Ogof y Patriarchiaid

Cyfres o ogofâu yw Ogof y Patriarchiaid neu Feddrod y Patriarchiaid sydd wedi'u lleoli 30 cilomedr (19 milltir) i'r de o Jeriwsalem, yng nghanol Hen Ddinas Hebron yn y Lan Orllewinol. Cant eu hadnabod gan yr Iddewon fel 'Ogof Machpelah' (Hebraeg: מערת המכפלה, Me'arat HaMakhpela; yn llythrennol mae'n golygu 'Ogof yr Ogofau Dwbwl'), ac i Fwslimiaid fel 'Cysegr Abraham' (Arabeg: الحرم الإبراهيمي, -Haram al-Ibrahimi). Yn ôl y crefyddau Abrahamaidd, prynwyd yr ogof a'r cae cyfagos gan Abraham fel man iddo gael ei gladdu.[1][2]

Ogof y Patriarchiaid
Mathmosg, synagog, beddrod, safle archaeolegol, mawsolëwm Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Uwch y môr890 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.524672°N 35.110758°E Edit this on Wikidata
Map
Beddrod Abraham (Ibrahim) yn ei greirfa uwchben yr ogofâu.

Dros yr ogof saif adeilad carreg caeedig petrual sy'n dyddio o oes Herod (37–4 CC).[3] Yn ystod rheol Bysantaidd y rhanbarth, adeiladwyd basilica ar y safle; troswyd y strwythur yn Fosg Ibrahimi yn dilyn concwest Mwslimaidd y Lefant. Erbyn y 12g, roedd y mosg a'r rhanbarthau o'i amgylch wedi dod o dan reolaeth gwladwriaeth y Croesgadwyr, ond cipiwyd nhw'n ôl yn 1188 gan y swltan Ayyubid Saladin, a drodd yr adeiladau'n fosg unwaith eto.[4]

Yn ystod Rhyfel Chwe Diwrnod 1967, atafaelwyd a meddiannwyd y Lan Orllewinol gyfan gan Wladwriaeth Israel, ac ar ôl hynny rhannwyd y strwythur yn synagog Iddewig a mosg.[5] Ym 1994, digwyddodd cyflafan Ogof y Patriarchiaid ym Mosg Ibrahimi, pan ddaeth terfysgwr o Israel i mewn i'r adeiladau ar wyl Iddewig y Purim - a oedd hefyd yn ystod cyfnod sanctaidd Islamaidd Ramadan - a saethwyd yn farwnifer o Fwslimiaid Palestina a oedd wedi wedi ymgynnull i weddïo yn y mosg, gan ladd 29 o bobl, gan gynnwys plant, a chlwyfo dros 125.[6]

Ystyria'r Iddewon mai'r safle hwn yw ail-le mwyaf sanctaidd yn Hen Ddinas Jerwsalem, ar ôl Mynydd y Deml.[6]

Geirdarddiad

golygu

Mae geirdarddiad (etymoleg) yr enw Hebraeg ar y safle, sef Me'arat Machpelah, o bosib yn dod o'r gair "dyblu", "lluosi" neu "ddeublyg" ac mae Me'arat yn golygu "ogof" felly "yr ogof ddwbl" fyddai cyfieithiad llythrennol. Gallai'r enw gyfeirio at gynllun yr ogof y credir ei bod yn cynnwys dwy siambr gysylltiedig, neu fwy.

Mae rhagdybiaeth arall yn nodi na chyfeiriodd Machpelah at yr ogof ond yn hytrach at ddarn mawr o dir, y Machpelah, gyda'r ogof ar ddiwedd y darn tir.[7] Cefnogir y rhagdybiaeth hon gan rai penillion o'r Beibl fel Genesis 49:30, "yr ogof ym maes Machpelah, ger Mamre yng Ngwlad Cana, a brynodd Abraham ynghyd â'r cae fel man claddu gan Effraim yr Hethiad."[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dever, William G. (2002). What Did the Biblical Writers Know, and when Did They Know It?: What Archaeology Can Tell Us about the Reality of Ancient Israel. Wm. B. Eerdmans Publishing. ISBN 978-0-8028-2126-3.
  2. Davidson, Linda Kay; Gitliz, David Martin. Pilgrimage: From the Ganges to Graceland: an Encyclopedia, Vol 1. t. 91.
  3. Jacobsson, David M. (2000). "Decorative Drafted-margin Masonry in Jerusalem and Hebron and its Relations". The Journal of the Council for British Research in the Levant 32: 135–54. doi:10.1179/lev.2000.32.1.135.
  4. "In Hebron, Israelis and Palestinians share a holy site ... begrudgingly". PRI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Tachwedd 2018. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2018.
  5. Hammond, Constance A. Shalom/Salaam/Peace: A Liberation Theology of Hope. t. 37.
  6. 6.0 6.1 Fundamentalisms and the State: Remaking Polities, Economies, and Militance, University of Chicago Press, edited by Martin E. Marty, R. Scott Appleby, chapter authored by Ehud Sprinzak, p. 472
  7. Merrill, Selah (1890). "The Cave of Machpelah". The Old and New Testament Student 11 (6): 327–335. doi:10.1086/470621. JSTOR 3157472.
  8. "Genesis 23:9". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 December 2018. Cyrchwyd 4 December 2018.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: