Parc le Breos Cwm
Siambr gladdu Neolithig yng nghymuned Llanilltud Gŵyr ar Benrhyn Gŵyr yw Parc le Breos Cwm neu carn hir Parc Cwm, sydd ymhlith yr adeiladau hynaf i'w codi yng ngwledydd Prydain: 1,300 o flynyddoedd cyn Côr y Cewri. Saif yn Nghoed y Parc Cwm, tua 13 km i'r gorllewin o Abertawe.
Delwedd:Parc Cwm, Gwyr - elevated.JPG, Parc le Breos, Gwyr yr ogof cathole.JPG | |
Math | siambr gladdu, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Cyngor Dinas a Sir Abertawe |
Sir | Melin y Parc |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5885°N 4.1127°W |
Rheolir gan | Cadw |
Perchnogaeth | Cadw |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM122 |
Mae'n feddrod o'r math Hafren-Cotswold, gyda charnedd hirswgar o gerrig yn cael ei hamgau gan wal gerrig. Ceir blaengwrt ar ffurf cloch, yn wynebu i'r de, yn arwain ar fynedfa gyda dau bâr o siamberi.
Ail-ddarganfuwyd y beddrod yn 1869, gan weithwyr yn cloddio cerrig ar gyfer gwaith ar y ffyrdd. Cloddiwyd yno y flwyddyn honno, a chafwyd hyd i esgyrn dynol, yn cynrychioli gweddillion dros 40 o bobl. Cloddiwyd yma eto yn 1937 dan arweiniad Glyn Daniel.
Cerfiad o garw Llychlyn yn Cathole Cave ger y gromlech yw'r darn hynaf o gelf graig ym Mhrydain, wedi ei greu o leiaf 14,000 o flynyddoedd yn ôl.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Gower cave reindeer carving is Britain's oldest rock art. BBC (29 Mehefin 2012). Adalwyd ar 2 Gorffennaf 2012.
Llyfryddiaeth
golygu- Steve Burrow Cromlechi Cymru: marwolaeth yng Nghymru 4000-3000 CC. (Llyfrau Amgueddfa Cymru, 2006)
Beddrodau Hafren-Cotswold yng Nghymru | ||
---|---|---|