Rhydderch ap Iestyn

brenin Gwent a Morgannwg
(Ailgyfeiriad o Rhydderch ab Iestyn)

Roedd Rhydderch ab Iestyn (bu farw 1033) yn frenin Gwent a Morgannwg yn ne Cymru ac yn ddiweddarach yn frenin Deheubarth ac yn rheoli Powys.

Rhydderch ap Iestyn
Ganwyd10 g Edit this on Wikidata
Bu farw1033 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin Edit this on Wikidata
PlantGruffudd ap Rhydderch, Caradog ap Rhydderch, Rhys ap Rhydderch Edit this on Wikidata

Ychydig sydd wedi ei gofnodi am Rhydderch ab Iestyn yn y brutiau. Ymddengys iddo ddechrau ei yrfa fel rheolwr Gwent a Morgannwg, lle’r oedd prif ganolfan ei fab yn nes ymlaen. Pan fu farw Llywelyn ap Seisyll, brenin Gwynedd a Deheubarth yn annisgwyl yn 1023, cymerodd Rhydderch feddiant o Ddeheubarth, trwy rym i bob golwg. Yn 1033 cofnododd Brut y Tywysogion fod Rhydderch wedi ei ladd gan y Gwyddelod, ond heb eglurhad o’r amgylchiadau.

Dychwelodd Deheubarth i’r tŷ brenhinol traddodiadol dan Hywel ab Edwin a’i frawd Maredudd. Cofnodwyd i Hywel a Maredudd ymladd brwydr yn erbyn meibion Rhydderch y flwyddyn ganlynol. Yn 1045 gallodd mab Rhydderch, Gruffudd ap Rhydderch, gipio Deheubarth oddi wrth Gruffudd ap Llywelyn a dal gafael ar y deyrnas am ddeng mlynedd nes i Gruffudd ei chymeryd yn ôl

Llyfryddiaeth

golygu
  • John Edward Lloyd A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)
  • Brut y Tywysogion: Peniarth MS. 20, gol. Thomas Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1941)
Rhagflaenydd:
Rhys ab Owain ap Morgan Hen,
Iestyn ab Owain ap Morgan Hen,
a Hywel ab Owain ap Morgan Hen
Brenin Morgannwg
10151033
Olynydd:
Gruffudd ap Rhydderch
Rhagflaenydd:
Iestyn ab Owain ap Morgan Hen
Cyd-frenin Glywysing
(gyda Hywel ab Owain ap Morgan Hen)

10151033
Olynydd:
Gruffudd ap Rhydderch
Rhagflaenydd:
Llywelyn ap Seisyll
Brenin Deheubarth
10231033
Olynydd:
Hywel ab Edwin