Paris (mytholeg)

(Ailgyfeiriad o Paris (chwedloniaeth))

Cymeriad ym Mytholeg Roeg oedd Paris (Hen Roeg: Πάρις; hefyd Alexander neu Alexandros). Mae'n fab i Priam, brenin Caerdroea, a Hecuba. Ef sy'n achosi Rhyfel Caerdroea a chwymp y ddinas, trwy gipio Elen, gwraig Menelaos, brenin Sparta.

Paris
Galwedigaethheusor Edit this on Wikidata
TadPriam Edit this on Wikidata
MamHecuba Edit this on Wikidata
PriodOenone, Elen o Gaerdroea Edit this on Wikidata
PartnerElen o Gaerdroea Edit this on Wikidata
PlantCorythus, Idaeus, Bunicus, Aganus, Helena Edit this on Wikidata
Y Tywysog Paris gydag Afal gan H.W. Bissen, Ny Carlsberg Glyptotek, Copenhagen

Dechreua'r stori gyda phriodas Peleus a Thetis. Daw'r duwiau a'r duwiesau i gyd i'r wledd briodas, ond ni wahoddwyd Eris, duwies anghydfod. Fel dial, mae Eris yn cymeryd afal aur, yn ysgrifennu "i'r harddaf" (τηι καλλιστηι) arno, a'i daflu i blith y gwahoddedigion. Canlyniad hyn yw ffrae rhwng y duwiesau Hera, Athena ac Aphrodite pwy ddylai gael yr afal. Gofynnir i Paris farnu pa un o'r tair yw'r harddaf. Mae pob un o'r tair duwies yn addo gwobr i Paris os dyfarna'r afal iddi hi. Cynnig Aphrodite yw y caiff Paris y wraig brydferthaf yn y byd, sef Elen, gwraig Menelaos, yn gariad. Dyfarna Paris yr afal i Aphrodite.

Mae Paris yn cipio Helen, a'i dwyn i Gaerdroea, lle mae ei dad, Priam, yn frenin. Ymateb Menelaos yw gofyn cymorth ei frawd Agamemnon, brenin mwyaf nerthol y Groegiaid. Gelwir arwyr y Groegiaid at ei gilydd, yn eu plith Achilles a'i gyfaill Patroclus, yr hynafgwr Nestor, Aiax, Odysseus, Calchas a Diomedes, ac wedi ymgynull ar ynys Aulis, maent yn hwylio am Gaerdroea.

Y mwyaf nerthol o arwyr y Groegiaid yw Achilles, sy'n fab i'r dduwies Thetis. Pan oedd yn faban, roedd Thetis wedi ei ymdrochi yn afon Styx fel na ellid ei niweidio gan unrhyw arf; heblaw ar ei sawdl, lle roedd hi'n gafael ynddo. Lleddir Patroclus, cyfaill Achilles, gan Hector, mab hynaf Priam a phrif arwr Caerdroea. Lleddir Hector gan Achilles, yma saethir Achilles ei hun yn ei sawdl gan Paris, ac mae'n marw o ganlyniad i'r anaf.

Yn nes ymlaen yn y rhyfel, clwyfir Paris yn farwol gan Philoctetes. Mae Helen yn mynd i chwilio am Oenone, cyn-gariad Paris sy'n byw ar Fynydd Ida, ac yn erfyn arni i iachau Paris, ond mae Oenone yn gwrthod, ac mae Paris yn marw.