Paul Panton
Noddwr llenyddiaeth Gymraeg a hynafiaethydd o Gymru oedd Paul Panton (4 Mai 1727 - 24 Mai 1797). Cafodd ei eni ym Magillt, ger Treffynnon, Sir y Fflint, ond ymgartrefodd ym Mhlas Gwyn, Môn.
Paul Panton | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mai 1727 (yn y Calendr Iwliaidd) Bagillt |
Bu farw | 24 Mai 1797 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bargyfreithiwr, hynafiaethydd |
Plant | Paul Panton, Jones Panton |
Hynafiaethydd a noddwr
golyguRoedd yn gyfaill i'r hynafiaethydd Thomas Pennant. Er yn ddi-Gymraeg ei hun, treuliodd ran helaeth ei fywyd yn ymchwilio i lenyddiaeth Gymraeg a chasglu llawysgrifau Cymreig. Roedd yn noddi'r bardd a hynafiaethydd Evan Evans (Ieuan Fardd) a chafodd ei lawysgrifau a'i nodiadau ar ei farwolaeth yn 1788. Cafodd yn ogystal gyfran fawr o bapurau a llawysgrifau Wynniaid Gwydir. Ef oedd noddwr y bardd Dafydd Ddu Eryri.
Enw ei fab hefyd oedd Paul Panton, ac ef a roddodd gymorth i Owain Myfyr a William Owen Pughe olygu'r Myvyrian Archaiology of Wales. Cyflwynir y gyfrol gyntaf iddo fel diolch am gael ymweld â'i lyfrgell.
Cedwir llawysgrifau Panton yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, er 1914.