Peniarth 51
Llawysgrif Gymraeg ganoloesol yn llaw y bardd Gwilym Tew yw llawysgrif Peniarth 51. Dyma'r unig lawysgrif gyfan y gellir profi ei bod yn waith Gwilym Tew, er y gwyddys iddo ysgrifennu llawysgrifau eraill. Fe'i cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn rhan o'r casgliad enwog Llawysgrifau Peniarth.
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif |
---|---|
Deunydd | papur, inc |
Awdur | Gwilym Tew, Dafydd ap Gwilym, Iolo Goch |
Rhan o | Llawysgrifau Peniarth |
Iaith | Cymraeg |
Tudalennau | 210 |
Dechrau/Sefydlu | 1450 |
Genre | barddoniaeth |
Lleoliad | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Prif bwnc | geirfa |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd ei hysgrifennu gan Gwilym Tew yn y cyfnod 1460-1480. Mae'r testunau a geir ynddi yn cynnwys geirfa barddol a luniwyd gan y bardd ei hun, gan dynnu ar ffynonellau fel Llyfr Aneirin, a fu yn ei feddiant ar y pryd, a'i gyfieithiad o'r testun Ffrangeg Canol Bestiaire d'Amour ('Bwystori Serch') gan Richart de Fornival (1201 - ?1260).
Cafodd y llawysgrif ei ffordd i Sir Ddinbych yn yr 16g lle daeth yn eiddo i'r bardd ac achyddwr Gruffudd Hiraethog. Ymddengys iddo ei chael gan ei gyfaill ac athro barddol Lewys Morgannwg. Yn ôl pob tebyg roedd Gwilym Tew yn ewythr i Lewys. Ceir llofnod y bardd Roger Kyffin (fl. c.1587 - 1609) o Sir Ddinbych yn y llawysgrif. Daeth yn rhan o lyfrgell Robert Vaughan o Hengwrt, Meirionnydd ac yna'n rhan o lyfrgell Peniarth.
Cyfeiriadau
golygu- Graham C. G. Thomas (gol.), A Welsh Bestiary of Love (Dulyn, 1988), tt. xviii-xix.