Otto Bayer

Cemegydd Almaeneig, dyfeisydd Polywrethan

Roedd Otto Bayer (4 Tachwedd 19021 Awst 1982)[1] yn gemegydd diwydiannol yng nghwmni enwog IG Farben. Ef oedd pennaeth y uned ymchwil a ddarganfyddodd y polyaddition yn 1937 ar gyfer synthesis polywrethannau allan o poly-isocyanate a polyol.[2]

Otto Bayer
Otto Bayer yn arddangos ei ddyfais, Polywrethan, yn 1952
Ganwyd4 Tachwedd 1902 Edit this on Wikidata
Frankfurt am Main Edit this on Wikidata
Bu farw1 Awst 1982 Edit this on Wikidata
Burscheid Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcemegydd, peiriannydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auWerner von Siemens Ring, Charles Goodyear Medal, Hermann-Staudinger Prize, Adolf-von-Baeyer Gold Medal, Carl Duisberg Plaque Edit this on Wikidata

Ganwyd Bayer yn Frankfurt. Derbyniodd ddoethuriaeth mewn Gemeg ym Mhrifysgol Frankfurt-am-Main yn 1924. O 1933 bu'n gweithio mewn amrywiol swyddogaethau rheoli mewn sefydliadau'r IG Farbenindustrie. Doedd dim perthynas thwng Dr Bayer a'r teulu a sefydlodd y Bayer Corp.

Roedd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr cwmni Bayer a hefyd yn is-gadeirydd bwrdd goruchwiliol cwmni Cassella yn yr 1950au.

Polywrethan golygu

Otto Bayer oedd arweinydd yr Uned a ddyfeiriodd polywrethan. Mae polywrethanau bellach yn hollbresennol ym mhob rhan o fywyd beunyddiol er enghraifft, o rhannau o'r car i rhewgell i adeiladwaith tŷ, gwisg gofodwr i gondom.

Wedi datblygu polywrethan, nododd ei gydweithwyr yn goeglyd yn 1941 am y ddyfais newydd , "Polywrethan - ar ei orau, defnydd at greu ffug gaws Emmental".[3]

Gwobrau golygu

1960 - Werner-von-Siemens Ring (Modrwy Werner von Siemens) sef un o worbau uchaf yn yr Almaen am waith yn y gwyddorau naturiol, am ei waith ym maes synthesis polymerau technegol ac ar gyfer datblygu deunyddiau technegol newydd (polyurethaniaid). Derbyniodd y wobr ynghyd â Walter Reppe a Karl Ziegler.
1960 - Carl-Duisberg Plakette tystygrif Carl Duisberg a ddyfernir gan y Gesellschaft Deutscher Chemiker, Cymdeithas Cemegwyr yr Almaen.
1975 - Charles Goodyear Medal[4] Dyfernir y fedal yma gan yr American Chemical Society, Rubber Division. Sefydlwyd hi yn 1941 ac fe'i henwir ar ôl Charles Goodyear, darganfyddydd vulcanization.

Gwobr Otto Bayer golygu

Yn ei ewyllys, cymunroddodd Bayer i sefydlu'r Otto-Bayer-Preis, sydd ers 1984 yn dyfarnu gwobr i wyddonwyr gwledydd Almaeneg eu hiaith, am gyflawniadau ymchwil eithriadol ym meysydd cemeg a biocemeg. Dyfarnwyd y wobr yn flynyddol, ond, ers 1996 bob yn ail flwyddyn. Yn 2018 roedd y wobr gwerth €75,000.

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Deutsches Kunststoff Museum: Otto Bayer". German Plastic Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-24. Cyrchwyd 2016-02-16.
  2. Bayer, Otto (1947). "Das Di-Isocyanat-Polyadditionsverfahren (Polyurethane)". Angewandte Chemie 59: 257–272. doi:10.1002/ange.19470590901.; See also German Patent 728.981 (1937) I.G. Farben
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-24. Cyrchwyd 2018-10-31.
  4. "Charles Goodyear Medalists" (PDF). American Chemical Society Rubber Division. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-09. Cyrchwyd 2016-02-16. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)