Tŷ Glücksburg
Teulu pendefigaidd o darddiad Almaenig yw Tŷ Glücksburg sydd yn gangen gyfochrog o Dŷ Oldenburg. Mae aelodau o Dŷ Glücksburg wedi teyrnasu ar sawl brenhiniaeth ar draws Ewrop, gan gynnwys Denmarc, Norwy, Sweden, Gwlad yr Iâ, Groeg, y Deyrnas Unedig, yn ogystal â sawl hen ddugiaeth Almaenig. Tri aelod o linachau'r tadau yng nghanghennau iau Tŷ Glücksburg sydd yn teyrnasu ar hyn o bryd: Margrethe II, brenhines Denmarc (ers 1972), Harald V, brenin Norwy (ers 1991), a Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig (ers 2022). Mae Anne Marie, cyn-Frenhines Gydweddog y Groegiaid (o 1964 i 1973), a Sofía, cyn-Frenhines Gydweddog Sbaen (o 1975 i 2014), hefyd yn disgyn o'r achau hynny.
Arfbais y Dug Frederik Christian II o Dŷ Glücksburg. | |
Enghraifft o'r canlynol | teyrnach |
---|---|
Label brodorol | Glücksburg |
Rhan o | Schleswig-Holstein-Sonderburg, House of Oldenburg |
Dechrau/Sefydlu | 1825 |
Yn cynnwys | Mountbatten-Windsor, Danish Royal Family, Llinach y Glücksburgs, Norwegian royal family, House of Laborde de Monpezat |
Sylfaenydd | Friedrich Wilhelm |
Pencadlys | Castell Glücksburg |
Enw brodorol | Glücksburg |
Gwladwriaeth | Denmarc, Brenhiniaeth Denmarc, Teyrnas Gwlad Groeg, Kingdom of Iceland, Norwy, y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw enw dugol y teulu o Glücksburg (Daneg: Lyksborg), y dref bellaf i'r gogledd yn yr Almaen, a saif ar lan ddeheuol Ffiord Flensburg ar y ffin rhwng yr Almaen a Denmarc.[1] Yr oedd yn hanesyddol yn rhan o Ddugiaethau Schleswig-Holstein, a ddaeth ym 1460 dan reolaeth Cristian I, brenin Denmarc, Norwy, a Sweden, y teyrn Llychlynnaidd cyntaf o Dŷ Oldenburg. Mae achau Tŷ Glücksburg felly yn disgyn, yn ôl cyntafanedigaeth agnodol, o'i fab Frederik I. Darfu brenhinllin Oldenburg yn Nenmarc ym 1863, ac yn sgil marwolaeth Albert, Dug Schleswig-Holstein, ym 1931 daeth y llinach hŷn o'r tŷ i ben. Ers hynny, Tŷ Glücksburg ydy'r gangen hynaf sydd yn goroesi o Dŷ Oldenburg.
Llinach wrywol hŷn Tŷ Glücksburg ydy Dugiaid Schleswig-Holstein-Sonderburg-Glücksburg, a phennaeth y tŷ ers 1980 yw Christoph, Tywysog Schleswig-Holstein (ganed 1949). Daeth Tŷ Glücksburg i deyrnasu yn Nenmarc ym 1863, pan olynodd Cristian IX ei gyfyrder Frederik VII, yr olaf o frenhinoedd Oldenburg. Ym 1863 hefyd daeth un o deulu Glücksburg i orsedd Groeg, pan etholwyd y Tywysog Wilhelm o Ddenmarc yn Siôr I, brenin y Groegiaid gan y Cynulliad Cenedlaethol, ar gais pwerau mawrion Ewrop. Brenin olaf y Groegiaid oedd Cystennin II, a ymddiorseddodd ym 1973. Daeth yr undeb rhwng Sweden a Norwy i ben ym 1905, a sefydlwyd brenhiniaeth ar wahân yn Norwy, a choronwyd y Tywysog Carl o Ddenmarc yn Haakon VII. Byddai Teyrnas Gwlad yr Iâ, o 1918 i 1944, hefyd dan deyrnasiad Tŷ Glücksburg, gan rannu'r un brenin â Denmarc, Christian X. Mae'r Brenin Siarl III yn disgyn o Dŷ Glücksburg ar ochr ei dad, y Tywysog Philip, a oedd yn ŵyr i Siôr I, brenin y Groegiaid; fodd bynnag, ystyrir mae Tŷ Windsor, sef ochr ei fam, yw enw teulu brenhinol y Deyrnas Unedig o hyd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wilson, Peter Hamish (2011). The Thirty Years War: Europe's Tragedy (yn Saesneg). Harvard University Press. ISBN 978-0-674-06231-3.
- ↑ Montgomery-Massingberd, Hugh. Burke's Royal Families of the World, Volume I: Europe & Latin America, 1977, pp. 325–326. ISBN 0-85011-023-8 (Saesneg)