Charles Tunnicliffe
Arlunydd a darlunydd arddull naturolaidd adar a bywyd gwyllt o fri rhyngwladol oedd Charles Frederick Tunnicliffe (1 Rhagfyr 1901 – 7 Chwefror 1979), a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym Môn.
Charles Tunnicliffe | |
---|---|
Ganwyd | 1 Rhagfyr 1901 Langley |
Bu farw | 7 Chwefror 1979 Malltraeth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, adaregydd, darlunydd, arlunydd graffig, artist |
Gwobr/au | cymrawd, OBE |
Bywyd
golyguGanwyd Tunnicliffe yn 1901 yn Langley, Sir Gaer, gogledd-orllewin Lloegr a threuliodd ei flynyddoedd cynnar ar fferm yn ardal Macclesfield. Enillodd ysgoloriaeth i astudio yn Coleg Brenhinol y Celfyddydau yn Llundain.
Yn 1947 symudodd o Fanceinion i fyw mewn bwthyn ar lan aber Afon Cefni, Ynys Môn, lle bu fyw hyd ei farwolaeth yn 1979.
Gwaith
golyguMae llawer o waith Tunnicliffe yn dangos adar yn eu lleoliadau naturiol a golygfeydd naturiolaidd eraill. Darluniodd waith Henry Williamson, Tarka the Otter. Dangoswyd ei waith hefyd ar gardiau te Brooke Bond yn y 1950au a'r 1960au. Darluniodd nifer o lyfrau Ladybird hefyd.
Ar ôl ei farwolaeth etifeddwyd llawer o'i waith gan Gyngor Sir Ynys Môn, ar yr amod ei fod yn aros yn gasgliad cyfan ac ar gael i bawb. Fe'i cedwir bellach yn Oriel Môn, ar gyrrion Llangefni.
Cymeriad
golyguDyma drawsgrifiad o rhan o sgwrs Wil Evans, Gwalchmai am Charles Tunnicliffe[1] Roedd Wil wedi darganfod bras bychan, wedi ei glwyfo - y cyntaf erioed ym Môn. Meddai Wil: "doedd Tunnicliffe ddim yn saff p’un ta ceiliog ‘ta iar oedd o - wedyn dyma Tunnicliffe yn cymryd nodwydd ddur a dal o uwchben, a rhyw droi o nes dod i’r penderfyniad mai iar oedd o." Sut oedd y nodwydd yn dweud hynny wrtho? "Wel ia" atebodd Wil, "dwi’m yn saff. Roedd o naill ai’n mynd fel’a, neu fel’a...i ddeud y gwir dwi’n synnu bod Tunnicliffe, o bawb, yn derbyn peth fel’a." ("Byddai tyddynwyr Penrhosllugwy, gan gynnwys nhad, yn gwneud yr un peth efo wya cyn eu rhoi dan iar ori. [Roedd] y nodwydd yn troi mewn cylchoedd uwch yr wya oedd yn cynnwys c'wennod [benywod] ac yn siglo 'nol a mlaen i'r wya oedd yn cynnwys ceiliogod! Dwn i'm oedd o'n gweithio, ond ar ôl deud hynna, roedd nhad yn medru dewino dŵr hefyd!"[2])