Owain ap Huw (AS Niwbwrch)
Bu Owain ap Huw (tua 1518 - tua 1613) yn Aelod Seneddol Niwbwrch ym 1545[1].
Owain ap Huw | |
---|---|
Ganwyd | 1518 |
Bu farw | 1613 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1545-47 |
Roedd Owain ap Huw yn fab hynaf Huw ab Owain ap Meurig, Bodowen a Gwen merch Morus ap Siôn ap Maredudd, Clenennau. Roedd Owain yn nai i Lewis ab Owain ap Meurig AS Sir Fôn
Priododd ddwywaith. Yn gyntaf ag Elisabeth merch Rowland Gruffudd, Porthamel; bu iddynt un mab a dwy ferch, ei ail wraig oedd Sybil merch Syr William Gruffudd, Penrhyn, bu iddynt naw mab a phedair merch.
Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Niwbwrch ym 1545 ac fel Uchel Siryf Môn 1562-63 a 1579-80. Bu'n Ynad heddwch ym Môn am dros 40 mlynedd.
Priododd ei fab Huw Owain ag Elisabeth, merch ac aeres George Wirriott o Orielton, Sir Benfro, gan gychwyn ach ddylanwadol yn y sir honno lle fu disgynyddion iddo o'i fab i Syr Hugh Owen Owen, 2il Farwnig yn Aelodau Seneddol or 16g hyd 1868.[2]
Cyfeiriadau
golyguSenedd Lloegr | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard ap Rhydderch |
Aelod Seneddol Niwbwrch 1545 |
Olynydd: John ap Robert Lloid |