Lewis ab Owain ap Meurig

gwleidydd Cymreig

Roedd Lewis ab Owain ap Meurig (tua 1524 - 1590), Bodowen, yn fonheddwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Fôn ym 1553 a 1572.[1]

Lewis ab Owain ap Meurig
Ganwyd16 g Edit this on Wikidata
Bu farw1590 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the March 1553 Parliament, Aelod o Senedd 1572-83 Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i Owain ap Meurig, Bodowen, Llangadwaladr ac Elen merch Robart ap Meredudd, Glynllifon. Roedd Owain ap Huw AS Niwbwrch a Rowland ap Meredydd AS Môn 1558 a 1559 yn neion iddo.[2]

Bu'n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Alis ferch Dafydd ab Ieuan ap Mato; bu iddynt un ferch, bu hi farw ym 1571. Ei ail wraig oedd Elen ferch Wiliam ap Wiliam, Y Faenol; bu iddynt dwy ferch a dau fab.

Bu'n gwasanaethu fel stiward i William Herbert, Iarll 1af Penfro, un o'r gwŷr mwyaf dylanwadol yng Nghymru ar y pryd. Bu'n stiward Esgob Bangor yn Siroedd Môn a Chaernarfon a Stiward Arglwyddiaeth Rhosfair.

Yn ogystal â gwasanaethu fel AS bu Lewis hefyd yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch dros Sir Fôn, fel Custos Rotulorum Môn ac Uchel Siryf Sir Fôn ym 1559.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895 [1] adalwyd 21 Rhagfyr 2015
  2. The History of Parliament online AB OWEN AP MEURIG, Lewis (by 1524-90), of Brondeg, nr. Newborough, Anglesey [2] adalwyd 21 Rhagfyr 2015
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Richard Bulkeley
Aelod Seneddol Ynys Môn
1553
Olynydd:
Wiliam Lewis
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Richard Bulkeley
Aelod Seneddol Ynys Môn
1572
Olynydd:
Owen Holland