Paradaisu Kisu

(Ailgyfeiriad o Paradise Kiss)

Math o fanga i ferched dros 14 oed, sy'n cael ei alw'n Josei manga ydy Paradise Kiss (パラダイス・キス Paradaisu Kisu), Talfyriad: "ParaKiss". Cafodd ei sgwennu a'i ddarlunio gan Ai Yazawa. Fe welodd olau dydd yn gyntaf fel nofel yn y cylchgrawn ffasiwn Zipper.[1]

Paradaisu Kisu
Enghraifft o'r canlynolcyfres manga Edit this on Wikidata
AwdurAi Yazawa Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
IaithJapaneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1999 Edit this on Wikidata
Genredrama anime a manga Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Clawr y llyfr

Casglodd Shodensha y penodau'n 5 cyfrol. Addaswyd y nofel wedyn yn 12 rhaglen mewn cyfres anime, wedi eu cynhyrchu gan Aniplex a Studio Madhouse, ac a gafodd ei darlledu ar deledu Fuji TV, Japan ac ar y sianel animeiddiadau Animax.

Mae'r comic a'r anime yn ofnadwy o poblogaidd drwy'r byd i gyd. Mae wedi cael ei gyfieithu i dros 10 iaith gan gynnwys: Ffrangeg, Coreeeg, Eidaleg, Pwyleg, Thaieg, Sbaeneg, Saesneg a Portiwgaleg.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Vertical Adds Ai Yazawa's Paradise Kiss Manga". Anime News Network. 6 April 2012. Cyrchwyd 26 Mehefin 2012.