Operation Payback
Cyfres o ymosodiadau cyd-drefniedig ar wrthwynebwyr morladrad rhyngrwyd gan actifyddion rhyngrwyd yw Operation Payback. Mae'n enghraifft amlwg o'r cysyniad neu gymuned anffurfiol "Anonymous" ar y we. Cafodd ei greu gan ddefnyddwyr 4chan, cymuned arlein a drefnodd yr ymosodiadau Project Chanology gan Anonymous yn erbyn yr Eglwys Scientoleg.
Dechreuodd Operation Payback i daro'n ôl yn erbyn ymosodiadau DDoS ar wefannau torrent; penderfynodd y rhai o blaid "morladrad" lawnsio eu hymosodiadau DDoS eu hunain ar wrthwynebwyr morladrad. Tyfodd hynny yn don o ymosodiadau ar y prif sefydliadau o blaid hawlfraint ac yn erbyn morladrad rhyngrwyd, yn cynnwys gwefananu cwmniau cyfreithiol ac unigolion. Yn Rhagfyr 2010, yn sgîl rhyddhau'r dogfennau "Cablegate", trodd Operation Payback at lawnsio cyfres o ymosodiadau DDoS ar wefannau cwmniau a banciau a oedd wedi terfynnu eu contractau gyda WikiLeaks, dan bwysau o sawl cyfeiriad yn yr Unol Daleithiau.
Operation Avenge Assange
golyguCyfres o ymosodiadau DDoS anferth mewn ymateb i'r ymosodiadau ar WikiLeaks yn dilyn dechrau cyhoeddi'r dogfennau "Cablegate" ar 28 Tachwedd 2010 yw Operation Avenge Assange. Ar ddechrau Rhagfyr 2010, newidiodd Operation Payback ei ffocws i gefnogi WikiLeaks a lawnsiodd ymosodiadau DDoS yn erbyn PayPal, MasterCard, Visa a'r banc Swisaidd PostFinance, i dalu'r pwyth yn ôl am yr ymosodiadau ar WikiLeaks a'i brif olygydd Julian Assange.[1]
Targed[2] | Gwefan[2] | Amser yr ymosodiad[2] |
---|---|---|
PostFinance | postfinance.ch | 2010-12-06 |
Awdurdod Erledigaeth Sweden | aklagare.se | 2010-12-07 |
EveryDNS | everydns.com | 2010-12-07 |
Joseph Lieberman | lieberman.senate.gov | 2010-12-08 |
MasterCard | mastercard.com | 2010-12-08 10:30 UTC |
Borgstrom a Bodström | advbyra.se | 2010-12-08 |
Visa | visa.com | 2010-12-08 21:00 UTC |
Sarah Palin[3] | sarahpac.com | 2010-12-08 |
Paypal | paypal.com | 2010-12-09 02:50 UTC |
Amazon[4] | amazon.com | 2010-12-09 (Aborted)[5] |
Paypal | api.paypal.com:443 | 2010-12-10 09:00 UTC |
MoneyBookers | www.moneybookers.com | 2010-12-10 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "‘Tis the Season of DDoS – WikiLeaks Edition"[dolen farw], PandaLabs. 12.11.2010.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Anonops.net[dolen farw]
- ↑ Exclusive: Sarah Palin Under Cyber-Attack from Wikileaks Supporters in 'Operation Payback'.
- ↑ Operation Payback Targets Amazon; Wikileaks Cables Found in Kindle Book Store.
- ↑ Operation Payback aborts attack against Amazon.com.