Owen Gruffydd

bardd Cymreig

Bardd, hynafiaethydd, ac achyddwr oedd Owen Gruffydd (c. 1643 - Rhagfyr, 1730). Yn enedigol o blwyf Llanystumdwy, Eifionydd, Gwynedd, canai ar y mesurau caeth a'r mesurau rhydd fel ei gilydd a daeth yn fardd poblogaidd yn ei ddydd. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn Blodeu-gerdd Cymry (1759).[1]

Owen Gruffydd
Owen Gruffydd.JPG
Owen Gruffydd ar ddechrau'r 18fed ganrif, darlun inc a geir mewn llawysgrif gyfoes.
Ganwyd1643 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw6 Rhagfyr 1730, 1730 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

BywgraffiadGolygu

Ganed y bardd yn 1643 (fe ymddengys). Yn ôl un traddodiad roedd yn fab perth a llwyn i offeiriad lleol. Roedd yn wehydd o ran ei grefft. Aeth yn ddall yn ystod ei oes. Bu fyw trwy amseroedd tymhestlus iawn, gyda Rhyfel Cartref Lloegr a'r Adferiad yn tarfu ar fywyd y Cymry ym mob rhan o'r wlad. Fe'i claddwyd ym mynwent eglwys plwyf Llanystumdwy ar 6 Rhagfyr 1730, yn henwr o oedran barchus yn yr oes honno, tua 87 oed.[1]

Gwaith llenyddolGolygu

Fel bardd ar y mesurau caeth a ganodd gywyddau ac awdlau i rai o brif deuluoedd Arfon, Llŷn, Eifionydd a Meirionnydd, yr oedd i ryw raddau yn parhau â thraddodiad Beirdd yr Uchelwyr, er nad oedd yn fardd proffesiynol fel y cyfryw. Ond roedd yn fwy adnabyddus yng ngogledd Cymru ar droad y 18g am ei gerddi ar y mesurau rhydd, yn enwedig ei garolau duwiol a moseol.[1]

LlyfryddiaethGolygu

Cyhoeddwyd rhai o gerddi'r bardd yn y blodeugerddi,

Golygwyd detholiad o'i waith gan O. M. Edwards:

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 O. M. Edwards (gol.), Gwaith Owen Gruffydd (Cyfres y Fil, 1904), rhagymadrodd.