Anthony Munday
Bardd, dramodydd, pamffledwr, a chyfieithydd o Loegr yn oesoedd Elisabeth ac Iago oedd Anthony Munday (sillefir hefyd Mundy; tua 1560 – 1633). Ymhlith ei weithiau mae John a Kent a John a Cumber (perfformiwyd 1594), sy'n ymwneud â gornest rhwng dau ddewin; a The Downfall of Robert, Earle of Huntington a'i dilyniant The Death of Robert, Earle of Huntington (perfformiwyd y ddwy ddrama ym 1598), am chwedl Robin Hwd. Cyfansoddodd sawl baled, er nad yw'r un ohonynt yn goroesi. Dan y llysenw "Shepheard Tonie", cyfrannai sawl cerdd i Englands Helicon (1600). Cyfieithodd hefyd ramantau poblogaidd, gan gynnwys cylch Palmerin (1581–95), Palladine of England (1588), ac Amadis of Gaul (tua 1590), ac ysgrifennodd basiantau i Ddinas Llundain o 1605 ymlaen.[1]
Anthony Munday | |
---|---|
Ganwyd | 1560 Llundain |
Bu farw | 10 Awst 1633 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | dramodydd, llenor, bardd, cyfieithydd |
Ganed ef yn Llundain, Teyrnas Lloegr, yn fab i frethynnwr, a chychwynnodd ar ei yrfa yn brentis i argraffwr. Aeth i'r Cyfandir ym 1578 i ysbïo ar ffoaduriaid Catholig o Loegr yn Ffrainc a'r Eidal, a dan ffugenw fe gafodd ei dderbyn i'r Coleg Seisnig yn Rhufain am sawl mis. Wedi iddo ddychwelyd i Loegr, gweithiodd yn actor a llenor toreithiog. Ym 1581–82 bu Munday yn flaenllaw wrth erlid y cenhadon o Iesuwyr a ddilynodd Edmund Campion i Loegr. Ym 1582 ysgrifennodd gofiant o'i gyfnod yn Rhufain, English Romayne Lyfe. Erbyn 1586 cafodd ei benodi yn un o Genhadon y Frenhines Elisabeth I.[2]
Ysgrifennodd Munday o leiaf 17 o ddramâu, ond dim ond ychydig ohonynt sydd yn goroesi. Mae'n debyg taw efe yw awdur Fedele a Fortunio (1584), addasiad o 'r gomedi Eidaleg Il Fedele gan Luigi Pasqualigo, a berfformiwyd yn llys y Frenhines Elisabeth ym 1585. Credir hefyd taw Munday yw prif awdur Sir Thomas More (tua 1590–93), drama hanes a adolygwyd gan Thomas Heywood, Thomas Dekker, a William Shakespeare.[2]
Wedi 1602, ymddengys i Munday roi'r gorau i fyd y theatr, ac eithrio o leiaf pum pasiant a ysgrifennwyd ganddo ar gyfer Arglwydd Faer Llundain yn y cyfnod 1605–23. Yr oedd yn gyfaill i'r croniclydd John Stow, a fu farw ym 1605, a chyhoeddodd Munday argraffiadau newydd o'i A Survey of London ym 1618 a 1633.[2] Cafodd Munday ei ystyried yn grachlenor gan rai, a châi ei watwar fel "Antonio Balladino" yn y gomedi The Case is Altered gan Ben Jonson.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 689.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Anthony Munday. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Hydref 2022.