Ystad Dinefwr
Mae Ystad Dinefwr (hefyd Parc Dinefwr), yn ystad hynafol ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys safle Castell Dinefwr, pencadlys tywysogion Deheubarth yn yr Oesoedd Canol. Saif ar lan Afon Tywi. Dyma ganolfan weinyddol cwmwd Maenor Deilo yn yr Oesoedd Canol. Dinefwr oedd prif lŷs ŵyr Rhodri Mawr, sef Hywel Dda, brenin cyntaf Deheubarth ac yn nes ymlaen brenin y rhan fwyaf o Gymru.
Math | ardal gadwriaethol, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 224.53 ha |
Cyfesurynnau | 51.88°N 4.02°W, 51.879648°N 4.013983°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Cadwraeth
golyguSoDdGA
golyguMae'r ystad wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1973 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 224.53 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.
Math o safle
golyguDynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion yn ogystal â’r stratigraffeg ei hun (h.y. haenau o greigiau o bwys cenedlaethol).
Cyffredinol
golyguMae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 25 Rhagfyr 2013