Pauley Perrette
Actores Americanaidd yw Pauley Perrette (ganwyd 27 Mawrth 1969) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cynhyrchydd ffilm, bardd a blogiwr.[1][2][3]
Pauley Perrette | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mawrth 1969 New Orleans |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, bardd, blogiwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, llenor, cyfarwyddwr ffilm |
Arddull | cerddoriaeth roc |
Priod | Coyote Shivers |
Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Taleithiol Valdosta a Choleg Cyfiawnder Troseddol John Jay. Priododd Coyote Shivers. [4][5][6]
Mae hi'n adnabyddus am chwarae rhan Abby Sciuto ar y gyfres deledu NCIS, rhwng 2003 a 2018. Caiff ei hadnabod hefyd fel eiriolwr dros hawliau sifil.
Cyfnod cynnar
golyguAr The Late Late Show, dywedodd wrth y gwesteiwr Craig Ferguson ei bod wedi byw yn Georgia, Alabama, Tennessee, Gogledd Carolina, De Carolina, Efrog Newydd, New Jersey, a California.[7] Mewn cyfweliad yn 2011 gyda’r Associated Press, cyfaddefodd Perrette mai ei huchelgeisiau cynnar oedd gweithio gydag anifeiliaid, bod mewn band roc a rôl neu fod yn asiant FBI.[8]
Mynychodd Perrette Brifysgol Talaith Valdosta yn Valdosta, Georgia, lle bu’n astudio cyfiawnder troseddol, ac yn ddiweddarach symudodd i Ddinas Efrog Newydd i astudio yng Ngholeg Cyfiawnder Troseddol John Jay.[9]
Yn Efrog Newydd, cafodd amrywiaeth o swyddi. Dywedodd: "Nid yn unig roeddwn i'n gweithio y tu ol i'r bar mewn clwb, mewn bra ac esgidiau hoelion mawr ond gwisgais hefyd esgidiau sglefrio yn rhannu taflenni Taco Bell yn y Diamond District. " Yn ddiweddarach, gweithiodd Perrette fel cogydd ar gwch mordeithio ym Manhattan.[8]
Gyrfa
golyguMae Perrette wedi gweithio ym maes teledu a ffilm, gan wneud hysbysebion, trosleisio, fideos cerddoriaeth a ffilmiau byr yn bennaf. Wrth weithio yn Efrog Newydd, fe’i cyflwynwyd gan ffrind i gyfarwyddwr asiantaeth hysbysebu. Fe ysgogodd hyn iddi symud i Los Angeles, lle cafodd amrywiaeth o rannau bychan a gwneud sawl ymddangosiad fel gwestai.[8] Ymddangosodd fel gweinyddes yng Nghaffi Nervosa ar y sitcom Frasier yn ystod tymor pedwar (yn y bennod Three Dates and a Break Up), ac serennodd yn nhymor un. Mae hi wedi ymddangos mewn sawl ffilm, gan gynnwys The Ring ac Almost Famous.
Yn 2001, fel cymeriad parhaol, a gyflwynwyd yn nhymor dau Uned Arbennig 2, chwaraeodd Alice Cramer, person cysylltiadau cyhoeddus yr Uned. Glaniodd ei rôl amlycaf, gan chwarae rhan Abby Sciuto, gwyddonydd fforensig ecsentrig, ar NCIS, cyfres deledu wedi'i seilio ar Wasanaeth Ymchwilio Troseddol y Llynges.
Mewn cyfweliad yn 2005 â Craig Ferguson (gwesteiwr The Late, Late Show), dywedodd Perrette fod ganddi obsesiwn gyda throsedd, obsesiwn gydol oes. Bu'n fyfyriwr israddedig mewn cymdeithaseg, seicoleg a gwyddoniaeth droseddol. Dechreuodd ei gradd meistr mewn gwyddoniaeth droseddol cyn troi at y diwydiant adloniant.
Personol
golygupriododd ag actor a cherddor o Ganada, Coyote Shivers, yn 2000, ond gwahanodd y ddau bedair blynedd yn ddiweddarach, gyda'u hysgariad yn dilyn yn 2006. Cafodd orchmynion atal yn erbyn Shivers gan iddi honi iddi ddioddef camdriniaeth gorfforol, emosiynol a rhywiol yn ystod ac ar ôl eu priodas.[10]
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Pauley Perrette - Singer, Television Actress, Activist - Biography". The Biography Channel/A&E Television Networks, LLC. Cyrchwyd 2018-12-17.
- ↑ "Pauley Perrette". CBS. 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-09-30. Cyrchwyd 2007-10-10.
- ↑ "Pauley Perrette". Hollywood.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-30. Cyrchwyd 2016-04-14.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Pauley Perrette".
- ↑ "The Late Late Show with Craig Ferguson". The Late Late Show with Craig Ferguson. 2005-05-25. CBS. https://www.youtube.com/watch?v=jW5y63J_rSM.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 "Pauley Perrette: Goth go-to gal on NCIS". Kirksville Daily Express. Associated Press. 2011-12-15.
- ↑ "Pauley Perrette Biography". TVGuide.com. 1969-03-27. Cyrchwyd 2011-09-11.
- ↑ "'NCIS' Actress Pauley Perrette's Endless Nightmare Divorce". Fox News. Medi 28, 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mai 22, 2013. Cyrchwyd Tachwedd 13, 2015. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help)