Tref yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, yw Sarmiento. Mae'n brifddinas sir (departamento) Sarmiento. Fe'i lleolir mewn dyffryn ffrwythlon yng nghanol rhanbarth sy'n sych fel arall, 140 km i'r gorllewin o ddinas Comodoro Rivadavia. Saif rhwng dau lyn mawr ym masn Afon Senguerr.

Sarmiento
Llyfrgell y dref, Sarmiento
Mathbwrdeistref Edit this on Wikidata
Poblogaeth10,858 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1897 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSarmiento Department Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Uwch y môr258 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.6°S 69.08°W Edit this on Wikidata
Cod postU9020 Edit this on Wikidata
Map
Saif Sarmiento yn ardal gwerddon werdd yng nghanol y llun lloeren

Yn ôl cyfrifiad 2010 roedd gan yr aneddiad boblogaeth o 10,858.[1]

Sefydlwyd y lle yn swyddogol yn 1897 pan ymgartrefodd wyth teulu o fewnfudwyr yno: 5 o Gymru, 2 o Wlad Pwyl ac un o Lithwania. Daeth mwy o deuluoedd Cymreig yn ddiweddarach a Affricaneriaid hefyd ar ôl Ail Ryfel y Boer. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 1914.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 31 Hydref 2022