Johnny Tudor

actor

Actor a chanwr o Gymro yw Johnny Tudor (ganwyd 1944). Cafodd ei eni yng Nghaerdydd.

Johnny Tudor
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata
PriodOlwen Rees Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Magwyd Johnny yn y busnes adloniant - roedd ei dad yn bianydd a chanwr a'i fam yn ddawnswraig.[1] Dysgodd ddawnsio tap gan ei fam ac roedd ei dad yn chwarae piano gyda ef yn y clybiau yn y cymoedd.

Cychwynnodd ei yrfa pan o'n i'n ddeunaw oed. Ei sioe broffesiynol gynta' oedd yn y summer season yn Skegness yn 1963.[2]

Aeth i Abertawe i wneud clyweliad ar gyfer rhaglen o TWW Looking for the Stars ac enillodd y rhaglen. Bu'n canu yn Gymraeg ar raglen Disc a Dawn bob Sadwrn er nad oedd wedi dysgu'r iaith bryd hynny.

Enillodd y rhaglen dalent deledu Opportunity Knocks bedair gwaith o 1969. Yn dilyn hyn fe gystadlodd yn Ngŵyl Caneuon Knokke yn Ngwlad Belg lle enillodd wobr am y perfformiad unigol gorau. Canlyniad hyn oedd cytundeb recordio pum mlynedd gyda Recordiau President.[3]

Mae wedi actio mewn nifer o gynyrchiadau teledu Cymraeg fel Glan Hafren, Iechyd Da, Pobol y Cwm ac Ar y Tracs. Yn yr 1980au fe ymddangosodd gyda'i wraig Olwen ar y rhaglen i blant Dan Draed ar S4C.

Mae wedi ymddangos ym mhob cyfres Gavin and Stacey a rhai penodau o Stella.

Mae Johnny yn nodedig am chwarae mewn pantomeimau gydag enwogion fel Stan Stennett.[4]

Bywyd personol golygu

Mae'n briod a'r actores Olwen Rees.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cwpwrdd Dillad: Johnny Tudor; Adalwyd 2015-12-03
  2. "O Tom Jones i Gavin and Stacey: straeon 60 mlynedd yn 'showbiz'". BBC Cymru Fyw. 2023-10-13. Cyrchwyd 2023-10-13.
  3. Bywgraffiad ar wefan Parker Entertainments Archifwyd 2016-03-10 yn y Peiriant Wayback.; Adalwyd ar 2015-12-03
  4. D’ya wanna be in my Gang? - Wales Online; Adalwyd ar 2015-12-02

Dolenni allanol golygu



   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.