Parshvottanasana
Asana, neu osgo'r corff o fewn ioga yw Parshvottanasana (Sansgrit: पार्श्वोत्तानासना, IAST: Pārśvottānāsana) neu Ymestyn dwys i'r Ochr. Fe'i ceir mewn ymarferion ioga modern er mwyn cadw'n heini.
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas sefyll |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw enw'r asana yma o'r Sansgrit प्रसव (parshva) sy'n golygu "ochr", ुत (ut) sy'n golygu "dwys", तन (tan) sy'n golygu "ymestyn", ac आस (asana), sy'n golygu "osg" neu "sfale'r corff".[1]
Nid yw'r asana hwn yn hysbys mewn ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir yn Yoga Makaranda Krishnamacharya ym 1935, ac fe'i cymerwyd gan ei ddisgyblion Pattabhi Jois a BKS Iyengar yn eu hysgolion ioga nodedig.[2] Ceir asana tebyg yn Primary Gymnastics 1924 Niels Bukh; awgryma Mark Singleton bod Krishnamacharya, a ddylanwadwyd gan ddiwylliant gymnasteg cyffredinol y cyfnod, wedi mabwysiadu gymnasteg i'w arddull llifeiriol o ioga, lle ceir dilyniant o asanas.[3]
Disgrifiad
golyguMae'r asana yma'n datblygu'n naturiol o Tadasana. Rhoddir y dwylo gyda'i gilydd mewn safle gweddi, y tu ôl i'r cefn, blaenau bysedd i fyny. Mae'r traed yn cael eu gosod mewn ongl sgwâr i'w gilydd, y ddwy goes yn syth. Dylai'r troed blaen bwyntio'n syth ymlaen; mae'r droed ôl yn cael ei throi ymlaen tua 60 gradd a'r cluniau wedi'u halinio ar ongl sgwâr i'r traed, fel bod y corff yn gallu symud i lawr mewn tro ymlaen yn syth dros y goes flaen[4][1] Gellir mynd â'r dwylo i'r llawr i ddwysau'r ymestyn.[5]
Llyfryddiaeth
golygu- LIyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Unwin Paperbacks.
- Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley.
- Mittra, Dharma (2003). Asanas: 608 Yoga Poses. ISBN 978-1-57731-402-8.
- Rhodes, Darren (2016). Yoga Resource Practice Manual. Tirtha Studios. ISBN 978-0983688396.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Mehta 1990.
- ↑ Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100–102. ISBN 81-7017-389-2.
- ↑ Bukh, Niels (2010) [1924]. Primary Gymnastics. Tufts Press. ISBN 978-1446527351.
- ↑ Iyengar 1979.
- ↑ YJ Editors (28 Awst 2007). "Intense Side Stretch Pose". Yoga Journal.