Kharkiv

Dinas yn Wcráin a chanolfan weinyddol Oblast Kharkiv yw Kharkiv (Wcreineg: Ха́рків, Rwseg: Харькoв Kharkov). Dyma'r ddinas fwyaf yn Nwyrain Wcráin a'r ddinas ail fwyaf yn yr holl wlad, a'r brif ddinas yn rhanbarth hanesyddol Slobozhanshchyna. Saif ar gymer afonydd Uda, Lopan, a Kharkiv.

Kharkiv
Будинок держпромисловості, Харків DJI 0057.jpg
Trem ar Sgwâr Rhyddid yng nghanol y ddinas.
Coat of arms of Kharkiv.svg
Mathcanolfan oblast, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,433,886 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1654 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIhor Terekhov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bologna, Brno, Cetinje, Cincinnati, Daugavpils, Gaziantep, Jinan, Cawnas, Kutaisi, Lille, Nürnberg, Poznań, Rishon LeZion, Tianjin, Warsaw, Steglitz-Zehlendorf, Varna, Trnava, Bangalore, Patras, Porto, Tbilisi, Maribor, Częstochowa Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wcreineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRaion Kharkiv Edit this on Wikidata
GwladBaner Wcráin Wcráin
Arwynebedd350 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr152 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Kharkiv Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.9925°N 36.2311°E Edit this on Wikidata
Cod post61000–61499 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Kharkiv Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIhor Terekhov Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganAleksei I Edit this on Wikidata

HanesGolygu

Anheddid yr ardal o amgylch safle Kharkiv ers yr ail fileniwm CC, a chanfuwyd tystiolaeth o ddiwylliannau Oes yr Efydd, y Sgythiaid, a'r Sarmatiaid. Daeth y Cumaniaid i reoli'r stepdiroedd yn y 12g, ac yn ddiweddarach y Tatariaid. Yn nechrau'r 17g, gorchfygwyd yr ardal gan Tsaraeth Rwsia, a chodwyd garsiynau ac amddiffynfeydd ar hyd y gororau i rwystro goresgyniadau'r Tatariaid. Wrth i'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ehangu tua'r dwyrain, ymsefydlwyd Cosaciaid a gwerinwyr yn y cyffindiroedd er mwyn osgoi'r gwaith llafur a orfodwyd arnynt. Adeiladwyd tref gaerog ar y safle gan Gosaciaid Zaporizhzhia ym 1654–55. Yn ôl y chwedl leol, sefydlwyd y gaer gan Gosac o'r enw Kharko, ond yn wir mae'n debyg iddi gael ei henwi ar ôl Afon Kharkiv. Yn ystod cyfnod yr Hetmanaeth (Llu Zaporizhzhia), dan dra-arglwyddiaeth y Rwsiaid, o ganol yr 17g hyd at 1765, hon oedd canolfan Catrawd Kharkiv, un o israniadau gweinyddol Slobozhanshchyna ac un o brif unedau milwrol y Cosaciaid. Ymgartrefodd nifer o filwyr, marsiandwyr, a chrefftwyr Rwsiaidd yn y gaer, ac ar ei chyrion codwyd nifer o bentrefi di-dreth (slobody) gan y Cosaciaid, a fuont yn amaethu, magu anifeiliaid, ac yn cyfnewid nwyddau er ennill tamaid.

Byddai Kharkiv yn gadarnle bwysig i Ymerodraeth Rwsia hyd at ganol y 18g, pryd gwthiwyd ffiniau'r ymerodraeth tua'r de. Wedi diwedd yr Hetmanaeth, datblygodd y ddinas yn ganolfan fasnachol a diwylliannol yn hytrach na safle filwrol. Cynhaliwyd ffair fasnach flynyddol a atynnai farsiandwyr o orllewin Wcráin, Rwsia, a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop. Sefydlwyd Colegiwm Kharkiv, un o ysgolion crefyddol pwysicaf yr ymerodraeth, ym 1734 a Phrifysgol Kharkiv ym 1805.[1] Adeiladwyd rheilffordd o Kharkiv i faes glo Basn Donets ym 1869, a thyfai diwydiannau'r ddinas, yn enwedig peirianneg, yn y cyfnod hwn.

Yn sgil Chwyldro Rwsia ym 1917, gwnaed Kharkiv yn brifddinas Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin cyn iddi ildio'r safle hwnnw i Kyiv ym 1934.[2] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cipiwyd Kharkiv gan luoedd yr Almaen Natsïaidd yn Hydref 1941, a methiant a fu'r ymdrech gan y Fyddin Goch i ailgipio'r ddinas ym Mai 1942. Llwyddodd y Sofietiaid i yrru'r Almaenwyr allan yn sgil Cyrch Zvezda yn Chwefror 1943, ond ildiodd y ddinas unwaith eto i'r gelyn mewn brwydr arall ym Mawrth. O'r diwedd, daeth Kharkiv eto dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd yn Awst 1943. Bu farw niferoedd mawr o filwyr a thrigolion yn ystod y brwydrau hyn, a difrodwyd y mwyafrif o adeiladau'r ddinas.

DemograffegGolygu

Ar un pryd yr oedd Kharkiv yn ddinas fwy poblog na Kyiv, ond am y gan mlynedd ddiwethaf mae nifer y trigolion wedi gostwng yn raddol. Gostyngodd y boblogaeth o 1,521,000 ym 1995[3] i 1,471,000 yn 2001,[2] 1, 447,000 yn 2011,[1] ac 1,434,000 yn 2021.[2] Mae'n debyg y byddai'r boblogaeth yn lleihau ymhellach o ganlyniad i gyrch Rwsia ar Kharkiv yn 2022, un o frwydrau mwyaf y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 253–55.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Kharkiv. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Mawrth 2022.
  3. (Saesneg) "Kharkiv" yn World Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 13 Mawrth 2022.