Peithon

teulu o beithonau gwenwynig

Teulu o nadroedd anwenwynig sy'n darwasgu eu hysglyfaeth yw'r peithoniaid (Pythonidae). Maent yn byw yn ardaloedd trofannol ac isdrofannol Asia, Affrica ac Oceania. Mae'r mwyafrif ohonynt yn fawr ac yn gorffdrwm.

Ynghynt, cafodd y peithoniaid eu hystyried yn is-deulu (Pythoninae) o fewn teulu'r boaod (Boidae), gan yr oeddent i gyd yn nadroedd gwasgu. Y brif wahaniaeth rhwng y ddau deulu yw'r modd maent yn esgor ar eu hepil: anifeiliaid bywesgorol yw'r mwyafrif o foaod, tra bo'r peithoniaid i gyd yn dodwy. Ymdorcha'r fam beithon am ei hwyau, ac mae ambell rhywogaeth yn deor.[1]

Byw mae'r peithoniaid ar y ddaear ac yn y coed. Ymgynhelir rhywogaethau daeardrig ger y dŵr: nofwyr cryf ydynt, ond ar y ddaear maent yn hela a bwyta. Mae ambell rhywogaeth, megis y peithon gwyrdd (Awstralia a Gini Newydd), yn treulio bron ei holl oes yn y coed a'r llwyni. Mamaliaid ac adar yw ysglyfaeth y peithoniaid mawrion. Mae rhywogaethau llai o faint yn bwyta amffibiaid ac ymlusgiaid. Mae ganddynt synnwyr arogleuo a golwg cryf, a gall y mwyafrif ohonynt synhwyro gwres sy'n eu galluogi i hela yn y nos. Delir prae drwy neidio a brathu, ac yna ymddolenu o'i gwmpas a'i wasgu'n dynn a'i fygu. Trigai rhai rhywogaethau mewn ardaloedd trefol a maestrefol, gan hela llygod mawr.[1]

Rhennir y teulu yn wyth genws: Antaresia, Apodora, Aspidites, Bothrochilu, Leiopython, Liasis, Morelia, a Python.[2] Y peithon tyrchu Mecsicanaidd yw'r unig neidr yn yr Amerig sy'n dwyn yr enw peithon. Mae'r rhywogaeth hon yn debyg iawn i'r peithoniaid, ond nid yw'n aelod o'r un teulu. Dosbarthir o dan Loxocemidae, ac yn unig aelod y teulu hwnnw. Rhoddir yr enw hefyd ar y peithon tyrchu sy'n byw yng Ngorllewin Affrica; aelod o deulu'r boaod yw'r rhywogaeth hon.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Python (snake group). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Medi 2016.
  2. (Saesneg) Pythonidae, ITIS. Adalwyd ar 2 Medi 2016.