Pam Ferris

actores a aned yn 1948

Mae Pamela E. Pam Ferris (ganwyd 11 Mai 1948) yn actores Cymreig. Mae hi wedi serennu ar y teledu fel Ma Larkin yn The Darling Buds of May, fel Laura Thyme yn y gyfres teledu Rosemary & Thyme ac wedi chwarae rhannau mewn ffilmiau teuluol yn seiliedig ar weithiau gan awduron Prydeinig fel Miss Trunchbull yn Matilda ac fel Modryb Marge yn Harry Potter and the Prisoner of Azkaban.[1]

Pam Ferris
Ganwyd11 Mai 1948 Edit this on Wikidata
Hannover Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor teledu, actor llwyfan, actor ffilm, actor Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Ganwyd Ferris yn Hannover, yr Almaen, i rieni Cymreig, lle'r oedd ei thad yn gwasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol. Treuliodd Ferris ei phlentyndod yn ardal Abercynffig, lle fu ei thad, Fred Ferris, yn gwasanaethu fel plismon ar ôl ymadael a'r RAF a'i mam, Ann Perkins, yn gweithio mewn busnes popty ei theulu. Ymfudodd y teulu i Seland Newydd pan oedd Pam yn 13 ond dychwelodd hi i wledydd Prydain yn ei yn ei 20au cynnar.

Ym 1986 priododd yr actor Roger Frost. Mae hi a'i theulu bellach yn byw yn Elham, Swydd Caint[2].

Gyrfa golygu

Dechreuodd Ferris i berfformio fel yn ei blynyddoedd iau yn Theatr Mercury yn Auckland, cyn dychwelyd i'r DU i berfformio gyda nifer o gwmnïau rhanbarthol.

Daeth Ferris i amlygrwydd ehangach trwy chware rôl y Mam Ma Larkin yng nghyfres ITV The Darling Buds of May[3], a oedd yn rhedeg rhwng 1991 i 1993. Rhwng 2003 a 2006, roedd hi'n chwarae rhan y garddwr a ditectif amatur, Laura Thyme yn y gyfres Rosemary & Thyme. Mae hi wedi chware nifer o rannau mewn dramâu cyfnod ar y teledu gan gynnwys The Tenant of Wildfell Hall, Our Mutual Friend, The Turn of the Screw, Pollyanna, Jane Eyre a Mrs General yn addasiad 2008 o nofel Charles Dickens, Little Dorrit, gan y BBC. Mewn ffilm mae Ferris wedi portreadu'r brifathrawes erchyll Miss Agatha Trunchbull yn Matilda[4]. Hi oedd y Modryb Marge, ffiaidd, yn ffilm Harry Potter and the Prisoner of Azkaban, a Miriam, yr actifydd mamol yn Children of Men.[5]

Mae hi hefyd wedi actio mewn dramâu ar gyfer BBC Radio 4.

Mae ei gyrfa yn y theatr wedi cynnwys rhannau mewn cynyrchiadau Royal Court Theatre a Theatr Genedlaethol Lloegr. Yn 2007 chwaraeodd rhan Phoebe Rice mewn adfywiad o ddrama enwog John Osborne, The Entertainer, yn Theatr yr Old Vic, Llundain.

Yn 2007 cymerodd Ferris rhan yn y rhaglen BBC Cymru Coming Home[6] i ganfod ei hanes teuluol Cymreig ac yn 2009 bu hi'n ymddangos yn y gyfres olaf y comedi BBC Gavin & Stacey. Yn 2010 gwnaeth ymddangosiad gwadd yn y comedi sefyllfa Grandma's House. Rhwng 2012 a 2016 bu Ferris yn chwarae rhan Sister Evangelina yn y gyfres Call the Midwife.

Teledu golygu

Blwyddyn Titl Rôl Notes
1971 BBC Play of the Month Puck and Fairie
1984 Dramarama Dorothy
1985 The Bill Mrs. Draper
1985 Connie Nesta
1986 Ladies in Charge Charlie
1987 Hardwicke House Ms. Crabbe
1987 Lizzie's Pictures Grace
1987 Dramarama Mam Paul
1987 Casualty Linda
1988 The Fear Brenda
1988 Valentine Park Mrs. Fox
1988 South of the Border Brenda
1989 All Change Maggie Oldfield
1990 Oranges Are Not the Only Fruit Mrs. Arkwright
1990 A Sense of Guilt Magdalen Parry
1991-1993 The Darling Buds of May Florence "Ma" Larkin
1992 Mr Wakefield's Crusade Mad Marion
1992 Cluedo Mrs. White
1992 Performance Mrs. Bryant
1993 Comedy Playhouse Matron
1994 Middlemarch Mrs. Dollop
1994 The World of Peter Rabbit and Friends Aunt Pettitoes (llais)
1994 The Rector's Wife Eleanor Ramsay
1996 Wycliffe Pat Trethowan
1996 The Tenant of Wildfell Hall Mrs. Markham
1997-2000 Where the Heart Is Peggy Snow
1998 Our Mutual Friend Mrs. Boffin
2001 Linda Green Norma Fitts
2002 Paradise Heights Marion Eustace
2003 Clocking Off Pat Fletcher
2003-2006 Rosemary & Thyme Laura Thyme
2004 Agatha Christie's Marple Elspeth McGillicuddy
2006 Jane Eyre Grace Poole
2007 Lilies Alice Bird
2008 Little Dorrit Mrs. Hortensia General
2009 Gavin & Stacey Catherina "Cath" Smith
2010 Grandma's House Deborah Adler
2011 Midsomer Murders Liz Tomlin
2011 Luther Baba
2012–2016 Call the Midwife Sister Evangelina

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Title Rôl Nodiadau
1983 Meantime Mavis
1996 Matilda Miss Trunchbull Enwebiad am Wobr Saturn am yr Actores Ategol Orau
2001 The Life and Adventures of Nicholas Nickleby Mrs. Squeers
2002 Death to Smoochy Tommy Cotter
2004 Harry Potter and the Prisoner of Azkaban (ffilm) Aunt Marge
2006 Children of Men Miriam
2009 Nativity! Mrs. Bevans
2009 Telstar Mrs Violet Shenton
2009 Malice in Wonderland The Duchess
2012 The Raven Mrs. Bradley
2012 Nativity 2: Danger in the Manger Mrs. Bevans
2013 Saving Santa Mrs. Claus

Cyfeiriadau golygu

  1. IDMb Pam Ferris [1] adalwyd 31 Ebrill 2016.
  2. http://www.itv.com/news/meridian/update/2015-06-07/darling-buds-of-may-star-back-in-kent-high-life/
  3. "Little Dorrit star Pam Ferris on her 15 year rift with Catherine Zeta-Jones". Daily Mail (22 November 2008). adalwyd 31 Ebrill 2016.
  4. The Guardian This much I know: Pam Ferris [2] adalwyd 31 Mawrth 2016
  5. Hollywood.Com @Pam ferris [3] adalwyd 31 Mawrth 2016
  6. Coming Home Series 2 Episode 7 of 7 [4] adalwyd 31 Mawrth 2016