Night Must Fall (drama)

Mae Night Must Fall yn ddrama cyffro seicolegol, gan Emlyn Williams, a berfformiwyd gyntaf ym 1935. Bu tri addasiad ffilm, Night Must Fall (1937); addasiad 1954 ar y gyfres deledu Ponds Theatre gyda Terry Kilburn, Una O'Connor, ac Evelyn Varden; a Night Must Fall (1964).

Night Must Fall
First edition (1935)
AwdurEmlyn Williams
Perfformiad cyntafMai 31, 1935 (1935-05-31)
Lleoliad perfformiad cyntafDuchess Theatre, London

Mae Mrs Bramson, dynes oedrannus chwerw, ffyslyd, hunan truenus, yn byw mewn rhan anghysbell o Essex, gyda'i nith ddeallus ond darostyngedig, Olivia. Mae Mrs Bramson yn treulio ei holl amser yn cwyno wrth eistedd mewn cadair olwyn (er y datgelir yn ystod y ddrama nad oes ganddi unrhyw anabledd o gwbl mewn gwirionedd). Mae'r staff sydd yn gweithio iddi, Dora, morwyn ifanc, sensitif a Mrs Terrence, y cogydd yn ei chasau hi. Mae hi'n cael ei chasau gan Olivia hefyd gan fod Mrs Bramson yn ei thrin hi fel morwyn.

Un diwrnod, mae Dora yn datgelu ei bod yn feichiog. Mae Mrs Bramson yn ystyried ei diswyddo, ond yna mae'n penderfynu perswadio tad y plentyn i briodi Dora. Mae'r tad yn troi allan i fod yn ddyn ifanc hynaws, golygus o'r enw Dan. Mae'n swyno Mrs Bramson bron ar unwaith, gan beri iddi anghofio popeth am feichiogrwydd Dora a chyflogi Dan fel ei chynorthwyydd preifat.

Fodd bynnag, nid yw Olivia yn cael ei swyno gan Dan. Mae hi'n teimlo bod ei hynawsedd yn ffasâd celwyddog sy'n cuddio rhywbeth sinistr. Mae ei hamheuon yn tyfu pan adroddir, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, fod merch olygus leol wedi mynd ar goll. Gan gredu bod gan Dan rhan yn niflaniad y ferch, mae hi, y staff, a’i hedmygydd rhwysgfawr, Hubert, yn mynd trwy bethau Dan pan nad yw o gwmpas. Wrth iddynt chwilio ei eiddo maent yn dod o hyd i lun o Dan a’r ddynes goll wedi’i chuddio ymhlith ei eiddo. Mae'r darganfyddiad ysgytwol hwn yn cryfhau amheuon a phenderfyniad Olivia i brofi mae un ffug yw cymeriad ymddangosol Dan.

Un noson, ychydig yn niweddarach, mae llaw ddynol yn cael ei chanfod yn y sbwriel y tu allan i'r tŷ. Nes ymlaen, darganfyddir corff yn y coed — corff y fenyw sydd ar goll, ond heb ei phen. Erbyn hyn mae Olivia yn ofni bod Dan yn llofrudd. Mae hi hefyd yn credu ei fod yn cadw'r pen mewn blwch het bach a ddaeth i'r tŷ gydag ef. Ynghanol yr anhrefn i gyd, mae Hubert yn ceisio argyhoeddi Olivia i redeg i ffwrdd ag ef i ddod yn wraig iddo, ond mae hi'n gwrthod.

Un noson, mae Mrs Bramson yn datgelu i Olivia bod ganddi gannoedd o bunnoedd dan glo mewn sêff yng nghanol yr ystafell fyw. Mae Olivia yn ei rhybuddio nad yw'n ddoeth gadael sêff mewn golwg plaen, ond mae Mrs Bramson yn gwrthod gwrando. Yn ddiweddarach y noson honno, mae Olivia yn ceisio wynebu Dan eto ac mae'n dweud wrthi am ei orffennol. Mae hi'n dweud wrtho ef pam ei bod hi'n goddef ei modryb gas, ac yn dweud ei bod yn dymuno y gallai ei lladd. Mae Dan yn ymateb gan ddweud na allai gwneud, mae'n debyg. Mae'r ddau yn rhannu eiliad fer o ddealltwriaeth.

Mae Belsize, heddwas o Scotland Yard wedi torri ar eu traws. Mae wedi dod i holi Olivia a Dan mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth. Wrth gyfweld â Dan, mae Belsize yn darganfod y blwch het sydd wedi'i gloi. Mae'n gofyn i Dan am yr allwedd, ond dywed Dan nad ei eiddo ef mohono. Wrth i Belsize dyfu’n fwy amheus, mae Olivia yn dod i mewn ac yn honni bod y blwch hetiau yn eiddo iddi hi ac yn ei roi yn ei hystafell.

Yn ddiweddarach y noson honno, wrth i'r staff paratoi i fynd adref dywed Olivia ei bod hi am adael hefyd er mwyn aros gyda ffrindiau yn Llundain. Mae Olivia'n dweud wrth Mrs Bramson ei bod yn rhy ofnus i aros yn y tŷ ac yn ei rhybuddio hi i ymadael â'r tŷ hefyd. Unwaith eto, mae Mrs Bramson yn gwrthod gwrando ar ei nith, gan ddweud ei bod yn or-cynhyrfu. Wrth i Dora a Mrs Terrence paratoi i adael, mae Dan yn penderfynu mynd gyda nhw. Mae Mrs Bramson yn cael ei gadael ar ei phen ei hun ac, am y tro cyntaf, mae'r gynulleidfa'n gweld ei bod hi hefyd wedi dychryn. Mae Dan yn dychwelyd yn fuan ac yn cael Mrs Bramson yn barod i'r gwely.

Pan mae Mrs Bramson yn syrthio i gysgu, mae Dan yn cael gobennydd ac yn ei mygu i farwolaeth, er nad yw hyn yn cael ei ddangos yn benodol. Yna mae Dan yn agor y sêff ac yn dwyn yr arian. Mae Olivia yn dychwelyd ac yn canfod corff ei modryb ac yn gweld Dan yn paratoi i losgi'r tŷ'n ulw. Mae hi'n dweud wrth Dan ei bod hi yn gwybod be mae o wedi gwneud. Mae Dan yn cyfaddef pob dim. Mae'r ddau yn gweld goleuadau car heddlu yn nesau at y tŷ. Dywed Olivia na ddylai'r heddlu cael mynediad, gan ddangos ei bod wedi syrthio mewn cariad â Dan ac am ei amddiffyn.

Mae Belsize a'i swyddogion heddlu yn arestio Dan. Mae Dora a Mrs Terrence hefyd yn bresennol. Mae Olivia yn ceisio awgrymu ei bod hi hefyd yn rhan o'r drosedd, ond ni yw Dan yn caniatau iddi wneud, gan gyfaddef mai ei waith ef yn unig oedd y cyfan. Cyn iddo gael ei lusgo i ffwrdd, mae'n edrych yn y drych ac yn siarad ag ef ei hun, gan brofi ei fod mewn gwirionedd yn wallgof. Yna mae'n cydio yn Olivia ac yn ei chusanu'n angerddol.

Cynyrchiadau

golygu

Llundain

golygu

Cyfarwyddodd Miles Malleson y cynhyrchiad gwreiddiol o Night Must Fall am y tro cyntaf ar 31 Mai, 1935, yn Theatr y Dduges, Llundain.[1] Cyn ei agoriad ffurfiol y West End aeth ar daith ragarweiniol o amgylch Caeredin, Newcastle upon Tyne a Glasgow . Rhedodd y ddrama yn Llundain am 436 o berfformiadau.[2]

  • Eric Stanley… Yr Arglwydd Brif Ustus [1]
  • May Whitty ... Mrs. Bramson
  • Angela Baddeley … Olivia Grayne
  • Basil Radford … Hubert Laurie
  • Dorothy Langley… Nyrs Libby
  • Kathleen Harrison … Mrs. Terence
  • Betty Jardine… Dora Parkoe
  • Matthew Boulton… Arolygydd Belsize
  • Emlyn Williams … Dan

Efrog Newydd

golygu

Agorodd cynhyrchiad Efrog Newydd o Night Must Fall ar Broadway ar 28 Medi, 1936, yn Theatr Ethel Barrymore. Wedi'i chynhyrchu gan Sam H. Harris a'i chyfarwyddo gan Emlyn Williams, rhedodd y ddrama am 64 o berfformiadau.[3]

  • Ben Webster … Yr Arglwydd Brif Ustus [4]
  • Mai Whitty ... Mrs. Bramson
  • Angela Baddeley… Olivia Grayne
  • Michael Shepley … Hubert Laurie
  • Shirley Gale… Nyrs Libby
  • Doris Hare … Mrs. Terence
  • Betty Jardine… Dora Parkoe
  • Matthew Boulton… Arolygydd Belsize
  • Emlyn Williams… Dan

Adfywiadau

golygu

Agorodd yr adfywiad diweddaraf y West End yn y Theatre Royal, Haymarket ar 14 Hydref, 1996. Roedd yn serennu Jason Donovan fel Dan, Rosemary Leach fel Mrs Bramson a Charlotte Fryer fel Olivia Grayne.[5] Fe barhaodd prin ddeufis yng nghanol adolygiadau ofnadwy, yn benaf oherwydd ymgais anffodus Donovan i siarad mewn acen Gymreig.[6][7]

Roedd Matthew Broderick yn serennu fel Dan mewn adfywiad Broadway a fu'n rhedeg rhwng 2 Chwefror a 27 Mehefin, 1999 yn Theatr y Lyceum ac yna Theatr Helen Hayes. Roedd y cast yn cynnwys Judy Parfitt fel Mrs Bramson a J. Smith-Cameron fel Olivia Grayne.[8]

Addasiadau

golygu
 
Rosalind Russell a Robert Montgomery yn Night Must Fall (1937)

Ysgrifennwyd addasiad ffilm ym 1937 gan ddefnyddio'r un teitl a'r ddrama wreiddiol wedi ei addasu gan John Van Druten, yn serennu Robert Montgomery, Rosalind Russell, a'r Fonesig May Whitty, wedi ei gyfarwyddo gan Richard Thorpe. Ail-ymwelodd y Fonesig May Whitty â'r un rôl wrth i'r ddrama llwyfan cael ei pherfformio yn Llundain ac yn Ninas Efrog Newydd .

Cafwyd addasiad ar gyfer y teledu ei chynhyrchu ym 1954 fel rhan o'r gyfres Ponds Theatre yn serennu Terry Kilburn, Una O'Connor, ac Evelyn Varden .

Gwnaed ail ffilm o'r ddrama ym 1964 gan Karel Reisz o sgript gan Clive Exton, ac yn serennu Albert Finney, Susan Hampshire, a Sheila Hancock, ond nid oedd mor llwyddiannus â'r ffilm wreiddiol.

Cyflwynwyd addasiad radio o Night Must Fall fel rhan o'r gyfres Philip Morris Playhouse ar 24 Hydref, 1941. Yn serennu Burgess Meredith, Maureen O'Sullivan a Flora Robson, nid yw'r rhaglen wedi goroesi mewn casgliadau radio.[9]

Addaswyd Night Must Fall ar gyfer darllediad 24 Gorffennaf, 1944, o The Screen Guild Theatre, cyfres radio boblogaidd yn yr Unol Daleithiau. James Cagney, Rosemary DeCamp a May Whitty oedd ser y cynhyrchiad hwn.[10][11]

Addaswyd Night Must Fall ar gyfer darllediad 12 Ebrill, 1946 o gyfres NBC Mollé Mystery Theatre NBC gan Don Agger ac yn serennu Ian Martin fel Danny (Dan), Virginia Field fel Olivia, Ethel Browning fel Mrs. Bramson, Thelma Jordan fel Dora, Anthony Kemble Cooper fel Hubert Laurie, a Neil Fitzgerald fel yr Arolygydd Belsize.

Cynhyrchodd, cyflwynodd a serennodd Robert Montgomery mewn addasiad Radio CBS o Night Must Fall ar y gyfres radio Suspense ar 27 Mawrth, 1948. Fe wnaeth May Whitty, Heather Angel, Richard Ney a Matthew Boulton gyd-serennu.[12][13]

Cymerodd y Fonesig Sybil Thorndike ran Mrs. Bramson mewn cynhyrchiad ym 1969 ar gyfer BBC Radio 4, wedi'i gyfarwyddo gan Betty Davies ac yn cynnwys yr awdur radio toreithiog o Gymru, William Ingram fel Danny. Ym 1985 darlledodd BBC Radio 4 cynhyrchiad arall o'r ddrama, gyda Hywel Bennett yn serennu. Ail-ddarlledwyd yr orsaf y ddrama ym 1987, blwyddyn marwolaeth Emlyn Williams.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Williams, Emlyn (1935). Night Must Fall: A Play in Three Acts. New York: Samuel French, Inc. t. 144. Cyrchwyd 2015-08-01.
  2. Kabatchnik, Amnon (2010). Blood on the Stage 1925–1950: Milestone Plays of Crime, Mystery, and Detection. Lanham, Maryland: Scarecrow Press. ISBN 9780810869639.
  3. "Night Must Fall". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 2015-08-01.
  4. Williams, Emlyn (1935). Night Must Fall: A Play in Three Acts. New York: Samuel French, Inc. t. 8. Cyrchwyd 2015-08-01.
  5. https://variety.com/1996/legit/reviews/night-must-fall-2-1200447108/
  6. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-01. Cyrchwyd 2019-10-20.
  7. https://www.independent.co.uk/arts-entertainment/night-must-fall-haymarket-london-1358597.html
  8. "Night Must Fall". Internet Broadway Database. Cyrchwyd 2015-08-01.
  9. "Philip Morris Playhouse". The Digital Deli Too. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-24. Cyrchwyd 2015-08-01.
  10. "Suspense". RadioGOLDINdex. J. David Goldin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2015-08-01.
  11. "Night Must Fall". The Screen Guild Theater. Internet Archive. Cyrchwyd 2015-08-01.
  12. "Suspense". RadioGOLDINdex. J. David Goldin. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-20. Cyrchwyd 2015-08-01.
  13. "Night Must Fall". Suspense. Internet Archive. Cyrchwyd 2015-08-01.