Awdur Almaenig a aned yn Baku, prifddinas Aserbaijan yw Olga Grjasnowa (ganwyd 14 Tachwedd 1984) a oedd yn 2019 yn byw yn Berlin, yr Almaen.

Olga Grjasnowa
GanwydОльга Олеговна Грязнова Edit this on Wikidata
14 Tachwedd 1984 Edit this on Wikidata
Baku Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, damcaniaethwr llenyddol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDer Russe ist einer, der Birken liebt, Die juristische Unschärfe einer Ehe Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Anna Seghers, Gwobr Adelbert von Chamisso Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Baku ar 14 Tachwedd 1984. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Göttingen,Sefydliad Llenyddiaeth yr Almaen a Phrifysgol Rhydd Berlin.[1][2][3][4]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Der Russe ist einer, der Birken liebt a Die juristische Unschärfe einer Ehe.

Magwraeth golygu

Ganwyd Olga Grjasnowa i deulu Rwsia-Iddewig, gyda'i thad, Oleg Grjasnow, yn gyfreithiwr a'i mam, Julija Winnikowa, yn gerddolegydd. Daeth y teulu i Hesse ym 1996 fel yr hyn a elwir yn 'ffoaduriaid cwota' (Kontingentflüchtlinge). Dechreuodd Grjasnowa ddysgu Almaeneg pan oedd yn 11 oed. Cwblhaodd ei haddysg uwchradd yn Frankfurt.

 
Olga Grjasnowa yn cyflwyno'i gwaith yn 2014 yng ngwyl Erlanger Poetenfest

Gan ddechrau yn 2005, dilynodd Grjasnowa radd mewn hanes celf ac astudiaethau Slafaidd ym Mhrifysgol Göttingen. Yna newidiodd gyrsiau a chfrestrodd ar gwrs "Ysgrifennu Creadigol" a gynigiwyd gan Sefydliad Llenyddiaeth yr Almaen yn Leipzig, gan ennill ei gradd baglor yn 2010. Ar ôl astudio dramor yng Ngwlad Pwyl, Rwsia (yn Sefydliad Llenyddiaeth Maxim Gorky), ac Israel, ymgymrodd Grjasnowa ag astudiaethau dawns ym Mhrifysgol Rydd Berlin. [5]

Yn 2019 roedd yn aelod o Ganolfan PEN yr Almaen ac yn briod â'r actor o Syria Ayham Majid Agha, gydag un ferch.[6]

Gyrfa golygu

Yn 2007, cymerodd Grjasnowa ran yn "Klagenfurter Literaturkurs". Derbyniodd ysgoloriaeth gan Sefydliad Rosa Luxemburg yn 2008. Cymerodd Grjasnowa ran yn y "Gweithdy Jürgen-Ponto-Writer" yn 2010 a derbyniodd wobr dramodydd WIENER WORTSTAETTEN am ei drama gyntaf Mitfühlende Deutsche (Almaenwyr Cydymdeimladol) yn yr un flwyddyn. Derbyniodd Grjasnowa hefyd ysgoloriaeth Crossing Borders gan y Robert Bosch Stiftung yn 2011 ac Ysgoloriaeth Hermann Lenz yn 2012.

Achos ei nofel gyntaf, Der Russe ist einer, der Birken liebt ('Coed Bedw Holl Gariad y Rwsiaid') gryn gyffro pan gafodd ei chyhoeddi yn 2012 ac fe'i canmolwyd gan lawer o bapurau newydd yr Almaen.[7]

Llyfryddiaeth golygu

  • Der Russe ist einer, der Birken liebt. Nofel (2012). ISBN 978-1590515846
  • Die juristische Unschärfe einer Ehe. Nofel (2014).
  • Gott ist nicht schüchtern. Nofel (2017).[8]
Llyfrau llafar
  • Der Russe ist einer, der Birken liebt. 2012.
  • Die juristische Unschärfe einer Ehe. 2014.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Anna Seghers (2012), Gwobr Adelbert von Chamisso (2015) .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: https://libris.kb.se/katalogisering/0xbfmt0j2r657zl. LIBRIS. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018. dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2013.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014
  3. Dyddiad geni: "Olga Grjasnowa". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Olga Grjasnowa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  5. Galwedigaeth: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.
  6. (yn German) Olga Grjasnowa schreibt Roman über syrische Flüchtlinge, http://www.bz-berlin.de/kultur/mehr-kultur/olga-grjasnowa-schreibt-roman-ueber-syrische-fluechtlinge, adalwyd 2016-10-27
  7. Süddeutsche Zeitung vom 17. März 2012, Neue Zürcher Zeitung vom 13. März 2012, Zeit vom 16. Mawrth 2012, Frankfurter Allgemeine Zeitung vom 25. Februar 2012, Die Welt vom 8 Chwefror 2012
  8. Buchvorschau Archifwyd 2019-07-16 yn y Peiriant Wayback. des Aufbau Verlags