Parc Ynysangharad
Mae Parc Coffa Ynysangharad (weithiau adnabyddir fel Parc Ynysangharad, Parc Pontypridd neu Parc Ponty) yn nhref Pontypridd, Cymru. Cafodd yr ardal sydd bellach yn rhan o'r parc ei phrynu gan bobl Pontypridd yn 1919 ar ôl i weithwyr godi'r arian i sefydlu'r parc. Fe'i cynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer y rhai a oedd yn byw yn yr ardal gyfagos i gael rhywle i ymlacio o'u bywyd gwaith. Mae'r parc wedi'i ddynodi'n Radd II ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
Enghraifft o'r canlynol | parc |
---|---|
Lleoliad | Pontypridd |
Rhanbarth | Rhondda Cynon Taf |
Gwefan | https://www.rctcbc.gov.uk/EN/Tourism/Thingstodo/Parks/YnysangharadWarMemorialPark/YnysangharadWarMemorialParkPontypridd.aspx |
Oherwydd bod Afon Rhondda yn cwrdd ag Afon Taf ar un gornel o’r parc mae’n dueddol o orlifo. Yn 1929 cafwyd llifogydd difrifol gan adael y parc dan ddŵr[1] ac arweiniodd hyn at newid cynllun gwreiddiol y parc i’r hyn sydd yn bodoli heddiw gyda'r cofebion yn cael eu gosod ymhell o Afon Taf. Mae cofebion y parc yn cynnwys y Gofeb Ryfel a cherfluniau Evan a James James, yn ogystal â rhai llai. Mae maes criced, Parc Ynysangharad, o fewn y parc. Mae yna hefyd lido a gafodd ei ailagor ar 31 Awst 2015 ar ôl iddo dderbyn nawdd, ar ôl bod ar gau am ddau ddegawd.
Cofeb Rhyfel
golyguYm 1923 ailenwyd y parc yn barc Coffa Ynysangharad er cof am y milwyr a fu farw yn llinell eu dyletswydd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[2] Ym mis Tachwedd 2011 ail-agorwyd cofeb rhyfel yn y parc i gofio'r milwyr o ardal Pontypridd a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, yn ogystal â rhyfeloedd llai mwy diweddar fel Argyfwng Suez a Rhyfel y Falklands. Roedd cofeb fechan yn barod yn y parc i gofio'r milwyr a fu farw, ond penderfynwyd hefyd y dylid codi rhestr anrhydedd er mwyn anrhydeddu enwau'r meirw gan y teimlwyd na ddylid anghofio'r enwau. Mae'r gofeb yn cynnwys dwy wal gyfochrog gydag enwau'r meirw wedi'u harysgrifio ar blaciau gwenithfaen du a redai ar hyd pob wal. Mae cyfanswm o 1,319[3] enw ar y gofeb, sy'n cynnwys enwau 821 o bobl a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a 491 a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r gofeb hefyd yn cynnwys enwau pob un o'r milwyr a fu farw yn y llinell ddyletswydd yn rhyfeloedd Palestina, Corea a Chamlas Suez (yr Aifft) a'r pedwar Gwarchodlu Cymreig yn ystod Rhyfel y Falklands.[3] Costiodd y gofeb tua £80,000 i'w hadeiladu a'i chwblhau diolch i sawl apêl codi arian gan drigolion lleol Pontypridd.[3]
Mae'r parc wedi'i ddynodi'n Radd II ar Gofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru.
Cerfluniau Evan James a James James
golyguYn y parc mae cofeb i Evan James a'i fab James James a ysgrifennodd Hen Wlad fy Nhadau, Anthem Genedlaethol Cymru. Gwehyddion oedd Evan James a'i fab James oedd yn byw ym Mhontypridd pan gyfansoddwyd yr Anthem Genedlaethol yn 1856,[4] James ysgrifennodd y geiriau ac Evan gyfansoddodd y gerddoriaeth. Er mai Glan Rhondda oedd yr enw gwreiddiol arni[5] fe'i hailenwyd yn gyflym yn Hen Wlad Fy Nhadau pan ddaeth yn boblogaidd iawn ar ôl cael ei pherfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen 1858.[6]
Yn wahanol i lawer o anthemau ni chafodd ei hysgrifennu i gynrychioli achlysur arbennig mewn hanes, ond erbyn 1905 fe'i derbyniwyd i raddau helaeth fel yr Anthem Genedlaethol gan boblogaeth Cymru dim ond drwy ei boblogrwyd. Mae hyn yn golygu, er bod Hen Wlad Fy Nhadau yn cael ei derbyn fel Anthem Genedlaethol Cymru, nid yw'n cael ei chydnabod yn swyddogol nac yn gyfreithiol fel hi yng Nghyfraith Prydain,[5] oherwydd yn gyfreithiol Anthem Genedlaethol Cymru yw Duw Bendithia Tywysog Cymru.[6]
Yn dilyn marwolaeth James James ym 1902 teimlai llawer o drigolion lleol y dylid codi cofeb i Evan a James James i gofio am awduron yr Anthem Genedlaethol a cychwynnodd ymgyrch i adeiladu un. Fodd bynnag, ddaeth yr ymgyrch i ben yn dilyn trychineb glofaol Senghennydd yn 1913 a dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Yna yn 1929 rhoddodd Rhys Morgan hysbyseb yn y Western Mail yn apelio am arian i godi cofeb, gan ddweud ei fod yn disgwyl "ymateb prydlon" gan bob "Cymro neu Gymro",[6] a codwyd yr arian yn gyflym.
Cynlluniwyd y gofeb a welwch yn y parc heddiw gan Syr William Goscombe John a’i dadorchuddiwyd gan yr Arglwydd Treowen ar 23 Gorffennaf 1930 gerbron torf o 10,000 o bobl.[7] Mae'r gofeb yn cynnwys dau ffigwr efydd maint llawn, un fenyw sy'n cynrychioli barddoniaeth a thelynores gwrywaidd sy'n cynrychioli cerddoriaeth.[2] Mae arysgrif o dan y gofeb sy'n darllen:
- Er cof am Evan James a James James, tad a mab o Bontypridd, a ysbrydolwyd gan gariad dwfn a thyner at eu gwlad enedigol, unodd barddoniaeth i gân ac a roddodd i Gymru ei hanthem genedlaethol, Hen Wlad fy Nhadau.[5]
Lido Awyr Agored Pontypridd
golyguAgorwyd y lido ym 1927 a dywedir mai dyma'r pwll nofio awyr agored mwyaf yng Nghymru[2] ac ar ei fwyaf poblogaidd gallai'r lido gael hyd at 1,000 o ymwelwyr y dydd.[8] Adeiladwyd y lido gyda dylanwad nodedig o Fôr y Canoldir, fel llawer o lidos eraill o amgylch Prydain, ac mae'n cynnwys ystafelloedd newid awyr agored a oedd yn rhedeg yn gyfochrog ag ymyl y lido.[8]
Ar ôl blynyddoedd o beidio â chael ei gynnal cafodd y lido ei gau'n swyddogol yn 1991 ar ôl iddo gael ei ddifrodi'n ddifrifol gan dân. Dros y ddau ddegawd blaenorol aeth yn adfail a chafodd ei adael yn segur oherwydd y ffaith ei fod yn Adeilad Rhestredig Gradd II[2] ac ni ellid ei ddymchwel. Dim ond yn 2013 y dechreuwyd ailwampio’r lido yn dilyn buddsoddiad o £6.3m[8] gan Lywodraeth Cymru, gan ddefnyddio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, y dechreuwyd ar y cynlluniau i ailagor ac adnewyddu’r lido.
Oherwydd ei fod yn Adeilad Rhestredig Gradd II cadwyd llawer o'r nodweddion gwreiddiol, fel y gatiau tro a'r ystafelloedd newid pren awyr agored. Fodd bynnag, ychwanegwyd nodweddion newydd fel caffi, canolfan ymwelwyr a dec arsylwi, hefyd cyfleusterau newid wedi'u gwresogi gyda chawodydd mewnol ac allanol ar gyfer y rhai sy'n defnyddio'r lido.[9]
Dim ond un pwll mawr oedd gan yr hen lido tra bod yr un newydd bellach yn cynnwys prif bwll ochr yn ochr â phwll gweithgareddau a phwll sblash i blant bach.[9] Ailagorwyd y lido yn swyddogol ar 31 Awst 2015.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Eckley 1994, t. 97.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Powell 2007.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "War memorials unveiled at Ynysangharad Park, Pontypridd". BBC Wales News. 4 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2015.
- ↑ "Land of my fathers: Wales' national anthem". Wales.com. Cyrchwyd 20 Mawrth 2023.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Welsh anthem - The background to Hen Wlad Fy Nhadau". BBC Wales Music. Cyrchwyd 20 March 2023.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "The History of the National Anthem". Rhondda Cynon Taff Library Service. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2015.[dolen farw]
- ↑ Eckley 1994.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 "16 pictures that show the rise and fall (and rise again?) of Pontypridd's landmark lido". Cyrchwyd 20 Mawrth 2023.
- ↑ 9.0 9.1 "Pontypridd Lido Restoring History". Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2015.[dolen farw]
Llyfryddiaeth
golygu- Eckley, Simon (1994). ‘Pontypridd: The Archive Photographs Series’. Stroud: Chalford Publishing Company.
- Powell, Dean (2007). Images of Wales: Pontypridd Revisited. Stroud: Tempus Publishing.
Dolenni allanol
golygu- Parc Coffa Ynysangharad Archifwyd 2024-03-05 yn y Peiriant Wayback : Gwefan Cyngor Bwrdeistref RCT