Awdures o Loegr oedd Pauline Clarke (19 Mai 1921 - 23 Gorffennaf 2013) a ysgrifennai ar gyfer plant iau o dan yr enw Helen Clare, ac ar gyfer plant hŷn fel Pauline Clarke, ac yn fwy diweddar ar gyfer oedolion o dan ei henw priod Pauline Hunter Blair. Ei gwaith mwyaf adnabyddus yw The Twelve and the Genii, nofel ffantasi isel i blant a gyhoeddwyd gan Faber ym 1962 ac a enillodd Fedal Carnegie 1962 a Deutscher Jugendliteraturpreis ym 1968. Fe'i ganed yn Kirkby-in-Ashfield a bu farw yn 92 oed.[1][2][3]

Pauline Clarke
Ganwyd19 Mai 1921 Edit this on Wikidata
Kirkby-in-Ashfield Edit this on Wikidata
Bu farw23 Gorffennaf 2013 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Carnegie Edit this on Wikidata

Ganwyd Anne Pauline Clarke yn Kirkby-in-Ashfield yn Swydd Nottingham ym 1921 ac yn ddiweddarach bu’n byw yn Bottisham, Swydd Gaergrawnt. Mynychodd ysgolion yn Llundain a Colchester. Hyd at 1943 bu’n astudio Saesneg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, yna bu’n gweithio fel newyddiadurwr ac yn ysgrifennu ar gyfer cylchgronau plant. Rhwng 1948 a 1972 ysgrifennodd lyfrau i blant. [4]

Ysgrifennodd sawl math o lyfr plant gan gynnwys ffantasïau, comedïau teuluol, nofelau hanesyddol a barddoniaeth. Roedd ei llyfrau yn y gyfres Five Dolls (1953–1963) yn boblogaidd iawn ond cyrhaeddodd ei hanterth, efallai, gyda The Twelve and the Genii, a gyhoeddwyd gan Faber ym 1962.

Llyfruddiaeth golygu

Fel Helen Clare golygu

  • Cyfres Dolls, a ddyluniawyd gan Cecil Leslie
    • Five Dolls in a House (1953)
    • Five Dolls and the Monkey (1956)
    • Five Dolls in the Snow (1957)
    • Five Dolls and Their Friends (1959)
    • Five Dolls and the Duke (1963)
  • Merlin's Magic (1953)
  • Bel the Giant and Other Stories (1956), dyl. Peggy Fortnum; ailgyhoeddwyd fel The Cat and the Fiddle and Other Stories (1968), illus. Ida Pellei
  • Seven White Pebbles (1960), dyl. Cynthia Abbott

Fel Pauline Clarke golygu

  • The Pekinese Princess (1948)
  • The Great Can (1952)
  • The White Elephant (1952)
  • Smith's Hoard (1955) hefyd fel Hidden Gold (1957) a The Golden Collar (1967)
  • Sandy the Sailor (1956)
  • The Boy with the Erpingham Hood (1956)
  • James the Policeman (1957)
  • James and the Robbers (1959)
  • Torolv the Fatherless (1959)
  • The Lord of the Castle (1960)
  • The Robin Hooders (1960)
  • Keep the Pot Boiling (1961)
  • James and the Smugglers (1961)
  • Silver Bells and Cockle Shells (1962)
  • The Twelve and the Genii (1962), dylunio gan Cecil Leslie; teitl yn UDA, The Return of the Twelves
  • James and the Black Van (1963)
  • Crowds of Creatures (1964)
  • The Bonfire Party (1966)
  • The Two Faces of Silenus (1972)

Fel Pauline Hunter Blair golygu

  • Anglo-Saxon Northumbria, Variorum gan Peter Hunter Blair (gol. gyda Michael Lapidge) (1984)
  • The Nelson Boy: An Imaginative Reconstruction of a Great Man's Childhood (1999)
  • A Thorough Seaman: The Ships' Logs of Horatio Nelson's Early Voyages Imaginatively Explored (2000)
  • Warscape (2002)
  • Jacob's Ladder (2003)

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Carnegie (1962) .

Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: http://www.tandfonline.com/doi/pdf/10.1080/0305764870170305.
  2. Dyddiad geni: "Pauline Clarke". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: "Pauline HUNTER BLAIR Obituary: View Pauline BLAIR's Obituary by The Times". "Pauline Clarke". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Galwedigaeth: http://www.whenintime.com/SearchTL.aspx?q=Pauline.