Penelope Mortimer
Roedd Penelope Ruth Mortimer (g. Fletcher, 19 Medi 1918 - 19 Hydref 1999) yn newyddiadurwr, cofiannydd a nofelydd o Gymru. Trowyd ei nofel lled-hunangofiannol The Pumpkin Eater (1962) yn ffilm ym 1964 a arweiniodd at enwebwyd i Anne Bancroft ar gyfer Gwobr yr Academi am yr Actores Orau am ei pherfformiad o'r cymeriad Jo Armitage, cymeriad sy'n seiliedig ar Mortimer ei hun.
Penelope Mortimer | |
---|---|
Ganwyd | 19 Medi 1918 Y Rhyl |
Bu farw | 19 Hydref 1999 Kensington |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cofiannydd, sgriptiwr, newyddiadurwr, nofelydd, beirniad ffilm, llenor |
Priod | John Mortimer |
Plant | Caroline Mortimer, Jeremy Mortimer |
Bywyd personol
golyguGanwyd Mortimer fel Penelope Ruth Fletcher yn y Rhyl,[1] Sir y Fflint ( Sir Ddinbych bellach). Roedd hi'n ferch iau Amy Caroline Fletcher a'r Parch A F G Fletcher,[2] clerigwr Anglicanaidd, a oedd wedi colli ei ffydd ac yn defnyddio cylchgrawn y plwyf i ddathlu erledigaeth Sofietaidd ar eglwys Rwsia. Fe wnaeth ei cham-drin yn rhywiol hefyd.
Yn ddiweddarach ysgrifennodd Mortimer am ei thad: "Rwy'n credu ei fod yn glerigwr am un rheswm yn unig; nid oedd unrhyw beth arall - fel ail fab Nellie Fletcher - gallai fod wedi bod o bosibl! Yn fachgen bach, yn cael ei fwlio a'i bryfocio gan chwe chwaer a phedwar brawd, eisteddodd o dan fwrdd y feithrinfa yn llafarganu 'Mama, papa, all the children are disagreeable except me', i dôn Gentle Jesus." [2]
Byddai ei thad yn newid ei blwyf yn aml ac roedd hi'n mynychu nifer o ysgolion. Cafodd ei haddysgu ledled y wlad, yn Ysgol Uwchradd Croydon, yr Ysgol Newydd, Streatham, Blencathra, y Rhyl, Ysgol yr Ardd, Lane End, Ysgol St Elphin ar gyfer Merched y Clerigwyr, a'r Swyddfa Addysg Ganolog i Fenywod. Gadawodd Goleg y Brifysgol, Llundain, ar ôl blwyddyn.[2]
Priododd â Charles Dimont, newyddiadurwr, ym 1937 [3] bu iddynt ddwy ferch, gan gynnwys yr actores Caroline Mortimer. Roedd ganddi hefyd ddwy ferch trwy berthnasoedd all-briodasol â Kenneth Harrison a Randall Swingler.[4] Cyfarfu â'r bargyfreithiwr a'r ysgrifennwr John Mortimer tra'n feichiog gyda'r plentyn olaf a'i briodi ar 27 Awst 1949, y diwrnod y daeth ei ysgariad oddi wrth Dimont yn absoliwt.[1] Bu iddynt ferch a mab, Jeremy Mortimer. Yn fuan, tyfodd eu perthynas, y dywedwyd ei bod yn hapus ar y dechrau, yn stormus, ac o ganol y 1950au ymlaen roedd gan John gyfres o berthnasau all-briodasol.
Yn y 1950au a'r 1960au tynnwyd llun y cwpl yn aml mewn digwyddiadau cymdeithas uchel yn Llundain.[4][5] Fodd bynnag, y tu ôl i'r ffasâd o hapusrwydd, roedd Penelope yn dioddef pyliau o iselder yn aml. Ym 1962, yr un flwyddyn ag ysgrifennwyd The Pumpkin Eater, yn feichiog am yr wythfed tro ac eisoes yn fam i chwech yn 42 oed, cytunodd i erthyliad a sterileiddio yn annogaeth John Mortimer.[1] Dywedir ei bod yn hapus gyda'r penderfyniad, ond yn ystod ei chyfnod gwella, darganfu berthynas ei gŵr â Wendy Craig, y cafodd fab ganddo.[6] Fe wnaethant ysgaru ym 1971.
Ysgrifennu
golyguYsgrifennodd Mortimer dros ddwsin o nofelau yn ystod ei gyrfa, gan ganolbwyntio ar fywyd dosbarth canol uwch yng nghymdeithas Prydain.[5] Roedd ganddi un nofel, Johanna, a gyhoeddwyd o dan yr enw Penelope Dimont.[4] Yna fel Penelope Mortimer ysgrifennodd A Villa in Summer (1954, Michael Joseph), a gafodd glod beirniadol. Dilynwyd mwy o nofelau, gan gynnwys Gone A-Hunting (1958, a ailgyhoeddwyd yn 2008 gan Persephone Books ) a The Pumpkin Eater (1962), a ddeliodd â phriodas gythryblus ac a gafodd lwyddiant fel ffilm a ryddhawyd ym 1964 yn serennu Anne Bancroft.
Bu Mortimer hefyd yn gweithio ar ei liwt ei hun fel newyddiadurwr, gyda'i gwaith a'i straeon yn ymddangos yn rheolaidd yn The New Yorker.[4] Fel agony aunt i'r Daily Mail, ysgrifennodd o dan y ffugenw Ann Temple. Ar ddiwedd y 1960au, disodlodd Penelope Gilliatt fel y beirniad ffilm ar gyfer The Observer.[7]
Parhaodd Mortimer mewn newyddiaduraeth, yn bennaf ar gyfer The Sunday Times, a ysgrifennodd sgriptiau hefyd. Comisiynwyd ei bywgraffiad o'r Frenhines Elizabeth Mam y Frenhines gan Macmillan, ond pan gafodd ei chwblhau cafodd ei gwrthod, a'i gyhoeddi yn y pen draw gan Viking ym 1986.[2]
Ysgrifennodd Mortimer ddwy gyfrol o hunangofiant: About Time: An Aspect of Autobiography, a oedd yn ymdrin â’i bywyd tan 1939, ymddangosodd ym 1979 ac enillodd Wobr Whitbread, ac About Time Too: 1940–1978 ym 1993. Mae trydedd gyfrol, Closing Time, heb ei chyhoeddi eto.[2]
Marwolaeth
golyguBu farw Penelope Mortimer o ganser yn Kensington, Llundain, yn 81 mlwydd oed.
Llyfryddiaeth
golyguNofelau
golygu- Johanna (1947, fel Penelope Dimont)
- A Villa in Summer (1954)
- The Bright Prison (1956)
- Daddy's Gone A-Hunting (1958)
- The Pumpkin Eater (1962)
- My Friend Says It's Bulletproof (1968)
- The Home (1971)
- Long Distance (1974)
- The Handyman (1983)
Casgliadau straeon byrion
golygu- Saturday Lunch with the Brownings (1977)
- Humphrey's Mother
Hunangofiannau
golygu- About Time: An Aspect of Autobiography (1979)
- About Time Too: 1940–78 (1993)
Bywgraffiad
golygu- Queen Elizabeth the Queen Mother (1986), argraffiad diwygiedig 1995 gydag isdeitlau An Alternative Portrait Of Her Life And Times
Ysgrifennu teithio
golygu- With Love and Lizards (ar y cyd a John Mortimer, 1957)
Dramau sgrin
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Cooke, Rachel (28 June 2015). "Penelope Mortimer – return of the original angry young woman". The Guardian. Cyrchwyd 18 Hydref 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Gordon, Giles (22 Hydref 1999). "Penelope Mortimer". The Guardian. Cyrchwyd 18 Hydref 2019.
- ↑ "Penelope Mortimer | British author". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2019-10-18.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 Scholes, Lucy (2 Rhagfyr 2018). "Penelope Mortimer: A Writing Life". The New York Review of Books. Cyrchwyd 18 Hydref 2019.
- ↑ 5.0 5.1 Honan, William H. (23 Hydref 1999). "Penelope Mortimer, 81, Author of 'Pumpkin Eater'". Nytimes.com. Cyrchwyd 18 Hydref 2019.
- ↑ Ferri, Jessica (2014-03-25). "The Neglected Penelope Mortimer Was a Novelist Ahead of Her Time". Cyrchwyd 2019-10-18.
- ↑ Ferri, Jessica (2012-02-08). "Un(der)known Writers: Penelope Mortimer". The New Inquiry. Cyrchwyd 2019-10-18.
- ↑ "Bunny Lake Is Missing". IMDb.com. 3 Hydref 1965. Cyrchwyd 18 Hydref 2019.
Dolenni allanol
golygu- Proffil Awdur yn Persephone Books Archifwyd 2016-04-14 yn y Peiriant Wayback
- Daddy's Gone A-Hunting yn Persephone Books
- Ysgrif goffa New York Times, 23 Hydref 1999