Paso de Indios
Tref fechan yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Paso de Indios. Yr enw Cymraeg yn nyddiau cynnar y Wladfa oedd Rhyd yr Indiaid. Mae'n brif dref yn departmento o'r un enw. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,087.
Math | ardal boblog |
---|---|
Poblogaeth | 1,264 |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Paso de Indios |
Gwlad | Yr Ariannin |
Uwch y môr | 575 metr |
Cyfesurynnau | 43.9°S 69.0667°W |
Cod post | U9207 |
Cysylltir Paso de Indios a dinasoedd Trelew ac Esquel gan y briffordd RN 25. Y sefydliad cyntaf yn yr ardal oedd Manantiales. Rhoddwyd yr enw "Paso de Indios" i fan ar Afon Camwy rhyw 12 km o Manantiales gan y criw fu'n fforio'r ardal dan Luis Jorge Fontana, a groesodd yr afon yma ar 4 Tachwedd 1885. Ceir disgrifiad o'r fan gan Eluned Morgan yn 1899.
Aldea Apeleg · Cerro Cóndor · Comodoro Rivadavia · Dolavon · Esquel · Gaiman · José de San Martín · Lago Blanco · Lago Puelo · Lagunita Salada · Las Plumas · Los Altares · Paso de Indios · Paso del Sapo · Porth Madryn · Puerto Pirámides · Rada Tilly · Rawson · Río Mayo · Río Pico · Sarmiento · Tecka · Telsen · Trelew · Trevelin · Veintiocho de Julio