Anwar Sadat
Milwr a gwleidydd o'r Aifft oedd Anwar Sadat (25 Rhagfyr 1918 – 6 Hydref 1981) a oedd yn drydydd Arlywydd yr Aifft o 1970 hyd ei farwolaeth.
Anwar Sadat | |
---|---|
Llais | Anwar Sadat voice.ogg |
Ganwyd | 25 Rhagfyr 1918 Mit Abu al-Kum |
Bu farw | 6 Hydref 1981 Cairo |
Dinasyddiaeth | Sultanate of Egypt, Brenhiniaeth yr Aifft, Republic of Egypt, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, Yr Aifft |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol, gwladweinydd, diplomydd, arweinydd milwrol |
Swydd | Llywydd yr Aifft, Prif Weinidog yr Aifft, Vice President of Egypt, Prif Weinidog yr Aifft, Llywydd yr Aifft, Llywydd yr Aifft, Speaker of the National Assembly of the United Arab Republic, Speaker of the National Assembly of the United Arab Republic |
Plaid Wleidyddol | National Democratic Party, Arab Socialist Union |
Mudiad | Nasserism, Egyptian nationalism, rhyddfrydiaeth economaidd, Cyfalafiaeth, Infitah |
Tad | Mohammed Sadati |
Mam | Sitt-Al-Barrein |
Priod | Eqbal Madi, Jehan Sadat |
Plant | Ruqayya Sadat, Rawia Sadat, Camilia Sadat, Lubna Sadat, Nukha Sadat, Jamal Sadat, Jikhan Anwar Sadat |
Perthnasau | Atef Sadat |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Coler Urdd Isabella y Catholig, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Urdd Ojaswi Rajanya, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Medal Aur y Gyngres, Urdd Abdulaziz al Saud, Order of the Star of Nepal, Order of Mubarak the Great, Order of the Nile, Order of the Republic, Person y Flwyddyn y Financial Times |
Gwefan | http://www.anwarsadat.org |
llofnod | |
Cymerodd Sadat ran yng ngwrthryfel y Swyddogion Rhyddion yn erbyn y frenhiniaeth ym 1952. Gwasanaethodd mewn sawl swydd dan yr Arlywydd Gamal Abdel Nasser. Daeth Sadat yn arlywydd dros dro wedi marwolaeth Nasser ar 28 Medi 1970, a chafodd ei ethol i'r swydd ar 15 Hydref.
Ymosododd lluoedd yr Aifft ar Israel yn ystod Rhyfel Yom Kippur, mewn ymgais i adennill tiriogaeth Sinai a feddianwyd gan Israel ers 1967. Cafodd Gwobr Heddwch Nobel ei roi i Sadat a Menachem Begin, Prif Weinidog Israel, ym 1978 yn sgil trafodaethau heddwch rhwng yr Aifft ac Israel.
Cafodd Sadat ei lofruddio gan eithafwyr Islamaidd yn ystod gorymdaith ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog. Fe'i olynwyd gan Hosni Mubarak.