Pawl, brenin y Groegiaid

(Ailgyfeiriad o Pawl, Brenin y Groegiaid)

Uchelwr o Dŷ Glücksburg oedd Pawl (Groeg: Παύλος trawslythreniad: Pávlos;14 Rhagfyr 19016 Mawrth 1964) a fu'n Frenin y Groegiaid o 1 Ebrill 1947 hyd at ei farwolaeth.

Pawl, brenin y Groegiaid
Pawl, pan oedd yn dywysog, ym 1939.
Ganwyd14 Rhagfyr 1901 Edit this on Wikidata
Athen Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 1964 Edit this on Wikidata
Tatoi Royal Cemetery Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Groeg Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddBrenin y Groegiaid Edit this on Wikidata
TadCystennin I, brenin y Groegiaid Edit this on Wikidata
MamSophie o Brwsia Edit this on Wikidata
PriodFriederike o Hannover Edit this on Wikidata
PlantSofía, brenhines Sbaen, Cystennin II, Eiríni o Roeg Edit this on Wikidata
LlinachLlinach y Glücksburgs Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Marchog Urdd y Cnu Aur, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch-seren Datganiad o Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Urdd y Gwaredwr, Urdd y Dannebrog, Urdd Teilyngdod Bavaria, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Uwch Groes y Llynges, gyda bathodyn gwyn Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Athen, yn bedwerydd plentyn i'r Tywysog Coronog Cystennin a'i wraig y Dywysoges Sophie, merch Ffredrig III, cyn-Ymerawdwr yr Almaen. Roedd ganddo ddau frawd hŷn (Siôr ac Alecsander), un chwaer hŷn (Elen), a dwy chwaer iau (Eiríni a Catrin). Yn sgil llofruddiaeth ei dad-cu, y Brenin Siôr I, ym 1913, esgynnodd Cystennin I i'r orsedd. Wedi i Roeg ymuno â'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1917 ar ochr y Cynghreiriaid, dan arweiniad y Prif Weinidog Eleftherios Venizelos, aeth Cystennin yn alltud (gyda Pawl) a choronwyd Alecsander yn Frenin y Groegiaid. [1] Wedi marwolaeth ei frawd Alecsander yn Hydref 1920, gwrthododd Pawl, yn 18 oed, y goron, ac adferwyd Cystennin yn frenin yn sgil pleidlais. Dychwelodd Pawl i Roeg yn Rhagfyr 1920. Ymddiorseddodd Cystennin am yr eildro ym 1922 ac esgynnodd Siôr II i'r orsedd; yn wyneb gwrthwynebiad iddo, aeth y teulu brenhinol, gan gynnwys Pawl, yn alltud eto yn Rhagfyr 1923.[2]

Adferwyd Siôr yn frenin ym 1935, a dychwelodd Pawl i Roeg unwaith eto. Ar 9 Ionawr 1938, priododd Pawl â Friederike, Tywysoges Hannover, wyres y Caiser Wilhelm II. Cawsant dri phlentyn: Sophia (ganed 1938), a fyddai'n priodi Juan Carlos, Tywysog Astwrias, ym 1962 ac yn Frenhines Gydweddog Sbaen o 1975 i 2014; Cystennin (1940–2023), yr olaf o Frenhinoedd y Groegiaid o 1964 i 1973; ac Irene (g. 1942). Dyrchafwyd y Tywysog Pawl yn swyddog yn y llynges, y fyddin, a'r awyrlu, ac yr oedd yn aelod o staff y fyddin adeg goresgyniad Groeg gan yr Eidal yn Hydref 1940. Ffoes y teulu brenhinol y wlad, a threuliodd Pawl weddill yr Ail Ryfel Byd yn yr Aifft ac yn Ne Affrica.

Esgynnodd Pawl i'r orsedd yn sgil marwolaeth Siôr II ar 1 Ebrill 1947. Yn ystod Rhyfel Cartref Groeg (1946–49), derbyniodd ei wlad gymorth economaidd a milwrol oddi ar Unol Daleithiau America a'r Deyrnas Unedig er mwyn gostegu'r gwrthryfel comiwnyddol. Bu farw'r Brenin Pawl yn Athen yn 62, wedi 17 mlynedd ar yr orsedd, a fe'i olynwyd gan ei fab Cystennin II.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) George II (king of Greece). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ionawr 2023.
  2. (Saesneg) Paul (king of Greece). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ionawr 2023.