Gwleidydd Americanaidd, sylwebydd, awdur a chyn-lywodraethwraig o Alaska yw Sarah Louise Palin (née Heath; ganwyd 11 Chwefror 1964). Hi oedd Llywodraethwraig Alaska o 2006 hyd at ei hymddiswyddiad ym 2009. Fel yr enwebai o'r Blaid Weriniaethol am Is-Arlywyddiaeth 2008 gyda'r seneddwr John McCain o Arizona, hi oedd y person cyntaf o Alaska a'r ferch gyntaf o'r Blaid Weriniaethol i gael ei henwebu. Mae ei llyfr "Going Rogue: An American Life|Going Rogue" wedi gwerthu mwy na dwy filiwn o gopïau.

Sarah Palin
9fed Llywodraethwr o Alaska
Yn ei swydd
4 Rhagfyr 2006 – 26 Gorffennaf 2009
LieutenantSean Parnell
Rhagflaenwyd ganFrank Murkowski
Dilynwyd ganSean Parnell
Cadeirydd o'r Alaska Oil and Gas Conservation Commission
Yn ei swydd
19 Chwefror 2003 – 23 Ionawr 2004
LlywodraethwrFrank Murkowski
Rhagflaenwyd ganCamille Taylor
Dilynwyd ganJohn Norman
Maer o Wasilla
Yn ei swydd
14 Hydref 1996 – 14 Hydref 2002
Rhagflaenwyd ganJohn Stein
Dilynwyd ganDianne Keller
Aelod o Gyngor Dinas Wasilla
Yn ei swydd
19 Hydref 1992 – 14 Hydref 1996
Rhagflaenwyd ganDorothy Smith
Dilynwyd ganColleen Cottle
Manylion personol
GanwydSarah Louise Heath
(1964-02-11) 11 Chwefror 1964 (60 oed)
Sandpoint, Idaho, U.S.
Plaid wleidyddolGweriniaethol
PriodTodd Palin (pr. 1988)
Plant5 (Bristol Palin yn nodedig)
Alma materUniversity of Idaho
GalwedigaethGwleidydd
Llofnod
Gwefanhttps://sarahpalinchannel.com

Cafodd ei hethol i Gyngor Dinas Wasilla ym 1992, a daeth yn Faer Wasilla ym 1996. Yn 2003, ar ôl ymgais aflwyddiannus i ddod yn Ddirprwy Lywodraethwr, cafodd ei phenodi i'r "Alaska Oil and Gas Conservation Commission", sy'n gyfrifol am ddiogelwch ac effeithlonrwydd y meysydd olew a nwy yn y dalaith. Hi yw'r person ieuengaf a'r ferch gyntaf i gael ei hethol yn Llywodraethwraig Alaska,[1] cynhaliodd Palin y swydd o fis Rhagfyr 2006 tan ei hymddiswyddiad ym mis Gorffennaf 2009.

Ers gadael ei swydd, mae hi wedi cefnogi ac ymgyrchu ar gyfer y symudiad Tea Party, yn ogystal â nifer o ymgeiswyr eraill mewn nifer o etholiadau. O 2010 i 2015, roedd hi'n darparu sylwebaeth wleidyddol ar gyfer Fox News.[2] Ar 3 Ebrill 2014, dechreuodd Palin ei chyfres teledu newydd , "Amazing America with Sarah Palin" ar Sportsman Channel.[3][4] Ar 27 Gorffennaf 2014, lansiodd Palin sianel newyddion ar-lein: "Sarah Palin Channel".[5]

Bywyd cynnar a theulu golygu

Ganwyd Palin yn Sandpoint, Idaho, y trydydd o bedwar o blant (tair merch, un mab) yn ferch i Sarah "Sally" (née Sheeran), ysgrifenyddes ysgol, a Charles R. "Chuck" Heath, athro gwyddoniaeth a hyfforddwr athletau. Mae hi'n chwaer i Heather, Molly a Chuck Jr. Palin.[6][7][8][9][10] Mae Palin o dras Seisnig, Gwyddelig, ac Almaenig.[11]

Pan oedd Palin yn fabi, symudodd y teulu i Skagway, Alaska,[12] lle derbyniodd ei thad ei swydd fel athro.[13] Ymgartrefon nhw yn Eagle River ym 1969, ac yn olaf, yn Wasilla ym 1972.[14][15]

Chwaraeodd Palin y ffliwt mewn band yn ysgol ganol, ac wedyn aeth hi i Ysgol Uwchradd Wasilla lle roedd hi'n bennaeth o'r "Fellowship of Christian Athletes",[16] ac aelod o'r timau pêl-fasged merched a rhedeg traws gwlad.[17] Yn ystod ei blwyddyn olaf yn ysgol, roedd hi'n gapten a gard pwynt o'r tîm pêl-fasged a enillodd y Pencampwriaeth y dalaith Alaska ym 1982; cafodd hi'r llysenw "Sarah Barracuda" oherwydd ei chystadleurwydd.[18][19][20]

Ym 1984, enillodd Palin y pasiant "Miss Wasilla",[21] ac wedyn gorffenodd hi yn y trydydd safle yn y pasiant "Miss Alaska".[22][23] Chwaraeodd hi y ffliwt i ddangos ei thalent.[24] Dywedodd un awdur ei bod hi wedi derbyn y wobr "Miss Congeniality" yn y gystadleuaeth "Miss Wasilla" (ond mae cystadleuydd arall a chyd-ddisgybl o Palin wedi gwadu hyn)[21] ac ysgoloriaeth coleg.[18]

Prifysgol golygu

Ar ôl graddio o ysgol uwchradd ym 1982, aeth Palin i Brifysgol Hawaii yn Hilo.[25] Ychydig ar ôl cyrraedd yn Hawaii, trosglwyddodd Palin i Hawaii Pacific University yn Honolulu am semestr yn yr hydref o 1982, ac wedyn i North Idaho College, coleg cymunedol yn Coeur d'Alene, am y semestr yn y gwanwyn a'r hydref o 1983.[26] Aeth hi i University of Idaho ym Moscfa am flwyddyn academaidd, yn dechrau ym mis Awst 1984, ac wedyn aeth i Matanuska-Susitna College yn Alaska yn yr hydref o 1985. Dychwelodd Palin i University of Idaho ym mis Ionawr 1986, a derbyniodd hi ei gradd baglor mewn astudiaethau cyfathrebu gyda phwyslais ar newyddiaduraeth ym mis Mai 1987.[26][27][28][29]

Ym mis Mehefin 2008, rhoddodd y gymdeithas cyn-fyfyrwyr o North Idaho College y wobr 'Distinguished Alumni Achievement Award' i Palin.[26][30]

Gyrfa gynnar a phriodas golygu

Ar ôl graddio, gweithiodd hi fel darllenydd chwaraeon ar gyfer KTUU-TV a KTVA-TV yn Anchorage,[31][32] a fel gohebydd chwaraeon ar gyfer Mat-Su Valley Frontiersman,[33][34] yn cyflawni uchelgais cynnar.[35]

Ym mis Awst 1988, priododd ei chariad o ysgol uwchradd, Todd Palin.[36] Yn dilyn genedigaeth eu plentyn cyntaf, ym mis Ebrill 1989, helpodd ei gŵr gyda'i fusnes pysgota masnachol.[37]

Gyrfa wleidyddol cynnar golygu

Dinas cyngor golygu

Etholwyd Palin i Gyngor Dinas Wasilla ym 1992 drwy ennill 530 pleidleisiau i 310.[38][39] Trwy gydol ei chyfnod yn y cyngor dinas a'r gweddill ei gyrfa wleidyddol, mae Palin wedi bod yn aelod o'r Blaid Weriniaethol ers cofrestru ym 1982.[40]

Maer o Wasilla golygu

Roedd Palin yn pryderu ni fyddai'r refeniw o'r dreth gwerthiant yn Wasilla cael ei wario'n ddoeth.[41] Penderfynodd Palin i redeg am faer o Wasilla ym 1996; trechodd hi'r maer periglor John Stein[36] 651 i 440 pleidleisiau.[42] Mae ei gofiannydd yn disgrifio ei hymgyrch fel targedu gwariant gwastraffus a threthi uchel;[18] fodd bynnag, cyhuddodd ei hwrthwynebydd, Stein, fod Palin wedi defnyddio erthyliadrheolaeth gwn, a therfynau tymor fel materion yn yr ymgyrch.[43] Roedd yr etholiad yn amhleidiol, er bod y Blaid Weriniaethol o Alaska yn darlledu hysbysebion ar gyfer Palin.[43] Enillodd hi yn erbyn Stein eto, ym 1999, 909 pleidleisiau i 292.[44] Yn 2002 cwblhaodd hi ei hail dymor fel maer o Wasilla. Mae'r siarter ddinas yn rhwystro'r maer rhag cael ei ethol mwy na ddwywaith.[45] Cafodd ei hethol i "Alaska Conference of Mayors Archifwyd 2013-05-11 yn y Peiriant Wayback." ym 1999.[46]

Llywodraethwr o Alaska golygu

 
Dyma Palin yn ymweld â milwyr o'r "Alaska National Guard", 24 Gorffennaf 2007

Yn 2006, yn rhedeg ar lwyfan i lanhau llywodraeth, trechodd Palin y llywodraethwr periglor Frank Murkowski yn y cynradd.[47][48] Roedd hi’n rhedeg gyda Sean Parnell,[49] sydd nawr wedi llwyddo Palin fel Llywodraethwr o Alaska.[50]

Cyfradd gymeradwyaeth golygu

Fel llywodraethwr o Alaska, mae ei chyfradd gymeradwyaeth wedi amrywio o uchafbwynt o 93% ym mis Mai 2007 i isafbwynt o 54% ym mis Mai 2009.[51]

Dyddiad Cymeradwyaeth Anghymeradwyaeth Sefydliad Poliau
15 Mai 2007[52] 93% Heb adrodd Dittman Research
30 Mai 2007 [citation needed] 89% Heb adrodd Ivan Moore Research
19–21 Hydref 2007[53] 83% 11% Ivan Moore Research
10 Ebrill 2008[54] 73% 7% Rasmussen Reports
17 Mai 2008[55] 69% 9% Rasmussen Reports
24–25 Gorffennaf 2008[56] 80% Heb adrodd Hays Research Group
30 Gorffennaf 2008[56] 64% 14% Rasmussen Reports
20–22 Medi 2008[57] 68% Heb adrodd Ivan Moore Research
7 Hydref 2008[58] 63% 37% Rasmussen Reports
24–25 Mawrth 2009[59] 59.8% 34.9% Hays Research
4–5 Mai 2009[59] 54% 41.6% Hays Research
14–18 Mehefin 2009[60] 56% 35% Global Strategy Group

Ymgyrch is-arlywyddol 2008 golygu

 
Dyma Palin yn siarad yn y Confensiwn Cenedlaethol y Blaid Weriniaethol 2008 yn Saint Paul, Minnesota

Roedd nifer o sylwebyddion ceidwadol wedi cwrdd â Palin yn haf 2007.[61] Roedd rhai ohonynt, fel Bill Kristol, wedi annog McCain i ddewis Palin fel ei henwebai is-arlywyddol, gan ddweud y byddai ei phresenoldeb ar y tocyn yn rhoi brwdfrydedd i’r Dde Crefyddol o’r Blaid Weriniaethol, a hefyd byddai ei dinodedd yn ffactor cadarnhaol.[62]

Cynhaliwyd yr etholiad ar 4 Tachwedd, ac roedd y cyfryngau yn rhagweld Obama fel yr enillydd am 11:00 EST.[63] Yn ei araith consesiwn, diolchodd McCain Palin, yn ei galw "un o'r ymgyrchwyr gorau rwyf wedi gweld erioed, ac yn llais trawiadol newydd yn ein plaid am ddiwygio a'r egwyddorion sydd bob amser wedi bod ein cryfder mwyaf."[63]

Delwedd cyhoeddus golygu

 
Dyma Palin yn y gala Time 100 lle cafodd ei henwi fel un o'r 'Pobl Mwyaf Dylanwadol yn y Byd'[64]

Un mis ar ôl i McCain ddewis Palin fel yr enwebai is-lywydd, fe'i gwelwyd yn fwy ffafriol ac anffafriol ymhlith pleidleiswyr nag ei hwrthwynebydd, Seneddwr Delaware Joe Biden.[65] Roedd y mwyafrif o wylwyr y ddadl is-arlywyddol 2008 yn meddwl bod perfformiad Biden yn well na pherfformiad Palin.[65][66]

Bywyd personol golygu

Priododd Sarah a Todd Palin ym mis Awst 1988, ac mae ganddynt bump o blant: meibion Track Cj (ganwyd ym mis Ebrill 1989)[67][68] a Trig Paxson Van (ganwyd ym mis Ebrill 2008), a merched Bristol Sheeran Marie[69] (ganwyd ym mis Hydref 1990), Willow Bianca Faye (ganwyd 1994), a Piper Indi Grace (ganwyd 2001).[70][71] Diagnoswyd ei phlentyn ieuaf, Trig, gyda syndrom Down cyn ei enedigaeth.[72]

Mae gan Palin ddau o wyrion.[73][74] Roedd ei gŵr Todd yn gweithio ar gyfer y cwmni olew Prydeinig BP fel gweithredwr cynhyrchu ar y maes olew, yn ymddeol ym 2009, ac yn berchen ar gwmni pysgota masnachol.[41][75]

Bedyddwyd Palin "Catholig fel newydd-anedig" gan fod ei mam, Sally, wedi ei magu yn Gatholig. Fodd bynnag, dechreuodd y teulu Heath "mynd i eglwysi anenwadol" wedi hynny.[76] Yn ddiweddarach, ymunodd ei theulu "Wasilla Assembly of God", eglwys Pentecostaidd;[77] roedd Palin yn mynd i'r eglwys hon tan 2002.[78] Wedyn, trosglwyddodd Palin i Wasilla Bible Church.[79] Pan mae hi yn Juneau, mae hi'n mynd i Juneau Christian Center, eglwys Assembly of God.[80] Ar ôl i McCain ddewis Palin fel yr enwebai, postiodd nifer o adroddiadau newyddion ei bod hi'n ferch cyntaf Pentecostaidd i redeg am is-lywydd.[81] Dydy Palin ddim yn defnyddio'r gair "Pentecostaidd" ond yn dweud ei bod hi'n "Cristion sy'n credu yn y Beibl".[76]

Cyhoeddiadau golygu

  • Going Rogue: An American Life (2009)
  • America by Heart: Reflections on Family, Faith, and Flag (2010)
  • Good Tidings and Great Joy: Protecting the Heart of Christmas (2013)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "BBC News – Profile: Sarah Palin". BBC News. 5 Hydref 2011. Cyrchwyd 11 Chwefror 2014.
  2. Allen, Mike. "Fox drops Sarah Palin". POLITICO. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2015.
  3. "Amazing America with Sarah Palin Episodes". TV Guide. Cyrchwyd 15 Mai 2014.
  4. "Former Reality Star Sarah Palin Returns to Television". The Daily Beast. 21 Chwefror 2014. Cyrchwyd 15 Mai 2014.
  5. http://www.thedailybeast.com/articles/2014/07/28/all-sarah-all-the-time-inside-sarah-palin-s-new-tv-channel.html The Daily Beast, 28 Gorffennaf 2014
  6. Benet, Lorenzo (17 Chwefror 2009). Trailblazer: An Intimate Biography of Sarah Palin. Books.simonandschuster.com. ISBN 9781439155554. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  7. "Family Support: Gov.
  8. "How I Got to Know Sarah Palin" Archifwyd 2012-05-27 yn y Peiriant Wayback. WSB TV 2.
  9. "'I Never Thought I’d Say, ‘My Sister, the Vice President’", glamour.com, 1 Hydref 2008; adalwyd 9 Hydref 2010.
  10. "Palin's Big Brother 'Excited for Her'".
  11. Harnden, Toby (29 Awst 2008). "Sarah Palin profile: Former beauty queen was an unlikely choice". The Daily Telegraph. London, UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-30. Cyrchwyd 25 Ebrill 2009.
  12. Palin, Sarah. (2009) Going Rogue.
  13. Hilley, Joe. "Trailblazer: An Intimate Biography of Sarah Palin". Amazon.com. Cyrchwyd 5 Hydref 2011.
  14. Palin, Sarah. (2009) Going Rogue, tt. 14, 17.
  15. "Palin's Alaskan town proud, wary".
  16. Gorski, Eric (30 Awst 2008). "Evangelicals energized by McCain-Palin ticket". USA Today. Cyrchwyd 7 Chwefror 2010.
  17. Palin, Sarah. (2009) Going Rogue. pp. 30, 33.
  18. 18.0 18.1 18.2 Johnson, Kaylene (1 Ebrill 2008). Sarah: How a Hockey Mom Turned Alaska's Political Establishment Upside Down. Epicenter Press. t. 80. ISBN 978-0-9790470-8-4.
  19. "Palin was no pushover on basketball court". MSNBC. Associated Press. 8 Hydref 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-09. Cyrchwyd 5 Tachwedd 2008.
  20. Suddath, Claire (29 Awst 2008). "A Jock and a Beauty Queen". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-24. Cyrchwyd 2015-08-09.
  21. 21.0 21.1 Peterson, Deb (30 Awst 2008). "Palin was a high school star, says schoolmate". St. Louis Post-Dispatch. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-02. Cyrchwyd 2015-08-09.
  22. Argetsinger, Amy; Roberts, Roxanne M. (8 Medi 2008). "Miss Alaska '84 Recalls Rival's Winning Ways". The Washington Post. t. C1. Cyrchwyd 4 Ebrill 2009.
  23. Davey, Monica (24 Hydref 2008). "Little-Noticed College Student to Star Politician". The New York Times.
  24. Thomson, Katherine (1 Hydref 2008). "Sarah Palin On Flute: Watch Her Beauty Pageant Talent". Huffington Post (VIDEO). Cyrchwyd 9 Chwefror 2010.
  25. "Palin, 'Average' Student at 5 Schools, Prayed, Planned for TV" Bloomberg L.P., 7 Medi 2008; retrieved 30 Tachwedd 2010.
  26. 26.0 26.1 26.2 "Sarah Palin's Extensive College Career". USNews.com. 5 Medi 2008. Cyrchwyd 24 Hydref 2009.
  27. Geranios, Nicholas K. (5 Medi2008). "Palin switched colleges as many as 6 times". The Seattle Times. Associated Press. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2011. Check date values in: |date= (help)
  28. Noah, Timothy (1 Hydref 2008). "Sarah Palin's college daze". Slate. Cyrchwyd 24 Hydref 2009.
  29. "Palin, 'Average' Student at 5 Schools, Prayed, Planned for TV". Bloomberg L.P. 7 Medi 2008. Cyrchwyd 24 Hydref 2009.
  30. "Alumni Awards". North Idaho College. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd 14 Chwefror 2010.
  31. "Sarah Palin Biography". The Biography Channel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-17. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2009.
  32. Shea, Danny (30 Awst 2008). "Sarah Palin: From TV Sports Anchor To Vice Presidential Candidate". Huffington Post (VIDEO). Cyrchwyd 9 Chwefror 2010.
  33. Lede, Naomi (15 Gorffennaf 2009). "Palin: Point guard for the GOP". The Huntsville Item. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-03. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2009.
  34. "We know Sarah Palin". Opinion. Mat-Su Valley Frontiersman. 30 Awst 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2008.
  35. D'Agostino, Ryan (16 Tachwedd 2009). "Sarah Palin: What I've Learned". Esquire. Cyrchwyd 12 Chwefror 2010.
  36. 36.0 36.1 Kizzia, Tom (23 Hydref 2006). "Part 1: 'Fresh face' launched Palin: Wasilla mayor was groomed from an early political age". Anchorage Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-09. Cyrchwyd 14 Chwefror 2010.
  37. "Gov. Sarah Palin (R)". Almanac of American Politics 2008. National Journal. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  38. Levenson, Michael (3 Medi 2008). "Palin's Alaskan town proud, wary". Boston Globe. Cyrchwyd 21 Mehefin 2009.
  39. "1992 Vote Results". City of Wasilla. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-06. Cyrchwyd 12 Medi 2008.
  40. Tapper, Jake (1 Medi 2008). "Members of 'Fringe' Alaskan Independence Party Incorrectly Say Palin Was a Member in 90s; McCain Camp and Alaska Division of Elections Deny Charge". Political Punch. ABC News.
  41. 41.0 41.1 Yardley, William (29 Awst 2008). "Sarah Heath Palin, an Outsider Who Charms". The New York Times. Cyrchwyd 30 Awst 2008.
  42. "1996 Regular election". City of Wasilla. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-31. Cyrchwyd 8 Chwefror 2010.
  43. 43.0 43.1 Yardley, William (2 Medi 2008). "Palin's Start in Alaska: Not Politics as Usual". The New York Times. Cyrchwyd 2 Medi 2008.
  44. "5 Hydref 1999 Regular Election; Official Results". City of Wasilla. 11 Hydref 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-12-23. Cyrchwyd 1 Medi 2008.
  45. "Wasilla Municipal Code". City of Wasilla. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Medi 2008. Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2008.
  46. "From Wasilla's basketball court to the national stage: Sarah Palin timeline". Anchorage Daily News. 29 Awst 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-09-02. Cyrchwyd 14 Chwefror 2010.
  47. Sands, David R. (30 Awst 2008). "Palin's rise a model for maverick politicians". The Washington Times. Cyrchwyd 3 Medi 2008.
  48. Yardley, William (23 Awst 2006). "Alaska Governor Concedes Defeat in Primary". The New York Times. Cyrchwyd 3 Medi 2008.
  49. "Gov. Sarah Palin (R)". Almanac of American Politics 2010. National Journal. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  50. "Meet Sean Parnell – Alaska Governor Sean Parnell". Website of the State of Alaska. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-03. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2013.
  51. SurveyUSA website, "APPROVAL RATINGS FOR ALL 50 GOVERNORS (Released 11/20/06)"; adalwyd 15 Rhagfyr 2010.
  52. Cauchon, Dennis (21 Mehefin 2007). "At state level, GOP, Dems learn to get along". USA Today. Cyrchwyd 24 Hydref 2009.
  53. Horton, Carly (4 Tachwedd 2007). "Palin ranks among nation's most popular governors". The Alaska Journal of Commerce. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd 13 Chwefror 2010.
  54. "Alaska: McCain 48% Obama 43%". Rasmussen Reports. 10 Ebrill 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 24 Hydref 2009.
  55. "Alaska: McCain 50% Obama 41%". Rasmussen Reports. 17 Mai 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Rhagfyr 2008. Cyrchwyd 24 Hydref 2009.
  56. 56.0 56.1 "Governor Palin is the most popular governor in the country". PolitiFact.com Truth-o-Meter (St. Petersburg Times, FL). 3 Medi 2008. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2010.
  57. "Palin approval rating drops in Alaska". Anchorage Daily News. 1 Hydref 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-20. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2010.
  58. "McCain Leads By 15 in Alaska". Rasmussen Reports. 7 Hydref 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-10. Cyrchwyd 24 Hydref 2009.
  59. 59.0 59.1 Cockerham, Sean (7 Mai 2009). "New poll shows slump in Palin's popularity among Alaskans". The Miami Herald. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2009.
  60. Cillizza, Chris (17 Gorffennaf 2009). "Morning Fix: Winners and Losers, Sotomayor Day 4". The Fix. Cyrchwyd 24 Hydref 2009.
  61. Mayer, Jane (27 Hydref 2008). "The Insiders: How John McCain came to pick Sarah Palin". The New Yorker. http://www.newyorker.com/reporting/2008/10/27/081027fa_fact_mayer?currentPage=1. Adalwyd 21 Mehefin 2009.
  62. Horton, Scott (15 Hydref 2008). "Salon Radio: Scott Horton" (Cyfweliad). Cyfwelwyd gan Glenn Greenwald. Archifwyd o'r gwreiddiol (Transcript and link to Audio) ar 2009-01-13. Cyrchwyd 21 Mehefin 2009.
  63. 63.0 63.1 "Transcript: McCain concedes presidency". ElectionCenter2008. Phoenix, Arizona: CNN. 4 Tachwedd 2008. Cyrchwyd 30 Mai 2010.
  64. Nugent, Ted (29 Ebrill 2010). "Leaders: Sarah Palin". The 2010 TIME 100. Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-17. Cyrchwyd 27 Mai 2010. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  65. 65.0 65.1 "Palin Still Viewed More Favorably – And Unfavorably – Than Biden". Rasmussen Reports. 24 Medi 2008.
  66. "45% Say Biden Won Debate, 37% Say Palin". Rasmussen Reports. 4 Hydref 2008. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  67. Palin, Sarah (2009), Going Rogue, t. 51
  68. Thompson, Derek (4 Medi 2008). "The Sarah Palin FAQ: Everything you ever wanted to know about the Republican vice presidential nominee". Slate. Cyrchwyd 30 Mai 2010.
  69. Sobieraj Westfall, Sandra (1 Mehefin 2009). "Bristol Palin 'My Life Comes Second Now'". Archive. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-29. Cyrchwyd 30 Mai 2010.
  70. New York Times staff. "Times Topics, People, Sarah Palin". Biography. Cyrchwyd 30 Mai 2010.
  71. Quinn, Steve and Calvin Woodward (30 Awst 2008). "McCain makes history with choice of running mate". USA Today. Juneau, Alaska. Associated Press. Cyrchwyd 29 Mai 2010.
  72. Demer, Lisa (21 Ebrill 2008). "Palin confirms baby has Down syndrome". Anchorage Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-20. Cyrchwyd 29 Mai 2010.
  73. Benet, Lorenzo (29 Rhagfyr 2008). "Bristol Palin Welcomes a Son". People. Cyrchwyd 29 Mai 2010.
  74. "Sarah Palin's A Grandma, Again!". Radar Online. 8 Awst 2011. Cyrchwyd 5 Hydref 2011.
  75. Miller, Marjorie (7 Medi 2008). "New frontier in campaign spouses: Alaska's 'first dude' Todd Palin is a moose hunter, snowmobile racer, oil worker, union man and hockey dad". Los Angeles Times. Cyrchwyd 29 Mai 2010.
  76. 76.0 76.1 Newton-Small, Jay (29 Awst 2008). "Transcript: Time's interview with Sarah Palin". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-06. Cyrchwyd 29 Mai 2010.
  77. "About us". Wasilla Assembly of God. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-28. Cyrchwyd 29 Mai 2010.
  78. "Our Statement Concerning Governor Palin". Wasilla Assembly of God. 30 Awst 2008. Cyrchwyd 7 Awst 2012.
  79. Miller, Lisa; Coyne, Amanda (2 Medi 2008). "A Visit to Palin's Church: Scripture and discretion on the program in Wasilla". Newsweek. Cyrchwyd 29 Mai 2010.
  80. "Statement Concerning Sarah Palin". Juneau Christian Center. 3 Medi 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Chwefror 2010. Cyrchwyd 29 Mai 2010.
  81. Brachear, Manya (29 Awst 2008). "Palin the Pentecostal?". Chicago Tribune. Cyrchwyd 28 Mai 2014.[dolen marw]

Dolenni allanol golygu