Renault
Gwneuthurwr ceir Ffrengig yw Renault S.A. sy'n cynhyrchu ceir, faniau, ac yn y gorffennol, cerbydau autorail, tryciau, tractorau, bysiau, a choetsis. Mae ei gysylltiad â Nissan yn ei wneud yn wneuthurwr ceir trydydd fwyaf y byd.[1] Carlos Ghosn o Frasil yw'r prif weithredwr cyfredol. Ceir mwyaf llwyddiannus y cwmni yw'r Renault Clio a'r Renault Laguna, ac Ewrop yw ei brif farchnad. Bu Renault yn weithgar ym myd rasio moduron ers blynyddoedd, gan gynnwys ralïo a Fformiwla Un. Mae llywodraeth Ffrainc yn berchen ar 15% o'r cwmni.
![]() | |
Math | menter |
---|---|
ISIN | FR0000131906 |
Diwydiant | Diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 24 Rhagfyr 1898 |
Sefydlydd | Louis Renault, Marcel Renault, Fernand Renault |
Pencadlys | |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | car |
Refeniw | 55,537,000,000 Ewro (2019) |
Incwm gweithredol | 2,105,000,000 Ewro (2019) |
Cyfanswm yr asedau | 122,171,000,000 Ewro (31 Rhagfyr 2019) |
Perchnogion | Nissan (15%), Ffrainc (15.01%) |
Nifer a gyflogir | 179,565 (2019) |
Rhiant-gwmni | CAC 40, Renault–Nissan Alliance |
Is gwmni/au | Renault–Nissan Alliance |
Lle ffurfio | Boulogne-Billancourt |
Gwefan |
http://group.renault.com/ ![]() |
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Renault Group website. Renault (27 Mawrth 1999).