Parc Fictoria, Caerdydd
Parc cyhoeddus yn ardal Treganna, Caerdydd (ger Trelái) ydy Parc Fictoria (Saesneg: Victoria Park). Fe'i crewyd i ddathlu jiwbilî ddeimwnt Brenhines Fictoria ym 1897. Ardelir hefyd yr enwau Cymraeg Parc Buddug,[1] ac yn llai cyffredin, Parc y Cimdda.[2]
Math | parc dinesig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.485°N 3.219°W |
Nodweddion
golyguMae gan y parc rhestredig gradd 2 ardal o tua 20 erw. Mae'n cynnwys lawntiau, coed aeddfed, borderi blodau, cyrtiau tenis a lawnt fowlio. Cafodd yr hen bwll ymdrochi ei ddisodli yn 2016 gan y Pad Sblasio, sy'n cynnwys 33 o nodweddion difyr i blant.
Yn wreiddiol roedd cynllun i ddatblygu'r parc fel gardd swolegol, ac o tua 1900 i'r 1950au roedd casgliad bychan o anifeiliaid ac adar yn cael ei gadw yno. Daeth y parc enwog am Billy'r Morlo, morlo llwyd sy'n byw ym mhwll y parc o 1912 i 1939 ar ôl cael ei ddal ym Môr Hafren gan treill-long o Gaerdydd;[3] mae cerflun Billy gan David Petersen yn y parc heddiw.
Roedd llwyfan band haearn a osodwyd yn wreiddiol yn Chwefror 1897; cafodd replica ei osod ym 1996. Mae canopi ffynnon haearn a gyflwynwyd gan I. Samuel Ysw. ym 1908; adferwyd y canopi a chafodd ei symud i'w safle presennol ym 1986.[4]
Enwau Cymraeg
golyguParc Buddug
golyguArddelir enw Cymraeg answyddogol ar y Parc, sef, Parc Buddug.[1][5] Nid oes tadogiad swyddogol i'r enw ond fe'i harddelir fel gwrthbwynt neu wrthwynebiad i'r gwrogaeth i frenhines Victoria. Mae "Buddug" yn cyfeirio at yr arweinyddes Frythonaidd o'r un enw, Buddug (a elwir hefyd yn 'Boudica' yn Lladin) a ymladdodd yn erbyn y Rhufeiniaid ac a ystyrir yn arwres Gymreig. Mae'r enw Buddug hefyd, mewn rhyw fodd, yn cyfateb i 'Victoria' gan fod yn sail i'r gair "buddugoliaeth" fel ceir "victory" yn y Saesneg.
Parc y Cimdda
golyguEnw arall, efallai hŷn ar yr ardal lle mae Parc Fictoria heddiw, ac a arddelir yn achlysurol iawn i'r parc yw Parc y Cimdda. Gwelir yr enw 'Cimdda' ar fap Caerdydd Tanddaearol a gyhoeddwyd i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 gyda chefndir i hanes cymdeithasol y Gymraeg yng Nghaerdydd gan Dylan Foster-Evans o Brifysgol Caerdydd.[6]
Mae "cimdda" neu ffurf arall, 'cimle' o'r gwraidd "cim" sy'n golygy "tir comin". Y Cimdda neu Cimdda Llandaf (ac amrywiaethau ar y sillafiad a'r ynganiad) oedd yr enw Cymraeg ar yr hyn hyd nes o leiaf yr 1840au a elwid yn Ely Common neu Llandaff Common yn Saesneg. Bu ffermdy'r Cimdda ar ochr ogleddol Cowbridge Rd, ychydig i'r gollewin o le mae'r Parc presenol yn sefyll. Roedd hefyd fferm arall 'Cimdda Bach' ar gornel lle mae Ninian Rd a Shirley Rd heddiw yn agos i waelod Parc y Rhath gyfoes.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Ffynhonau Caerdydd a'r Cylch" (arg. 48). Llygad y Ffynnon, gwefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. 2020. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2024.
- ↑ 2.0 2.1 Foster-Evans, Dylan (9 Tachwedd 2014). "Victoria Park aka Parc y Cimdda". Blog Diferion Pwllcoch.
- ↑ "Croeso 'nôl i Billy'r Morlo" (BBC); adalwyd 4 Awst 2017.
- ↑ Gwefan Cyngor Caerdydd[dolen farw]; adalwyd 4 Awst 2017.
- ↑ Cooke, Lowri Haf (3 Medi 2010). "Diwrnod yn y Ddinas". Blog 'Y Twll'. Cyrchwyd 18 Rhagfyr 2024.
- ↑ "Creu map trên tanddaearol o Gaerdydd yn y Gymraeg". BBC Cymru Fyw. 28 Mehefin 2017.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Parciau a Gerddi De Cymru Archifwyd 2017-05-13 yn y Peiriant Wayback
- "Sw? Ym Mharc Fictoria, Caerdydd?", BBC Cymru Fyw, 26 Tachwedd 2021
Oriel
golygu-
Y fynedfa dde-ddwyreiniol i'r parc
-
Cerflun Billy'r Morlo gan David Petersen (1997)
-
Y llwyfan band (1996)
-
Canopi ffynnon haearn a gyflwynwyd gan I. Samuel Ysw. ym 1908
-
Hydref yn y parc