Owain Williams (rygbi'r undeb)

Roedd Owain Williams (1964/1965 – 12 Medi 2021) yn chwaraewr rygbi'r undeb.

Owain Williams
Ganwydc. 1965 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Medi 2021 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Chwaraeodd fel rheng ôl ymlaen i Glamorgan Wanderers RFC, Cigfrain Pen-y-bont, a Clwb Rygbi Caerdydd. Brawd Gareth Powell Williams (m. 2018) oedd ef.[1] Chwaraeodd i Gaerdydd 221 o weithiau, a chwaraeodd i Gymru hefyd.[2]

Yn 2006 derbyniodd Williams lawdriniaeth ar y llygaid o ganlyniad i ddioddef o ganser.[2] Bu farw yn 56 oed.[3][4]

Dywedodd Llywydd Oes Rygbi Caerdydd, Peter Thomas: “Mae meddyliau pawb ym Mharc Arfau Caerdydd gyda theulu a ffrindiau Owain ar yr adeg hynod drist hon.

“Roedd ei yrfa yn rhychwantu o'r amatur i'r oes broffesiynol ac roedd bob amser yn un o'r enwau cyntaf ar ddalen y tîm yn ôl ym 1996 oherwydd ei ddiwydrwydd, ei broffesiynoldeb a'i athletiaeth. Hyd heddiw, heb os, mae Owain yn un o’r blaenwyr rheng-gefn gorau a gafodd Caerdydd erioed. Roedd yn chwaraewr a pherson rhyfeddol.Yn anffodus bydd colled ar ei ôl gan bob un ohonom, yn enwedig mor ifanc. Roedd yn chwaraewr arbennig iawn ac roedd pawb yr oedd yn chwarae gyda nhw neu yn eu herbyn yn ei barchu."[5]

Gyrfa Rygbi golygu

Chwaraeodd y blaenasgellwr 221 o weithiau i Gaerdydd, gan ennill un cap dros Gymru yn erbyn Namibia yn 1990.

Roedd e’n aelod o dîm dan 18 Cymru enillodd y Gamp Lawn yn 1983.

Treuliodd e bedwar tymor gyda Chrwydraid Morgannwg ar ôl treulio blwyddyn yn Awstralia yn chwarae i Wests yn Brisbane a Queensland.

Chwaraeodd e i Ben-y-bont am bedair blynedd ar ôl dychwelyd i Gymru, gan ennill ei unig gap rhyngwladol ar daith haf, er y bu’n gapten ar dîm rygbi saith bob ochr Cymru.

Ymunodd e â Chaerdydd yn 1992, ac roedd e’n aelod o’r tîm chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Heineken yn erbyn Toulouse yn 1996, y tro cyntaf i’r gystadleuaeth gael ei chynnal.

Chwaraeodd e yn y gêm olaf yn yr hen Stadiwm Genedlaethol, wrth i Gaerdydd guro Abertawe yn rownd derfynol Cwpan Rygbi Cymru.[6]

Personol golygu

Mae mab Owain, Teddy, yn gapten tîm Ysgolion Caerdydd yn 2016 ac o garfan Clwb Rygbi Caerdydd a'r mab arall, Henri, hefyd yn chwaraewr rygbi proffesiynol.[7] Fe addysgwyd Owain yn Ysgol Uwchradd Brynteg, Pen-y-bont ar Ogwr.[8]

Cyfeiriadau golygu

  1. Thomas, Simon (21 Ebrill 2020). "The new life of the 1990s Wales player who lost an eye and his 'hero' brother". WalesOnline (yn Saesneg).
  2. 2.0 2.1 "Owain Williams: Former Wales back-row forward Williams dies aged 56". BBC Sport (yn Saesneg). 13 Medi 2021. Cyrchwyd 14 Medi 2021.
  3. https://golwg.360.cymru/chwaraeon/rygbi/2067142-chwaraewr-rygbi-owain-williams-wedi-marw
  4. Thomas, Simon (13 Medi 2021). "Wales international Owain Williams dies three years after his brother". WalesOnline (yn Saesneg).
  5. https://www.wru.wales/2021/09/tributes-pour-in-for-williams/
  6. https://golwg.360.cymru/chwaraeon/rygbi/2067142-chwaraewr-rygbi-owain-williams-wedi-marw
  7. https://golwg.360.cymru/chwaraeon/rygbi/2067142-chwaraewr-rygbi-owain-williams-wedi-marw
  8. https://www.wru.wales/2021/09/tributes-pour-in-for-williams/