gwasanaethau ammddiffyn hunaniaeth. Yn 2008, gwobrwywyd Garlik statws Technology Pioneer gan Fforwm Economaidd y Byd yn Davos World Economic Forum, ac enillodd hefyd gwobr fawreddog UK BT Flagship IT Award. Roedd gan Garlik dros 500,000 o ddefnyddwyr pan fe'i brynwyd gan Experian ym mis Tachwedd 2011.
Ym mis Mehefin 2009 fe'i benodwyd gyda Syr Tim Berners-Lee yn Gynghorydd Gwybodaeth i lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Arweiniai'r ddau dîm yn datblygu'r wefan data.gov.uk, un mynediad i holl ddata amhersonol cyhoeddus y DG.[19][20] Ym mis Mai 2010 fe'i benodwyd gan lywodraeth y DG i Fwrdd Tryloywder y Sector Cyhoeddus yn gyfrifol dros osod safonau data agored dros y sector cyhoeddus a thros ddatblygu'r hawl gyfreithiol i Ddata.
Ym mis Rhagfyr 2012, lansiodd Shadbolt a Tim Berners-Lee y Sefydliad 'Data Agored' yn swyddogol. Mae'n gweithio i ddeori a magu busnesau newydd sydd eisiau defnyddio data agored, hyfforddi a hyrwyddo safonau.
Yn 2013, ymunodd Shadbolt a Tim Berners-Lee â bwrdd ymgynhorwyr tech startup State.com, gan greu rhwydwaith o farnau strwythuredig ar y we Semantig.[21]
Bywyd personol
golyguMae Syr Nigel yn briod â Bev Saunders, sy'n gynllunydd, ac mae ganddynt ddau o blant.[1]
Gwobrau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 SHADBOLT, Prof. Nigel Richard. Who's Who. 2014 (arg. online edition via Oxford University Press). A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc. Nodyn:Subscription required
- ↑ theodi.org
- ↑ "Publications | Nigel Shadbolt". Users.ecs.soton.ac.uk. 2014-03-12. Cyrchwyd 2014-03-19.
- ↑ 4.0 4.1 http://users.ecs.soton.ac.uk/nrs/curriculum-vitae/ Curriculum Vitae Nigel Shadbolt
- ↑ Nodyn:GoogleScholar
- ↑ Nodyn:DBLP
- ↑
- ↑
- ↑ Shadbolt, Nigel; Berners-Lee, Tim; Hall, Wendy (2006). "The Semantic Web Revisited". IEEE Intelligent Systems 21 (3): 96–101. doi:10.1109/MIS.2006.62. http://eprints.soton.ac.uk/262614/1/Semantic_Web_Revisted.pdf.
- ↑
- ↑ Kieron O'Hara (2008). The Spy in the Coffee Machine. Oxford, England: Oneworld Publications. ISBN 1-85168-554-5.
- ↑ "sociam.org". sociam.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-19. Cyrchwyd 2014-03-19.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-19. Cyrchwyd 2014-07-15.
- ↑ "AKT". Aktors.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-20. Cyrchwyd 2014-03-19.
- ↑ "CS AKTive Space: Representing Computer Science in the Semantic Web". ePrints Soton. Cyrchwyd 2014-03-19.
- ↑
- ↑
- ↑ "garlik.com". garlik.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-14. Cyrchwyd 2014-03-19.
- ↑ Arthur, Charles (2010-01-21). "The Guardian 21stJan 2010". London. Cyrchwyd 2010-05-20.
- ↑ Berners-Lee, Tim; Shadbolt, Nigel (2010-01-21). "Guardian Data Blog 21st Jan 2010". The Guardian. London. Cyrchwyd 2010-05-20.
- ↑ "State.com/about". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2013-09-09. Ym mis Gorffennaf 2014 cyhoeddwyd mai Shadbolt fydd Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen, yn dechrau ym mis Awst 2015 yn dilyn ymddeoliad yr Arglwydd Krebs.
- ↑ London Gazette: (Supplement) no. 60534. p. 2. 15 June 2013.
- ↑ "Birthday Honours List 2013" (PDF). HM Government. 14 June 2013. Cyrchwyd 14 June 2013.