Pensaernïaeth Googie

Mae Pensaernïaeth Googie yn fath o bensaernïaeth ddyfodolaidd a chafodd ei ddylanwadu gan ddiwylliant ceir, jetiau, Oes y Gofod, ac Oes yr Atom.[1] Dechreuodd yn Ne Califfornia yn yr 1930au, a daeth yn boblogaidd ledled y wlad yn ystod diwedd y 1940au i ganol y 1960au. Roedd pensaernïaeth Googie yn boblogaidd ymhlith motelau, tai coffi a gorsafoedd petrol. Daeth yr arddull yn adnabyddus fel rhan o'r arddull fodern canol y ganrif, ac mae elfennau ohoni i'w ymweld yn yr esthetig populuxe.[2][3] Daw'r term "Googie" o dŷ coffi yn Hollywood y dyluniwyd gan John Lautner, sydd bellach wedi diflanni.[4][5] Cyfeirir at arddulliau pensaernïol tebyg hefyd fel Populuxe neu Doo Wop.[6][7]

Pensaernïaeth Googie
Enghraifft o'r canlynolarddull pensaernïol Edit this on Wikidata
Mathfuturist architecture Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Lleoliad Bwyty Norms ar Rodfa La Cienega yn Los Angeles

Mae nodweddion Googie yn cynnwys toeau wedi'u huwchraddio, siapiau cromlinog a geometrig, a defnydd hyderus o wydr, dur a neon. Mae nodweddion Googie hefyd yn cynnwys dyluniadau o Oes y Gofod, megis bwmerangau, soseri hedegog, atomau a pharabolâu diagramatig, a dyluniadau ffurf rydd fel paralelogramau "meddal" a motiffau palet artist. Roedd yr arddulliau hyn yn cynrychioli diddordeb America mewn themâu Oes y Gofod, a'r pwyslais marchnata ar ddyluniadau dyfodolaidd. Yn yr un modd ag arddull Art Deco yr 1910au - 1930au, daeth Googie yn llai gwerthfawr wrth i amser fynd heibio, a chafodd llawer o adeiladau'r arddull hon eu dinistrio. Serch hynny mae rhai enghreifftiau wedi'u cadw fel y stondin hynaf McDonald's (wedi'i leoli yn Downey, Califfornia).

 
Lle golchi ceir yn yr arddull Googie

Mae'r enw Googie yn dyddio i 1949, pan ddyluniodd y pensaer John Lautner tŷ goffi yn Hollywood o'r enw Googies, a oedd yn cael nodweddion pensaernïol penodol.[8] Yr enw "Googie" oedd llysenw teuluol Lillian K. Burton, gwraig y perchennog gwreiddiol, Mortimer C. Burton.[9][10] Roedd y tŷ coffi hwn ar gornel Sunset Boulevard a Crescent Heights yn Los Angeles, ond cafodd ei ddymchwel ym 1989.[11] Dechreuwyd defnyddio'r enw Googie ar gyfer yr arddull bensaernïol ar ôl i Douglas Haskell defnyddio'r term yn rhifyn 1952 o'r cylchgrawn House and Home.[12][13] Roedd Douglas Haskell, y golygydd, a’r ffotograffydd pensaernïol Julius Shulman yn gyrru trwy Los Angeles un diwrnod, pan fynnodd Haskell stopio'r car wrth weld tŷ goffi Googies a chyhoeddi "Dyma bensaernïaeth Googie."[8]

 
Arwydd Googie clasurol yn Warren, Ohio ar gyfer lle gyrru i mewn

Mae pensaernïaeth Googie yn dechrau gyda arddull pensaernïaeth Streamline Moderne y 1930au.[14] Mae Alan Hess, un o'r awduron mwyaf gwybodus ar y pwnc, yn ysgrifennu taw symudedd yn Los Angeles yn ystod y 1930au a chychwynnodd yr arddull. Nodweddwyd y cyfnod gan fewnlifiad o geir, a'r diwydiant gwasanaeth a esblygodd i ddarparu ar ei gyfer. Gyda pherchnogaeth ceir yn cynyddu, nid oedd angen i ddinasoedd bellach bod yn ganolog, ond gallent ymledu i'r maestrefi, lle gallai canolfannau busnes gael eu cymysgu ag ardaloedd preswyl. Yn lle un brif siop yng nghanol y ddinas, roedd nawr gan fusnesau nifer o siopau mewn ardaloedd maestrefol. Roedd y duedd newydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i berchnogion a phenseiri ddatblygu delweddaeth weledol fel y byddai cwsmeriaid yn ei hadnabod o'r hewl. Roedd y bensaernïaeth fodern hon yn seiliedig ar gyfathrebu.[15] Cyflawnwyd hyn trwy ddefnyddio dewisiadau arddull beiddgar, gan gynnwys peilonau mawr gydag arwyddion uchel, llythrennau neon beiddgar a phafiliynau crwn.[16][17]

Yn debyg iawn i Googie, roedd Streamline Moderne wedi ei steilio i edrych yn ddyfodolaidd er mwyn nodi dechrau cyfnod newydd - sef y cyfnod y car a thechnolegau eraill. Datblygwyd gwasanaethau gyrru i mewn megis bwytai, sinemâu a gorsafoedd pertrol, a adeiladwyd gyda'r un egwyddorion, i wasanaethu dinasoedd newydd America.[17] Roedd angen i rain cael eu dylunio mewn ffordd a oedd yn canolbwyntio ar geir: roeddent wedi'u hadeiladu gydag arddull iwtilitaraidd, yn gylchol ac wedi'u hamgylchynu gan faes parcio, yn caniatáu mynediad cyfartal i'w holl gwsmeriaid.[18]

Roedd "Ras Ofod" yn y 1950au a'r 1960au, a diddordeb America yn ngofod-deithio, wedi dylanwadu'r arddull Googie yn sylweddol.

 
Byrddau patio ym mwyty Bob's Big Boy yn Burbank, Califfornia[19]

Pensaer dylanwadol cynnar oedd Wayne McAllister, gyda'i fwyty Bob's Big Boy ym 1949 yn Burbank.[19] Er na chafodd hyfforddiant ffurfiol fel pensaer, cynigiwyd ysgoloriaeth iddo yn yr ysgol bensaernïaeth ym Mhrifysgol Pennsylvania oherwydd ei sgil.[20] Datblygodd McAllister frand ar gyfer cadwyni tai coffi trwy ddatblygu arddull gwahanol ar gyfer pob cleient - felly roedd yn caniatáu i gwsmeriaid adnabod siop benodol o'r hewl yn hawdd.[21] Ynghyd â McAllister, mae penseiri pwysig Googie yn cynnwys John Lautner, Douglas Honnold, a thîm Louis Armet ac Eldon Davis o gwmni Armet & Davis, a sefydlwyd ym 1947.[4] Hefyd yn allweddol wrth ddatblygu'r arddull oedd y dylunydd Helen Liu Fong, a ymunodd â chwmni Armet a Davis ym 1951.[22]

Nodweddion

golygu
 
Johnie's Coffie Shop ar Rodfa Wilshire, Los Angeles, a ddyluniwyd gan Armet & Davis

Nodweddion pensaernïaeth Googie yw strwythurau cantilifrog onglau llem, paneli plastig wedi'u goleuo, siapiau bwmerang a phalet yr artist, a chynffonnau tailfin ceir ar adeiladau. Roedd gan y nodweddion hyn dibarch gan rhai penseiri Moderniaeth Celfyddyd Uchel ar y pryd, ond roedd ganddynt gefnogwyr yn ystod y cyfnod ôl-Fodern ar ddiwedd yr 20fed ganrif. Yr elfennau cyffredin sy'n gwahaniaethu Googie o fathau eraill o bensaernïaeth yw:

 
Arwydd "Welcome to Fabulous Las Vegas"
  • Toeau ar ongl esgynnol: Dyma'r un elfen arbennig lle oedd penseiri yn creu strwythurau unigryw. Mae gan nifer o dai coffi a strwythurau eraill mewn arddull Googie to sydd i'w weld i fod 23 o ongl aflem gwrthdro. Enghraifft wych o hyn yw Johnie's Coffee Shop ar Wilshire Boulevard yn Los Angeles, sydd bellach wedi cau.
  • Ffrwydron seren: Mae addurniadau ffrwydron seren yn gyffredin yn null Googie, yn dangos dylanwadau Oes Gofod a'r mympwyol. Yr enghraifft fwyaf nodedig o ffrwydrad seren yw'r arwydd "Welcome i Fabulous Las Vegas" enwog. Mae Hess yn ysgrifennu bod yr addurniad hwn yn ffurf o "ffrwydrad egni-uchel".[23] Mae'r siâp hwn yn enghraifft o ddyluniad an-iwtilitaraidd, oherwydd nad oes gan siâp y seren unrhyw swyddogaeth wirioneddol, ond elfen ddylunio ydyw.

Roedd siâp y bwmerang yn elfen arall poblogaidd. Fe'i defnyddiwyd yn strwythurol yn lle piler, neu'n esthetaidd fel saeth. Mae Hess yn ysgrifennu bod y bwmerang yn rendro maes egni cyfeiriadol.[24]

Disgrifiodd Douglas Haskell yr arddull Googie gan ddweud "Os yw'n edrych fel aderyn, rhaid iddo fod yn aderyn geometrig."[25] Hefyd, mae rhaid i'r adeiladai ymddangos fel ei bod yn herio disgyrchiant: "... pryd bynnag y bo hynny'n bosibl, rhaid i'r adeilad hongian o'r awyr". Trydedd egwyddor Haskell ar gyfer Googie oedd bod ganddo fwy nag un thema - mwy nag un system strwythurol. Oherwydd ei angen i dynnu sylw o geir sy'n symud ar hyd yr hewl fasnachol, nid oedd Googie yn arddull a nodwyd am ei ysgafnder.

Un o adeiladau Googie enwocaf yw'r Adeilad Thema ym Maes Awyr Rhyngwladol Los Angeles (LAX), a ddyluniwyd gan James Langenheim o Pereira a Luckman, ac a adeiladwyd ym 1961. Un o'r bwytai gyrru i mewn steil Googie sydd ar ôl yw Harvey's Broiler (Paul Clayton, 1958) yn Downey, Califfornia, a ail-enwyd Johnie's Broiler nes ymlaen. Cafodd ei ddymchwel yn rhannol yn 2006. Fodd bynnag, trwy ymdrechion trigolion Downey, y ddinas ei hun, a chadwraethwyr hanesyddol, ail-adeiladwyd ac ail-agorwyd y strwythur yn 2009 fel bwyty Bob's Big Boy.

 
The Caribbean Motel yn Wildwood, New Jersey

Dylanwad

golygu

Fe wnaeth yr arddull gor-ddyfodol Googie ymddangos yng nghartŵn The Jetsons, ac yn y Disneyland gwreiddiol (a oedd yn cynnwys Tomorrowland yn yr arddull Googie); a ddylanwadodd arddull ôl-ddyfodoliaeth (retrofuturism) sawl degawd yn ddiweddarach. Googie hefyd oedd ysbrydoliaeth ar gyfer arddull dylunio'r set y ffilm Pixar The Incredibles a’r cyfresi teledu Jimmy Neutron, The Powerpuff Girls a Futurama.

Cyfeiriadau

golygu
  • Abbott, Carl (1993). The Metropolitan Frontier: Cities in the Modern American West. University of Arizona Press. ISBN 0-8165-1129-2.
  • Hess, Alan (2004). Googie Redux: Ultramodern Roadside Architecture. Chronicle Books. t. 222. ISBN 978-0811842723. OCLC 249477365. (previously published in 1986 as Googie: Fifties Coffee Shop Architecture ISBN 978-0877013341)
  • Langdon, Philip (1986). Orange Roofs, Golden Arches: The Architecture of American Chain Restaurants. Knopf. ISBN 0-394-54401-3.
  1. Friedlander, Whitney (May 18, 2008). "Go on a SoCal hunt for Googie architecture". Baltimore Sun. Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-06. Cyrchwyd 11 February 2009. It was the 1950s. America was a superpower, and the Los Angeles area was a center of it. The space race was on. A car culture was emerging. So were millions of postwar babies. Businesses needed ways to get families out of their automobiles and into coffee shops, bowling alleys, gas stations and motels. They needed bright signs and designs showing that the future was now. They needed color and new ideas. They needed Googie.
  2. Stager, Claudette; Carver, Martha (2006). Looking Beyond the Highway: Dixie Roads and Culture. Univ. of Tennessee Press. t. 158. ISBN 978-1-57233-467-0. Cyrchwyd 9 August 2013.
  3. Cotter, Bill; Young, Bill (2004). "Populuxe and Pop Art". The 1964-1965 New York World's Fair. Arcadia Publishing. t. 51. ISBN 978-0-7385-3606-4. Cyrchwyd 9 August 2013.
  4. 4.0 4.1 Nelson, Valerie J. (2011-04-26). "Eldon Davis dies at 94; architect designed 'Googie' coffee shops". Los Angeles Times. Cyrchwyd 2011-05-15.
  5. John Lautner Why Do Bad Guys Always Get The Best Houses? October 31 by Rory Stott ArchDaily
  6. Doo Wop Motels: Architectural Treasures of The Wildwoods by Kirk Hastings 2007, p.2
  7. "Doo Wop Preservation League Web site". Doowopusa.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-02. Cyrchwyd 2013-06-25.
  8. 8.0 8.1 Hess 2004, pp. 66–68
  9. Hess 2004, pp. 73–74
  10. "Googie's". Los Angeles Times. 1986-07-10. Cyrchwyd 2011-02-27.
  11. Langdon 1986, p.114
  12. Abbott 1993, p.174
  13. "Googie". TIME. 1952-02-25. http://www.time.com/time/magazine/article/0,9171,816051,00.html. Adalwyd 2009-03-05. "Googie architecture, says HOUSE & HOME, is "Modern Architecture Uninhibited ... an art in which anything and everything goes—so long as it's modern ..."
  14. Hess 2004, p. 26
  15. Hess 2004, p. 30
  16. Hess 2004, pp. 41–42
  17. 17.0 17.1 Hess 2004, p. 29
  18. Hess 2004, p. 39
  19. 19.0 19.1 Bob's Big Boy (1970-01-01). "maps.google.com". maps.google.com. Cyrchwyd 2013-06-25.
  20. Hess 2004, p. 36
  21. Hess 2004, p. 86
  22. Reyes, Emily Alpert (2015-01-16). "L.A. to consider preservation of Googie-style Norms on La Cienega". Los Angeles Times. Cyrchwyd 2015-01-16.
  23. Hess 2004, p. 194
  24. Hess 2004, p. 192
  25. Hess 2004, p. 68