Palmeirim de Inglaterra
Rhamant sifalrig ryddieithol yn yr iaith Bortiwgaleg o'r 16g yw Palmeirim de Inglaterra a briodolir i Francisco de Moraes. Mae cylch Palmeirim yn cynnwys wyth llyfr sy'n ymwneud â champau a chariadon Palmeirim d'Oliva, Ymerawdwr Caergystennin, a'i amryw ddisgynyddion. Hwn yw'r chweched llyfr, sydd yn ymwneud yn bennaf â Palmeirim o Loegr, ŵyr yr ymerawdwr.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Francisco de Moraes |
Yn y stori, prioda Flerida ferch Palmeirim d'Oliva â Don Duardos, mab Fadrique, Brenin Prydain Fawr, a chaent ddau fab: Palmeirim o Loegr a Floriano o'r Anialwch. Wedi i'r dewin Eutropa garcharu Duardos yng nghastell y cawr Dramusiando, mae dyn anwar yn cipio Palmeirim a Floriano ac yn bwriadu eu bwydo i'w lewod, ond mae ei wraig yn mynnu magu'r brodyr. Dygwyd Palmeirim i Gaergystennin ac yno mae'n gwasanaethu ei gyfnither Polinarda ac yn cwympo mewn cariad â hi. Âi Floriano i Lunain i wasanaethu ei fam, Flerida. Mae'r brodyr yn ymgymryd â'r chwilfa am Don Diardos, a Palmeirim sy'n llwyddiannus. Datgelwyd taw meibion Don Duardos a Flerida ydynt, ac mae Palmeirim yn priodi Polinarda. Wrth i Soldan (Swltan) y Tyrciaid ddwyn cyrch milwrol yn erbyn y Cristnogion, mae'n galw am Polinarda yn eiddo iddo er heddwch. O'r diwedd, mae'r Tyrciaid yn ymosod ar Gaergystennin, ac wedi'r frwydr dim ond ychydig o Gristnogion sydd yn goroesi, yn fuddugol, gan gynnwys yr arwr Palmeirim.
Cyfieithwyd cylch Palmeirim i'r Saesneg—drwy gyfrwng trosiad Ffrangeg—gan Anthony Munday ym 1581–95. Yr oedd yn hynod o boblogaidd ymhlith dosbarth canol Lloegr yn oesoedd Elisabeth ac Iago, a chyfeirir at Palmeirim mewn sawl drama o'r cyfnod, er enghraifft yn y gomedi The Knight of the Burning Pestle gan Francis Beaumont sydd yn dychanu'r fath ramantau. Troswyd eto i'r Saesneg gan Robert Southey ym 1807. Honnai Southey i rai o lenorion amlycaf Oes Elisabeth—Shakespeare, Spenser, a Sidney—dynnu ar gylch Palmeirim yn eu gwaith.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 743.