Hazel dormouse
Amrediad amseryddol:
canol y Mïosen – heddiw
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Rodentia
Teulu: Gliridae
Is-deulu: Leithiinae
Genws: Muscardinus
Kaup, 1829
Rhywogaeth: M. avellanarius
Enw deuenwol
Muscardinus avellanarius
(Linnaeus,
y 10fed rhifyn o Systema Naturae (1758)
Dosbarthiad daearyddol

Mae’r pathew (Muscardinus avellanarius), yn famal yn nheulu'r Gliridae, sydd o fewn y genws Muscardinus.

Anifail y nos ydyw, mae’n heini dros ben ac yn treulio’r rhan fwyaf o’i oriau effro mewn coed a llwynni. Maen nhw’n effro rhwng mis Ebrill a mis Hydref fel arfer. Mae’r pathew i’w weld ym mhob sir helbaw Ynys Môn, ond eto maen nhw’n byw mewn poblogaethau bach. Mae eu niferoedd wedi gostwng tua 20% rhwng 1991 a 2000.

Mae’r pathew yn rhywogaeth a warchodir gan Ewrop. Mae’n anghyfreithlon difrodi neu ddifa ei safle bridio neu fan gorffwys (ei nyth yn yr haf neu ei nyth wrth aeafgysgu) neu ddal, lladd, anafu neu darfu ar bathew yn fwriadol.

Deddfwriaeth golygu

Mae’r pathew yn cael ei warchod o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (fel y’u diwygiwyd), a elwir yn ‘Rheoliadau Cynefinoedd’.

Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn datgan bod y canlynol yn drosedd:

  • dal, anafu neu ladd yn fwriadol unrhyw anifail gwyllt sy’n rhywogaeth a warchodir gan Ewrop
  • tarfu’n fwriadol ar unrhyw anifeiliaid gwyllt o’r cyfryw rywogaethau
  • difa neu ddinistrio safle bridio neu fan gorffwys anifail o’r fath

Mae tarfu’n cael ei ddiffinio fel rhywbeth sy’n debygol:

1. o amharu ar eu gallu i oroesi, bridio neu atgenhedlu, neu i fagu neu feithrin eu rhai bach, neu yn achos anifeiliaid rhywogaeth sy’n gaeafgysgu neu sy’n mudo, yn amharu ar eu gallu i wneud hynny.

2. o effeithio’n sylweddol ar ddosbarthiad neu niferoedd y rhywogaeth y maen nhw’n perthyn iddo yn lleol.

Bydd Defra a Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi dogfen ganllaw ar y cyd ar ddehongli’r troseddau sy’n gysylltiedig â tharfu, difa a dinistrio safleoedd bridio a mannau gorffwys.

Mae yna droseddau eraill yn ymwneud â meddu, cludo a gwerthu.

Fodd bynnag, mae’n gyfreithlon gofalu am bathew sydd wedi brifo gyda’r bwriad o’i ryddhau, neu ladd un nad yw’n gallu gwella, cyn belled nad oedd yr anaf wedi deillio o’ch gweithred anghyfreithlon chi (Rheoliadau Cynefinoedd 42 (1)(2); Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 10(3)(a)(b)).

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) mae’n anghyfreithlon:

  • tarfu’n fwriadol neu’n ddi-hid ar unrhyw bathew tra ei fod yn byw mewn strwythur neu fan mae’n ei ddefnyddio i gysgodi neu lochesu, 9(4)(b)
  • rhwystro mynediad i unrhyw strwythur neu le mae pathew yn ei ddefnyddio i gysgodi neu lochesu, boed yn fwriadol neu’n ddi-hid 9(4)(c)[2]
  • gwerthu, cynnig neu roi i werthu unrhyw bathew 9(5).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. iucnredlist.org; adalwyd 22 Mehefin 2017.
  2. "Gwefan CNC". 19 Gorffennaf 2017.[dolen marw]