Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, pennaeth y 'teulu' (gosgordd filwrol y brenin) oedd y penteulu (Cymraeg Canol, penteilu/penteylu). Yn ôl defod hynafol, roedd y penteulu yn fab neu nai i'r brenin ei hun.[1]

Disgrifir ei swydd a'i le yn llys y brenin yn yr adran ar Gyfraith y Llys yn y llyfrau cyfraith Cymreig. Roedd yn un o'r Pedwar Swyddog ar Ugain yn y llys. Roedd yn eistedd ym mhen isaf y neuadd gydag aelodau dethol o'r osgordd o gwmpas drws y neuadd, ac felly yn gwarchod y fynedfa. Yn ei ymyl roedd y bardd teulu, a ganai i'r osgordd a'i diddanu (mae lle i dybio fod Aneirin yn fardd teulu cynnar), ac roedd y penteulu yn fod i roi iddo ei delyn. Ei werth a'i sarhad oedd traean o werth y brenin ac - yng Ngwynedd o leiaf - roedd dan awdurdod y Distain.[2]

Ceir cyfran o waith Beirdd y Tywysogion sy'n ganu i 'deuluoedd', yn cynnwys y penteulu, er enghraifft i deuluoedd Madog ap Maredudd, Owain Cyfeiliog ac Owain Gwynedd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dafydd Jenkins, Cyfraith Hywel (Gwasg Gomer, 1976), tud. 26.
  2. Llyfr Iorwerth, gol. Aled Rhys William (Caerdydd, 1960, 1979), 5.11, 6.1 et seq..
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.