Sassie Rees
canwr (1916-2013)
Cantores Gymraeg oedd Sassie Rees (1916 – 3 Mawrth 2013)[1] a ddaeth yn adnabyddus am ganu ar raglenni plant yn y 1950 - 1960au ar raglenni radio megis Awr Y Plant, Ar Lin Mam a Jim Cro Crystyn. Recordiodd dros 300 o ganeuon ysgafn, y rhan fwyaf gyda'r BBC.[2][3]
Sassie Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1916 Abermaw |
Bu farw | 3 Mawrth 2013 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Plant | Olwen Rees |
Arferai ganu, hefyd, ar y rhaglen "Noson Lawen", ac yn aml ymunai gyda Thriawd y Coleg.
Bywyd cynnar
golyguFe'i ganwyd yn Abermaw a dechreuodd ganu yn 8 oed. Enillodd dros 150 o wobrau mewn gwahanol eisteddfodau cyn yr oedd yn 15 oed.[3]
Bywyd personol
golyguRoedd ganddi un ferch, yr actores Olwen Rees. Bu farw yn Ysbyty'r Waun, Caerdydd yn 97 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Sassie Rees - Obituary. bmdsonline.co.uk (11 Mawrth 2013). Adalwyd ar 12 Mai 2016.
- ↑ Golwg; 7 Mawrth 2013; tudalen 7
- ↑ 3.0 3.1 Sassie Rees yn marw , Golwg360, 3 Mawrth 2013. Cyrchwyd ar 12 Mai 2016.