Oleh Zujewskyj
Bardd, cyfieithydd, ac academydd Wcreinaidd a ymfudodd i'r Unol Daleithiau ac yna i Ganada oedd Oleh Zujewskyj neu Oleh Zuievsky (16 Chwefror 1920 – 27 Mawrth 1996).
Oleh Zujewskyj | |
---|---|
Ganwyd | 16 Chwefror 1920 Khomutets |
Bu farw | 1996 Edmonton |
Galwedigaeth | cyfieithydd, llenor, bardd, academydd |
Cyflogwr |
|
Ganwyd ym mhentref Khomutets, ardal Myrhorod, yn nhalaith Poltava yng nghanolbarth yr Wcráin. Astudiodd newyddiaduraeth yn Kharkiv, yn gyntaf yn yr ysgol dechnegol ac yna yn y Sefydliad Newyddiaduraeth. Wedi iddo raddio yn 1941, gweithiodd am gyfnod fel newyddiadurwr. Cafodd ei ddadleoli yn ystod yr Ail Ryfel Byd, symudodd i'r Almaen yn 1944, ac ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1950. Gweithiodd am gyfnod fel llafurwr yn Philadelphia, a derbyniodd ei ddoethuriaeth o Brifysgol Pennsylvania yn 1962. Addysgodd iaith a llenyddiaeth Rwseg yn ym Mhrifysgol Fordham, Efrog Newydd o 1960 i 1963 ac ym Mhrifysgol Rutgers o 1963 i 1966. Symudodd i Edmonton yn nhalaith Alberta, Canada, yn 1966 i weithio fel athro ieithoedd a llenyddiaethau Rwseg ac Wcreineg ym Mhrifysgol Alberta, ac yno y bu nes iddo ymddeol yn 1990.[1]
Ysgrifennodd ei gerddi cynharaf ar gyfer y papur newydd myfyrwyr Kadry presy yn 1936. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth Zoloti vorota (1947) ym München, a'i ail gasgliad, Pid Pid znakom feniksa (1958) ym München hefyd, er iddo symud i'r Unol Daleithiau erbyn hynny. Ymhlith ei gyfrolau diweddarach o farddoniaeth mae Holub sered atel’ie (1991) a Vybrane: Poeziï, pereklady (1992). Cyfieithodd hefyd farddoniaeth Ffrangeg, Saesneg, ac Almaeneg i'r Wcreineg.[1][2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Bohdan Medwidsky, "In Memoriam: Oleh Zujewskyj (1920–1996)", Canadian Slavonic Papers cyfrol 38 (1996), tt. 207–8.
- ↑ (Saesneg) "Zuievsky, Oleh", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 6 Rhagfyr 2018.