Olwen Rees

actores a aned yn 1945

Actores a chantores o Gymraes yw Olwen Eluned Rees (ganwyd 8 Rhagfyr 1945).[1]

Olwen Rees
Ganwyd1945 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata
MamSassie Rees Edit this on Wikidata
PriodJohnny Tudor Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Olwen Rees yng Nghaernarfon yn ferch i Sassie Rees, cantores oedd yn ymddangos ar raglenni radio i blant yn y 1950au a 1960au. Fe astudiodd drama a cherddoriaeth yng Ngholeg y Normal, Bangor. Ar ôl blwyddyn yn dysgu yn Llandudno dilynodd Olwen ôl-traed ei mam drwy ddod yn actores a chantores broffesiynol.

Mae hi'n briod a'r actor a chantor Johnny Tudor.[2]

Gyrfa golygu

Mae wedi ymddangos yn nifer o gynyrchiadau Cymraeg ar gyfer y BBC a S4C yn cynnwys Y Stafell Ddirgel, Y Rhandir Mwyn, Gwen Tomos a Y Wisg Sidan. Yn Saesneg mae wedi cymryd rhan yn rhaglenni teledu Tartuffe, Strife, Sticky Wicket, Lloyd George a Dylan i'r BBC a Fallen Hero ar gyfer Granada. Yn fwy diweddar mae wedi ymddangos fel Mrs Hargreaves yn Doctors a Nerys, y fam annifyr yn My Family.

Rhwng 2003 a 2014 roedd yn chwarae rhan Lena yn y sebon i bobl ifanc Rownd a Rownd. Fe chwaraeodd ran Muriel yng nghyfres Porthpenwaig a Beti Morris yng nghyfres cyntaf y ddrama 35 Diwrnod.

Mae hi'n aelod sylfaen o gwmni Theatr Pena ac yn gadeirydd y bwrdd.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Manylion cyfarwyddwr Ty'r Cwmniau. FindTheCompany. Adalwyd ar 20 Mai 2016.
  2. Proffil Theatr Pena[dolen marw]; Adalwyd ar 2015-12-02
  3.  Theatr Pena - Who we are. Adalwyd ar 20 Mai 2016.

Dolenni allanol golygu