Twrcelyn
cwmwd sydd yn rhan rhan o gantref Cemais, Ynys Môn
Cwmwd yng ngogledd-dwyrain Môn oedd cwmwd Twrcelyn. Roedd yn un o ddau gwmwd cantref Cemais, yn gorwedd i'r dwyrain i'r cwmwd arall, Talybolion.
Gorweddai'r cwmwd ar arfordir gogledd-ddwyrain yr ynys, gan ffinio â chwmwd Talybolion i'r gorllewin, cwmwd Llifon (cantref Aberffraw) i'r de-orllewin a chantref Rhosyr i'r de. Penrhosllugwy oedd canolfan y cwmwd a lleoliad ei faenor.