Duwies mewn Hindŵaeth sy'n un o gymharaiaid Shiva, duw dinistr, trawsnewid a dadeni, yw Parvati (Sansgrit: Pārvatī, पार्वती ; weithiau ceir y ffurfiau Parvathi neu Parvathy hefyd). Er mai ail gymar Shiva ydyw - ar ôl Satī, ei wraig gyntaf - ym mytholeg Hindŵaeth, yr un yw Parvati a Satī gan ei bod yn ail-ymrithio o'r dduwies honno. Mae hi'n fam i'r duwiau Ganesha a Skanda (Kartikeya). Mae rhai Hindwiaid yn ei ystyried yn chwaer i Vishnu ac mae Shactiaid yn ei addoli fel y Shakti Ddwyfol, yn ymgorfforiad o holl egni'r Bydysawd. Fel pob duwies Hindŵaidd, gellir ystyried fod Parvati yn ymgorfforiad o ochr benywaidd y duw sy'n gymar iddi (ffordd arall o ddweud hynny yw bod ei chymar yn cynrychioli ochr wrywaidd y dduwies; yr un ydynt yn eu hanfod). Yn ogystal mae Parvati yn cael ei addoli fel Merch yr Himalaya (yn ei gwyryfdod, cyn dod yn gymar i Shiva); mae hi'n arbennig o boblogaidd gan Hindwiaid y mynyddoedd hynny, e.e. yn Nepal ac ardal Darjeeling.

Parvati
Enghraifft o'r canlynolDevi, Hindu deity Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSati Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Parvati yn swcro'r baban Ganesha (darlun o Jaipur, India, tua 1820)

Darlunnir Parvati gyda Shiva fel merch â dwy fraich, ond ar ben ei hun mae ganddi bedair braich ac mae hi'n marchogaeth teigr neu llew. Mae Parvati yn dduwies fwyn fel rheol, fel Mahagauri, Shailputri a Lalita, ond fel pob duwies arall mae ganddi ei ochr "dywyll" a dychrynllyd, fel Durga, Kali, Chandi a'r Mahavidyau. Mae Parvati yn cael ei gweld gan rai addolwyr fel y Fam Ddwyfol Oruchel y mae pob duwies arall yn deillio ohoni neu'n agweddau ohoni.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.