Euddogwy
Sant neu esgob Cymreig oedd Euddogwy (Lladin: Oudoceus) (blodeuai tua diwedd y 6g).
Euddogwy | |
---|---|
Cerflun ar un o golfnau eglwys Llandogo; mae'n bosib mai Euddogwy ydyw. | |
Ganwyd | 6 g Bro-Gerne |
Bu farw | 615 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | doethuriaeth |
Galwedigaeth | offeiriad |
Swydd | esgob |
Dydd gŵyl | 2 Gorffennaf |
Hanes a thraddodiad
golyguCeir buchedd iddo, y Vita Beati Oudocei, yn Llyfr Llandaf, lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o Lydaw, ac Anauued, chwaer sant Teilo.[1] Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth Archesgob Caergaint a mynd ar bererindod i Rufain, ond mae'n annhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd esgobaeth newydd Llandaf, a sefydlwyd gan y Normaniaid, i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul Esgobaeth Tyddewi a'r Eglwys Gymreig.
Barn G.H. Doble oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn Llandaf yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys Llaneuddogwy (Llandogo) yng Ngwent, ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.[2]
Ei wylmabsant yw 2 Gorffennaf.
Llyfryddiaeth
golyguVita Beati Oudocei: J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), The Book of Llandâv (Rhydychen, 1893; adargraffiad ffacsimili, Llyfrgell Cenedlaethol Cymru, 1979).