Oriel Môn
oriel gelf yn Ynys Môn
Amgueddfa a chanolfan celf yn Llangefni, Ynys Môn, yw Oriel Môn.
Math | oriel gelf, canolfan y celfyddydau, amgueddfa awdurdod lleol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llangefni |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 49.9 metr |
Cyfesurynnau | 53.2635°N 4.3121°W |
Cod post | LL77 7TQ |
Rheolir gan | Cyngor Sir Ynys Môn |
Mae dwy ran i'r ganolfan. Mae'r Oriel Hanes yn arddangos diwylliant, hanes ac amgylchedd yr ynys ac mae'r Oriel Gelf yn cynnwys rhaglen o arddangosfeydd sy'n newid yn gyson.
Mae'r ganolfan hefyd yn gartref i arddangosfeydd parhaol, gan gynnwys:
- Casgliad mwyaf y byd o waith yr arlunydd Kyffin Williams. Mae hwn i'w weld mewn casgliad arbennig o'r enw Oriel Kyffin Williams, a agorwyd yn 2008.[1]
- Casgliad o waith yr arlunydd bywdd gwyllt Charles Tunnicliffe.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Oriel Kyffin Williams yn agor ei drysau. Cyngor Sir Ynys Môn (31 Gorffennaf 2008).